Hwb – Nodiadau Athrawon Trosolwg

Mae’r ddrama Hwb yn archwilio natur llencyndod, rhith a realaeth, pwrpas theatr ynghyd â’r pwysau sydd ar bobl ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain. Ceir hefyd gyfl e i archwilio’r berthynas bwysig rhwng yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan a’r hyn sy’n digwydd yn yr awditoriwm. Mewn gwirionedd, dyna hanfod pob drama, boed hynny’n cael ei gyfl eu trwy dechnegau naturiolaidd neu wrth-naturiolaidd. Mae’r ddrama’n plethu elfennau o Theatr Brecht, Theatr Dlawd (Poor Theatre), Sinema 4D ac arddull actio Realaeth Fodern (Modern Realism). Ceir ynddi fetaddrama a defnydd o’r celfyddydau gweledol a cherddoriaeth fel tan-sgôr (underscore) i’r hyn sy’n digwydd i’r cymeriadau.

Theatr Brecht Mae elfennau cryf o waith Brecht yn y ddrama hon. Er hynny, ni cheir actio na phregethu didactig ynddi ac fe ddylid sicrhau bod y perff ormiadau’n gredadwy ac yn real iawn. Cryfder gwaith Brecht yw ei ddawn i greu golygfeydd emosiynol ac yna i dorri’r bedwaredd wal yn sydyn er mwyn rhoi sioc i’r gynulleidfa trwy ddefnydd verfremdungseff ekt neu eff aith dieithrio. Os yw’r actio’n rhy arwynebol yna ni cheir yr ymateb hwn. Gwelwyd y defnydd hwn yn glir yng nghynhyrchiad y National Theatre o Mother Courage gyda Fiona Shaw yn y brif ran. Roedd y perff ormiadau’n gignoeth ac roedd hynny’n ychwanegu mwy o bŵer i’r adegau hynny lle roedd yna gyfarch uniongyrchol, canu byw a defnydd o blacardiau. Gall disgyblion feddwl am waith Brechtaidd maen nhw wedi ei weld a sut y tynnwyd y gynulleidfa i ganol gweithred ac yna eu tafl u oddi ar eu hechel trwy dechneg wrth-naturiolaidd a hynny er mwyn rhoi cyfl e iddynt feddwl am yr hyn roedden nhw wedi ei weld / ei deimlo. Fe all disgyblion archwilio’r broses o greu golygfa gredadwy iawn ac yna torri’r bedwaredd wal mewn moment allweddol / uchafbwynt gan arsylwi a thrafod beth yw’r eff aith ar yr actorion ac ar y gynulleidfa o’i chymharu â’r eff aith ar ôl gweld darn o theatr naturiolaidd bur.

