Y Nofel Ddomestig Gymraeg Dros Dair Cenhedlaeth, Gyda Sylw
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cyflwyniad: gwreiddiau’r ‘domestig’ Y mae i’r nofel ‘ddomestig’ le canolog yn llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif, ac fel pob genre arall, nid yw wedi aros yn ei hunfan. Bwriad yr astudiaeth hon yw dilyn y nofel ddomestig dros dair cenhedlaeth trwy waith tair awdures gynrychioliadol a dangos mai trwy’r cyfnewidiad ym mherthynas y cymeriad canolog a’r aelwyd y gellir dirnad ei datblygiad fel genre. Yr amcan yma yw trafod rhai o nodweddion amlycaf y ffurf, ei hesblygiad yn y Gymraeg a’i lle yn y canon, cyn mynd ymlaen i geisio olrhain y berthynas rhyngddi a’r profiad Cymreig a Chymraeg drwy ystod helaeth o’r ugeinfed ganrif. Peth peryglus, wrth gwrs, yw rhoi diffiniad rhy bendant o’r gair ‘domestig’ yn y cyd-berthynas hwn oherwydd ei natur ddeinamig; serch hynny, gellir mentro rhai sylwadau cyffredinol rhagarweiniol. Nofel yw hi sy’n ffocysu ar fywydau o ddydd i ddydd, a bywydau merched yn amlach na pheidio. Nid yw’n syndod felly mai merched yw lladmeryddion amlycaf y ffurf. Ynysir y nofel ‘ddomestig’ oddi wrth ddigwyddiadau bydol, allanol i ganolbwyntio yn hytrach ar broblemau personol, mewnol cymeriad ac ymdrinia â theimladau personol – dwys a difyr. Deillia’r genre o’r nofel epistolaidd, a welwyd yn ei hanterth yn y ddeunawfed ganrif. Math o nofel ydyw ar ddull llythyr neu gyfres o lythyrau, wedi eu gwau at ei gilydd gan fwyaf yng nghyd-destun cariad. Un o’r nofelau epistolaidd enwocaf yn y Saesneg yw Pamela (1740) gan Samuel Richardson, ac yng ngeiriau Jocelyn Harris: Richardson reached out to women, who in their idle incarceration read romances, by using love struggles to contain much else…1 Goruchafiaeth i deimlad ar resymoliaeth a roddir yn y nofel epistolaidd. Ei chanllaw, a chymhelliad ei chymeriadau yw greddf rhagor rheswm. 1 Jocelyn Harris, ‘Introduction’, Samuel Richardson (Cambridge, 1987), t. 4. 1 Ni ellir olrhain cyd-destun y nofel ddomestig Gymraeg yn ôl i’r ddeunawfed ganrif gan nas gwelwyd ei gwreiddiau yn y Gymraeg hyd dros ganrif yn ddiweddarach. Man cychwyn cyfleus yw cylchgrawn Y Gymraes, cartref i brentisiaethau nifer o awduresau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg megis Cranogwen, S. M. Saunders, Morfudd Eryri, Winnie Parry, Ellen Hughes a Ceridwen Peris.2 Yn awduron straeon byrion, golygyddion, beirdd, beirniaid ac yn eu mysg un nofelydd, cyfrannwyd yn helaeth ganddynt i lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Fel y dywed Jane Aaron: Dyma’r mamau llenyddol a roddodd enedigaeth ac ysbrydoliaeth i yrfaoedd mwy adnabyddus yr awduresau a ddaeth ar eu hôl yn yr ugeinfed ganrif.3 Awdures y dylid sôn amdani yn y fan hon yw Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan), ac er nad yw’n awdures ‘ddomestig’ fel y cyfryw, mawr yw ei chyfraniad nid yn unig i fyd y nofel ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ond i fyd nofelyddol y ferch yn arbennig. Cyhoeddodd bedair nofel yn negawd cyntaf y ganrif: O Gorlannau y Defaid (1905), Plant y Gorthrwm (1908), Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (yn