Hwb – Nodiadau Athrawon | 1 Theatr Dlawd (Poor Theatre) Gwelir elfennau o Theatr Dlawd yn y set. Mae dwy neu dair cadair yn cynrychioli’r ystafell astudio ac fe ychwanegir stand off erynnol i gynrychioli’r ystafell ymarfer cerddoriaeth. Credai’r cyfarwyddwr Grotowski mai perff ormiadau’r actorion oedd y peth pwysicaf a bod set syml, fi nimalaidd yn ddigon i greu lleoliad. Yn y ddrama hon daw’r pŵer o’r rhyngweithio rhwng y cymeriadau. Gall disgyblion edrych ar luniau o gynhyrchiad y National Theatre o’r ddrama War Horse er mwyn gweld esiampl gyfoes o ddefnydd o Theatr Dlawd – ff râm drws yn cynrychioli ff ermdy, weiren bigog yn cynrychioli ff osydd Ffrainc. Yn War Horse ychwanegir emosiwn a realiti trwy’r defnydd o sgôr gerddorol, goleuadau a sain llawn awyrgylch. Mae dramodydd Hwb hefyd yn defnyddio sain a golau i greu emosiwn ar lwyfan minimalaidd: gwelir Callum yn sefyll o fl aen y gefnlen ac yn cael ei oleuo gan y lliwiau yn y darlun wrth iddo rannu’r gwir am ei fam gyda Liam. Mae sgôr Elgar yn cael ei chwarae yn gefndir i’r geiriau ac yn ychwanegu at yr emosiwn. Gallai’r disgyblion ddewis tair prif foment a’u llwyfannu trwy greu cynlluniau golau (yn cynnwys cefnlen) a sain manwl. Mae’r cello’n rhan allweddol o’r ddrama. Unwaith eto mae cyfl e gwych i ddisgyblion arbrofi wrth gynllunio set a phropiau. Am fod gweddill arddull y set yn un Theatr Dlawd nid oes raid wrth cello go iawn. Gallai ff râm bren denau gynrychioli’r off eryn. Gellid creu mwy nag un sgerbwd cello gydag un yn edrych fel darlun Munch, The Scream. Unwaith eto, fe ddylen nhw edrych ar y ceff ylau yn War Horse ac ar sut mae modd i arddull Theatr Dlawd, actio cryf ac elfennau technegol pwrpasol gael eff aith bwerus ar gynulleidfa.

Sinema 4D Mae’r ddrama’n gwthio’r ffi niau trwy archwilio’r defnydd o aroglau yn yr awditoriwm. Mae’r dramodydd yn awgrymu y dylid llenwi’r gofod ag aroglau petrol yn yr olygfa olaf er mwyn cryfhau eff aith yr hyn a wna cymeriad Lowri. Mae sawl dramodydd ac ymarferwr theatr wedi archwilio’r posibilrwydd hwn: mae’r dramodydd Artaud yn esiampl wych i’w hastudio am ei fod yn credu’n gryf y dylai darn da o theatr ddiwallu’r pum synnwyr, nid dim ond y clywedol a’r gweledol. Gellid hefyd edrych ar waith y cwmnïau theatr canlynol: Complicité, Tobacco Factory a Volcano.

2 | Hwb – Nodiadau Athrawon Realaeth Fodern (Modern Realism) Er bod yr elfennau uchod yn awgrymu arddull theatr wrth-naturiolaidd mae’n hynod bwysig bod y perff ormiadau yn arddull Realaeth Fodern. Gallai disgyblion edrych ar esiamplau o gynyrchiadau o waith Simon Stephens megis Motortown neu Harper Regan. Mae’r actio’n gredadwy iawn, weithiau’n ymylu ar Realaeth Uber (Uber Realism). Fe fyddai’n ddiddorol i ddisgyblion arbrofi gyda’r ddwy dechneg hon wrth lwyfannu golygfeydd. Yn ystod y broses ymarfer gellid defnyddio technegau Stanislavski, Michael Chekhov a Meisner er mwyn sicrhau realiti llwyr y darn. Diddorol fyddai trafod sut mae actor megis Daniel Day-Lewis yn paratoi ar gyfer chwarae rhan emosiynol iawn.

Synopsis a Nodiadau Thema

Act Un

Golygfa 1 Mae’r ddrama’n dechrau wrth i Liam annerch y gynulleidfa. Mae’n sôn am strwythur consierto Elgar ac mae hyn yn gosod dau motif, sef y berthynas rhwng cymeriad a chynulleidfa a’r defnydd o gerdd a chelf i archwilio is-destun ac emosiwn o fewn y ddrama. Gwelir yn glir y defnydd o dechneg Frechtaidd, sef cyfarch uniongyrchol. Nid bwriad y dramodydd yw creu verfremdungseff ekt pur ond yn hytrach i sicrhau bod y gynulleidfa’n ymwybodol eu bod nhw’n rhan o’r gweithredu o’r cychwyn cyntaf. Yna gwelir Callum a Lowri yn yr Ystafell Astudio. Yn yr olygfa hon gwelwn sut mae’r cyff redin a’r eithafol yn plethu ym mywydau’r ifanc. Ar yr wyneb, prif gonsýrn Lowri yw sicrhau ei bod yn cael gradd ‘A’ am ei gwaith cwrs Saesneg. Yna mae Callum yn adrodd ei gelwydd ynglŷn â ‘marwolaeth’ ei fam a’i dad ar yr A470. Mae’r manylion am y dom ieir a’r gyrrwr o Ddenmarc yn ychwanegu rhyw elfen o ddilysrwydd ac abswrdiaeth i’w stori. Yn fuan mae Lowri’n sylweddoli ei fod yn dweud celwydd. Mae hon yn thema bwysig yn y ddrama: y ff ordd mae pobl ifanc weithiau’n defnyddio celwydd i gyfl eu emosiwn. Fwyfwy fe welwn yr ifanc yn ein cymdeithas yn creu rhith o boen am fod wynebu’r poen go iawn yn rhy anodd. Trwy greu rhith ohono mae modd mynegi teimladau heb orfod cyfaddef erchylltra’r sefyllfa. Pwy a ŵyr beth oedd yn digwydd ym mywyd Callum y diwrnod

Hwb – Nodiadau Athrawon | 3 hwnnw? Nid yw’n ei drafod. Y cyfan mae’n gallu ei wneud yw creu rhith sy’n cyfateb i’r poen mae’n ei deimlo. Dyna sut mae Callum yn delio â’i fywyd anodd. Gwelwn hyn droeon yn y ddrama e.e. y cello a’r chemo. Fe fyddai’n bosib i ddisgyblion weithio ar stori gefndirol Callum er mwyn ceisio darganfod pam na all ddweud y gwir am ei fam; pam ei fod yn creu’r holl gelwyddau hyn. Gellid edrych ar blatff ormiau cymdeithasol a faint o wir / rhith sydd yn y defnydd ohonyn nhw. Yn yr olygfa hon hefyd ceir motif arall, sef llenyddiaeth – cyfeirir at yr awdur Iddewig Primo Levi a chlywir cyfeiriadau at ddigwyddiadau hanesyddol, megis marwolaeth JFK, sydd i’w gweld yma a thraw trwy’r ddrama. Dychwelir at waith Levi yn hwyrach yn y ddrama. Gallai disgyblion edrych yn gyfl ym ar ei waith ar y grey zone: mae’n ddechrau da i ddarn o waith theatr ddyfeisiedig neu gymeriad. Yn yr olygfa hon y gwelir trais am y tro cyntaf yn y ddrama. Mae’n bwysig bod gweithred dreisgar Lowri’n ymddangos yn sydyn ac yn hollol ddirybudd. Fe ddylai’r duedd hon fod yn elfen naturiol iawn ohoni. Dim ond yn hwyrach yn y ddrama y deallwn fod trais yn rhan annatod o’i bywyd gartref. Ar ddiwedd y weithred dreisgar fe ddychwelir at bethau cyff redin yn ystod y sgwrs: gwaith cwrs, dyddiadau cau, athrawon ac ati. Mae hon yn elfen bwysig o’r ddrama ac, yn wir, o fywyd cyfoes: ein gallu i fyw yn yr eithafol a’r cyff redin yn yr un foment. Yn yr olygfa hon dim ond awgrym o wir broblemau Lowri a gyfl wynir, ac mae Callum yn ymddangos fel cymeriad anaeddfed sydd angen sylw: ychydig o geek efallai.