Y Brython 1907-8) a Troad y Rhod (yn anorffenedig yn Y Brython 1908-9). Nofelau ydynt a ddarluniai gyfnodau hanesyddol, gan gynnwys diwygiad 1859 ac etholiad 1868. Gwyrir ychydig oddi ar y trywydd domestig i sôn am gyd-destun llenyddol ehangach y cyfnod a ddilynodd. Nodweddir y cyfnod hwnnw gan lenyddiaeth plant wrth i awduron lanw bwlch lle gwelwyd prinder yn y Gymraeg i gymharu â’r Saesneg, ac yn adwaith wrth gwrs i eiriau O. M. Edwards yn 1909: Os ydyw Cymru i fyw, rhaid i rywrai ymdaflu i waith dros y plant. Nid ar faes y gad, ond mewn llenyddiaeth, y mae eisiau Llywelyn a Glyndŵr heddyw. 4 2 O.M.Edwards, ‘At ohebwyr’, Cymru, XI, 63 (Hydref, 1896), 196. 3 Jane Aaron, ‘ ‘Merch y graig’: yr awdures Gymreig’, Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Caerdydd, 1998), t. 131. 4 O. M. Edwards, ‘Angen Mwyaf Cymru’, Cymru, XXXVI, 218 (Chwefror, 1909), 102. 2 Awduron megis E. Morgan Humphreys a Lewis Davies a safodd yn y bwlch yn y cyfnod hwnnw trwy gyfansoddi deunydd antur. Er nad oedd Dirgelwch yr Anialwch (1911) gan E. Morgan Humphreys yn nofel fel y cyfryw, fe’i hystyrid yn ‘ddisgyblaeth a pharatoad i’r sgrifenwyr ac i’r iaith’ yn ôl Dafydd Jenkins.5 Peidier â meddwl serch hynny mai modd i fwrw prentisiaeth oedd cyfansoddi deunydd i blant yn y cyfnod o dan sylw. Fel y pwysleisia Mairwen a Gwynn Jones: Cyfrifoldeb digon astrus i oedolyn yw ceisio tafoli cyfrolau o lenyddiaeth plant a’u hargymell, rhyw wedd drachefn trwy lygad plentyn fel petai, gan gadw mewn cof chwaeth a theimladau a chyraeddiadau plentyndod, a chadw mewn cof hefyd y ffaith mai unigolyn yn y pendraw yw pob darllenydd ifanc, na ellir fyth gyffredinoli yn ei gylch na deddfu ar ei gyfer.6 Wrth lywio’n ôl drachefn at gyd-destun y ‘domestig’, soniwyd eisoes mai un o’i phrif nodweddion oedd ynysiaeth rhag y byd allanol. Amherthnasol oedd materion bydol, fodd bynnag, i awduresau dechrau’r ugeinfed ganrif gan mai ymateb i’w sefyllfaoedd cymdeithasol eu hunain a wnaent. Darlunnir hyn yn berffaith gan Kate Roberts yn Traed Mewn Cyffion: ‘Yr oedd cyfnewidiadau mawr a sydyn yn y byd, ond yn y Ffridd Felen safasai amser.’7 Yr oedd tlodi’n rhan annatod o gymdeithasau Cymreig yr adeg honno, cyfnod pan oedd ffocws y wraig ar yr aelwyd. Ar eu haelwydydd eu hunain y gwelid ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd. Ymateb i dlodi cymdeithas oedd nifer o weithiau Kate Roberts. Mewn sgwrs gyda Saunders Lewis, dywedodd: O’r gymdeithas y’m codwyd ohoni, cymdeithas dlawd yn ei hanes, oherwydd hynny ni’m denwyd i sgrifennu storïau yn delio â rhyw, neu ymdrechion rhwng pobl o wahanol 5 Dafydd Jenkins, ‘Y Nofel: Datblygiad y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen’, gol. Gerwyn Wiliams, Rhyddid y Nofel (Caerdydd, 1999), t. 64. 6 Mairwen a Gwynn Jones, ‘Rhagymadrodd’, Dewiniaid Difyr: Llenorion Plant Cymru Hyd Tua 1950 (Llandysul, 1983) t. xiii. 7 Kate Roberts, Traed Mewn Cyffion, nawfed argraffiad (Dinbych, 2001), t. 179. 