Golygfa 2 Rydym yn cyfarfod â Bronwyn. Mae yna gyfarch uniongyrchol, sy’n cyff wrdd â natur y ddrama hon. Mae’r olygfa’n cryfhau’r defnydd o’r dechneg Frechtaidd er mwyn sicrhau bod y gynulleidfa’n ymwybodol eu bod yn gwylio drama a bod rhai o’r cymeriadau’n ymwybodol eu bod yn cyfl wyno stori / drama, nid bywyd go iawn. Yn ei haraith mae Bronwyn yn ddi-fl ewyn-ar-dafod wrth iddi sôn am drychinebau’r unfed ganrif ar hugain. Gallai disgyblion drafod natur y berthynas rhwng cynulleidfa a darn o theatr ac edrych ar waith yr ymarferwyr sydd yn y maes llafur. Gwelir dechrau’r broses hon pan fo Bronwyn yn ein harwain trwy emosiynau / is- destun y ddrama trwy ddefnyddio darnau o gelf pwrpasol. Mae hefyd yn crybwyll yr Elgar ac yn ei ddefnyddio i wneud sylw am strwythur y ddrama. Mae’n bwysig i’r disgyblion

4 | Hwb – Nodiadau Athrawon wrando ar y gerddoriaeth a gweithio iddi wrth astudio’r ddrama yn ogystal ag archwilio gwaith yr artistiaid a grybwyllir. Gellid trafod pŵer celf a cherddoriaeth a sut mae artistiaid yn ceisio ateb y cwestiwn oesol: beth yw dyn?

Golygfa 3 Unwaith eto, gwelir Callum yn dweud celwydd wrth Liam. Dyma set newydd o gelwyddau. Y cwestiwn i’w ystyried yw hwn: a yw Callum yn ff urfi o’i gelwydd gan ddibynnu ar bwy sy’n gwrando neu’n ddibynnol ar yr hyn mae e ei angen yn emosiynol? Mae’r olygfa’n sefydlu motif Jacqueline du Pré, yr off erynnwr cello, o fewn y ddrama. Mae ei pherthynas hi â’r pianydd a’r arweinydd Daniel Barenboim a pherthynas Liam / Gwen / Josh yn mynd i eff eithio’n fawr ar ddyfodol agos Liam a Josh. Mae ei hanes hefyd yn adlais o’r hyn a ddigwydd i Lowri – ffl am yn cael ei diff odd o fl aen ei hamser, cyn y gall wireddu ei photensial yn llawn.

Golygfa 4 Yma gwelwn Bronwyn yn cryfhau ei pherthynas â’r gynulleidfa trwy roi sgets i’r unigolyn y gwnaeth ddechrau ei sgetsio yng Ngolygfa 2: mae’n torri’r bedwaredd wal mewn ff ordd uniongyrchol iawn. Mae’r berthynas hon yn allweddol: dylai’r gynulleidfa deimlo’n agos at y cymeriadau. Gellid trafod y llwyfannu ac arbrofi ag e: pa fath o lwyfan fyddai’n caniatáu i’r berthynas hon dyfu – Ymwthiol, Traws, Cylch? Eto, defnyddir celfyddyd weledol i uwcholeuo elfennau o fywydau’r cymeriadau. Cynigir cwestiwn i’w ystyried: a yw’r gwaith celf yn adlewyrchu bywyd Lowri? Bywyd Callum? Neu’r cymeriadau i gyd? Gellid gofyn i’r disgyblion greu darn o gelf. (Mae hon hefyd yn dechneg dda wrth greu cymeriadau o’r newydd.) Eto mae’n bwysig bod ymosodiad Lowri ar Bronwyn yn ddirybudd ac yn dreisgar iawn. Mae Lowri wedi arfer â chael ei churo, felly mae hi’n gwybod lle a sut i frifo eraill heb adael marc. Nid yw Lowri’n ymateb i’r ff aith iddi fod yn dreisgar – iddi hi mae hyn yn naturiol. Mae’r ff aith ei bod yn medru cario ymlaen â’i gwaith cwrs heb boeni am yr hyn mae wedi ei wneud i Bronwyn yn tystio i hyn. Yn y sgwrs ynglŷn â phobl ‘normal’ mae’r awgrym lleiaf o eironi dramatig – Lowri fydd yr un ‘enwog’ yn yr ysgol hon ac nid Bronwyn. Yma mae Bronwyn yn dangos ei gwybodaeth am gelf, ei huodledd a’i ff raethineb. Er gwaethaf ei hymarweddiad heriol,

Hwb – Nodiadau Athrawon | 5 Bronwyn yw’r un mwyaf cyff redin o’r pump cymeriad. Mae hi’n chwarae rôl y rebel ac yn ei fwynhau. Mae ei bywyd gartref yn hapus fel y gwelwn yn Act Dau pan mae’n cynnig lle i Lowri aros. Yma gallai’r disgyblion drafod y defnydd o wisg o fewn drama. Er mai arddull Theatr Dlawd yw set y ddrama, mae angen i’r cymeriadau fod yn gredadwy, er mwyn i’r gynulleidfa allu uniaethu â nhw. Sut wisg fydd gan Bronwyn felly? Beth am weddill y cymeriadau? Pa arddull, o ran y gwisgoedd, fyddai dewis y disgyblion? Nid oes rhaid aros o fewn hualau Realaeth Fodern.

Golygfa 5 Mae Liam eto’n archwilio’r elfen o fetaddrama wrth iddo sôn am strwythur consierto Elgar a dechrau drama Hamlet. Mae hyn yn plannu hedyn ar gyfer gweithred Callum yn Act Tri. Yna gwelwn Josh am y tro cyntaf. Mae angen i’r gynulleidfa weld ei ddicter. Cawn hefyd fwy o wybodaeth am bryderon Lowri.

Golygfa 6 Mae Josh yn ymosod yn dreisgar ar Liam. Clywir sôn am berthynas Josh, Gwen a Liam, sefyllfa sy’n gyff redin ym mywydau pobl ifanc, ond ymateb Josh sy’n codi’r tensiwn. Mae yma botensial i wneud gwaith ar gymeriad Josh, yn enwedig os oes bwriad i berff ormio’r ddrama. Pam yr holl ddicter? Pam dewis cariad dros ff rind? Pam cosbi Liam, yn hytrach na Gwen? Gellid defnyddio technegau creu rôl yr athrawes ddrama Dorothy Heathcote, megis Rôl ar y Wal.

Golygfa 7 Prif ff ocws yr olygfa hon yw cyfl wyno’r syniad o ‘lwyd’ yn yr hyn a wnaeth Lowri wrth ddwyn gwaith cwrs Callum. Mae’n gysyniad diddorol i’w drafod gyda disgyblion am fod y mwyafrif ohonom yn gweld y byd yn ddu a gwyn, yn dda a drwg. Mae hefyd yn gysyniad da i’w ddefnyddio wrth greu cymeriad o’r newydd trwy adnabod ac archwilio lle mae grey zone y cymeriad. Mae’n bwysig i’r gynulleidfa weld nad oes dim byd yn bwysicach i Callum na galwad ff ôn ei chwaer. Mae’r hyn sy’n digwydd a’r hyn mae ei fam yn ei wneud yn lliwio ei holl

6 | Hwb – Nodiadau Athrawon fywyd. Clywn Liam yn chwarae eto, yn sigledig wedi’r ymosodiad. Caiff y gerddoriaeth ei defnyddio i ddangos eff aith galwad ff ôn y chwaer ar Callum, am nad yw’r eff aith yn uniongyrchol yn y geiriau.