3 gymeriadau â’i gilydd, neu ag ymdrechion ysbrydol eneidiau – ymdrech yn erbyn tlodi ydoedd o hyd.8 Ysgrifennai am yr hyn a wyddai orau: y tlodi y daeth trigolion ardal chwareli Sir Gaernarfon wyneb yn wyneb ag ef rhwng ugain mlynedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r Rhyfel Mawr. Saif Kate Roberts yn brawf nad yw’n rheidrwydd i fynd y tu allan i brofiad personol er mwyn llunio nofel afaelgar, ac fel y pwysleisiodd Amanda Craig, digwydd y rhan fwyaf o ddramâu bywyd o fewn y cartref.9 Y mae pwysigrwydd rôl y wraig ar yr aelwyd yn amlwg yng nghylchgrawn Y Gymraes, cylchgrawn ar gyfer merched o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif a bwysleisiai dyletswyddau’r wraig ar yr aelwyd, ei chynghori ar ymddygiad a moesoldeb ac a’i haddysgai er lles ei theulu. Ym mhob rhifyn o ail gyfnod y cylchgrawn (1896-1934) ceir tudalen a elwir ‘Manion Teuluaidd’ sy’n cynghori merched ar sut i gwblhau amryw o dasgau beunyddiol ar yr aelwyd, o gynghorion ar sut i greu prydau bwyd maethlon i gynghorion meddygol. Amlygir neges hanfodol yn y cynghorion, sef bod safon i’w chyrraedd wrth gynnal aelwyd a dyletswydd pob gwraig yw cyrraedd y safon honno. Eir mor bell â dweud bod annwyd o fewn y teulu yn ganlyniad o esgeulustod a ‘diffyg meddwl’10. Ceir y pennill hwn ar frig y dudalen yn Chwefror 1909: Gwraig fach brysur wyf a diwyd, Wrthi beunydd ar yr aelwyd, Cadw’m troed o dŷ cymydog, Cadw’m tafod yn dawedog, Meindio’n busnes fach fy hunan, 8 Saunders Lewis (gol.), Crefft y Stori Fer (Aberystwyth, 1949), t. 15. 9 Amanda Craig, ‘In defence of the domestic novel – Persephone lecture’, http:www.amandacraig.com/pages/journalism/lectures/domestic-novel.htm (2005), ymwelwyd ar 15/10/2006. 10 Y Gymraes, XIII, 148 (Ionawr, 1909), 10. 4 Cadw aelwyd ddedwydd ddyddan.11 Dyma bennill sy’n gosod merched yn dwt o fewn y byd domestig ac yn datgan wrthynt mai fel hyn y dylent fod, yn cynnal tŷ a gochel rhag materion pobl eraill. Pwysleisir pwysigrwydd cynnal cymeriad a lles ysbrydol yn ogystal ar yr aelwyd a’u gosod yn gydradd â chyflawni tasgau dydd i ddydd: Tylodi: Ni raid cywilyddio am ddim ond cymeriad tylawd. Tylawd iawn yw y cymeriad sydd yn ceisio ymddangos y peth nad yw …12 Gwneir ymdrech i godi ysbryd y gwragedd rheini a ddaw wyneb yn wyneb ag anawsterau amodau byw, gan amlygu iddynt nad tlotach yw eu bywydau na’r rheini nad yw materion ariannol yn faen tramgwydd. Cenadwri Y Gymraes mewn gwirionedd yw pwysleisio mai braint yw swyddogaeth y fam ac y dylid ymfalchïo yn ei chyfrifoldebau ar yr aelwyd. Atgyfnerthir y genadwri gan Saunders Lewis yn ei ysgrif ar ‘Y Teulu’ gan ddilorni ymdrech y llywodraeth i gymryd ‘oddi ar rieni swyddau a chyfrifoldebau yr oedd rhieni ers canrifoedd yn eu gwerthfawrogi fel rhan arbennig o’u bywyd a’u dyletswydd.’13 Y mae’r ‘domestig’ mewn gwirionedd yn galw am gael ei ddadlenyddu. Gyda hyn, dadorchuddir cenadwri’r nofelwyr. Fel ag y gwna deunydd Y Gymraes, dyrchafa Kate Roberts ei chymeriad Jane Gruffydd, Traed Mewn Cyffion, a’i chyflwyno yn sgil hynny fel arwres o fewn ei milltir sgwâr. Trwy ddyfynnu o lyfr Job yng nghyflwyniad y nofel, awgrymir fel y caiff Jane ei phrofi gan Dduw yn unol â phrofiad Job ei hun. Trwy lygaid ‘arwriaeth’ y gellir dadlenyddu gwaith Moelona, fel y gwelir maes o law.