Golygfa 8 Mae Josh a Bronwyn yn cyfarfod. Ar ddechrau’r olygfa mae’r sgwrs yn cael ei chyfl wyno’n gyfl ym, gan ddangos elfennau o ddyfais stichomythia, a hynny tan y saib pan fo Bronwyn yn dangos ei hyder trwy ddewis peidio â siarad. Hi yw’r mwyaf hyderus o’r pum cymeriad er nad yw’n ymddangos felly i ni (i gymdeithas) ar yr olwg gyntaf. Mae’n brawf pendant na ddylem farnu pobl yn ôl yr hyn a welwn yn allanol. Mae Bronwyn yn dangos ei bod hi’n ‘chwarae gêm’ trwy greu problemau sydd ddim yn bodoli. Mae hi’n ferch sy’n gwybod sut mae’r system yn gweithio ac yn gallu chwarae’r system honno. Cyfl wynir pwnc trafod: pa mor gyff redin yw hyn? Pam mae cynifer o bobl ifanc yn canolbwyntio ar y negyddol, yn creu problemau sydd ddim yn bodoli tra bo eraill, y rhai sy’n dioddef o ddifri, yn cadw’n dawel? A yw hwn yn ff actor newydd, un sy’n perthyn i’r unfed ganrif ar hugain, neu oes modd gweld y math hwn o ymddygiad mewn gweithiau theatr cynharach?

Golygfa 9 Mae Callum am ddweud y gwir am ei fam wrth Lowri. Yn ystod ei sgwrs gyda Liam am salwch Jacqueline du Pré ymddengys motif potensial coll. Nid yw Callum yn ddigon dewr; efallai petai wedi cael rhannu ei broblemau gyda Lowri y byddai hithau wedi gallu cyfaddef ei bod wedi dwyn ei waith cwrs ac y gellid fod wedi osgoi tywyllwch yr act olaf. Pwnc trafod: pam na allwn ni rannu ein problemau gydag eraill wyneb yn wyneb mewn modd real? Mae’r Act yn gorff en gyda nodau olaf symudiad cyntaf consierto Elgar a’r teimlad y collwyd cyfl e i osgoi diweddglo trasig i’r ddrama.

Act Dau

Golygfa 1 Unwaith eto mae Bronwyn yn annerch y gynulleidfa. Mae’n hyderus ac yn mwynhau sôn

Hwb – Nodiadau Athrawon | 7 am gelf. Pan ddaw Josh i mewn gwelwn ei fod e a Bronwyn yn gyff orddus yng nghwmni ei gilydd er bod tynnu coes a sinigrwydd ff ug ar yr wyneb. Gwelwn berthynas agos yn tyfu rhwng y ddau; dyma’r berthynas agosaf i Bronwyn ei meithrin erioed. Yn ystod sgwrs Lowri a Liam gwelwn uchelgais mam Lowri. Mae ei mam yn byw trwy ei merch ac yn dymuno i Lowri lwyddo beth bynnag fo’r gost. Yma hefyd mae Liam yn crybwyll y ff aith ei fod o dras cymysg. Er bod hyn yn cael ei drafod yn ddyfnach yn nes ymlaen yn y ddrama fe ddylid oedi fan hyn a thrafod hiliaeth gudd. Wrth greu’r ddrama fe siaradodd y dramodydd â sawl person ifanc o dras cymysg: trafodwyd natur hiliaeth gudd a hiliaeth agored ac nid oedd consensws ynglŷn â pha un oedd yn brifo fwyaf. Yn y ddrama hon fe welwn y ddwy: mae Lowri’n ffi nio ar hiliaeth wrth iddi gymharu arddull off erynnol Liam â Sheku Kanneh-Mason, er y gŵyr Liam ei fod yn chwarae’n debycach i off erynwyr eraill: mae arddull chwarae Liam yn fwy Ewropeaidd. Gwelwn berygl hiliaeth gudd, hiliaeth trwy anwybodaeth – nid oes malais o gwbl yng ngeiriau Lowri. Tristwch y sefyllfa yw fod Liam wedi hen arfer â’r math hwn o ymddygiad.

Golygfa 2 Erbyn hyn mae Callum wedi clywed bod Lowri wedi dwyn ei waith cwrs ac mae’n chwilio amdani: mae’n wyllt ei dymer. Mae’n ceisio bygwth Bronwyn, ond mae hi’n ymateb trwy herio ei stori am ei dad. Mae ei hymateb yn ei ddigio gan ei bod hi’n gwrthod chwarae ei gêm ac nid yw Callum am i unrhyw un wybod y gwir am ei fywyd – dim ond trwy gadw’r rhith i fynd y gall barhau i fyw o ddydd i ddydd. Mae geiriau Liam yn torri ar y naratif, ac er iddyn nhw ymddangos yn ddibwys o ran llif y plot, maen nhw’n allweddol yn nes ymlaen wrth i Josh gamddeall. Rhaid i’r actor sy’n chwarae Liam sicrhau ei fod yn dal sylw’r gynulleidfa ac eto fe ddylai dan-chwarae’r rôl rhag ofn iddo or-ragfynegi’r hyn sydd i ddod.

Golygfa 3 Mae Callum yn ymosod ar Lowri. Mae geiriau Callum am ei mam yn cadarnhau’r hyn mae’r gynulleidfa’n ei dybio am sefyllfa Lowri. Unwaith eto crybwyllir y grey zone. Yn aml mae bywydau ac emosiynau pobl ifanc yn ymddangos yn ddu a gwyn: ond ‘llwyd’ yw ein bywydau mewn gwirionedd. Mae’r byd hwn yn dra eithafol ac mae nifer yn ymateb o fewn y grey zone pan fydd eu sefyllfa’n

8 | Hwb – Nodiadau Athrawon heriol. Mae bywyd cartref y ddau gymeriad yma’n eithafol a gwelwn hyn yn y modd mae’r ddau’n ymateb i’w gilydd ac i eraill yn ystod y ddrama. Fe fydd yn bwysig edrych ar y paratoadau a’r ymchwil y dylai actor eu gwneud cyn chwarae’r ddwy rôl hon: eff aith alcoholiaeth yn y cartref ac eff aith trais domestig a cham-drin ar blant a phobl ifanc. Gellid rhannu gwybodaeth am ff urfi au gwaith rôl yr ymarferwyr theatr Heathcote neu Stanislavski. Dyna’r allwedd i chwarae’r rhannau hyn yn gredadwy.

Golygfa 4 Mae Bronwyn a Josh yn penderfynu prynu absinth. Mae Bronwyn yn dangos ei gwybodaeth am Ffrainc a’r iaith Ffrangeg. Dyma olygfa a all arwain y gynulleidfa i ragdybio na fydd diweddglo hapus i Bronwyn a Josh. Yma dylid edrych ar fyd Toulouse- Lautrec a’r Moulin Rouge a gwallgofrwydd gwych yr artistiaid ar absinth: dyna sut mae Bronwyn am ymddangos i’r byd. Mae’r absinth yn gyfrinach i gymeriad Bronwyn, fel sy’n wir i nifer o artistiaid ifanc, megis Tracey Emin. Dros dro yr ymddengys gwallgofrwydd Bronwyn. Chwarae rôl mae hi, er nad yw’n ymwybodol o hynny ar y pryd.

Golygfa 5 Golygfa fer iawn yw hon lle mae Liam yn sôn am natur yr Elgar a’r ff aith mai gweithred fympwyol oedd cusanu Gwen. Pwysigrwydd yr olygfa yw cyfl eu i’r gynulleidfa mai peth bach iawn oedd y gusan: ymateb Josh sydd yn chwyddo’r weithred mewn ff ordd beryglus ac eithafol. Gellid trafod achosion eraill mewn bywyd / llenyddiaeth pan fo gweithred fach ddibwys yn cael ei chwyddo y tu hwnt i bob rheswm ac yn diweddu’n drasig.

Golygfa 6 Gwelwn berthynas Bronwyn a Lowri’n datblygu. Maen nhw’n trafod pwrpas arholiadau, adroddiadau a’r system addysg. Mae’r sgwrs yn ehangu wrth i’r ddwy ddechrau trafod eu mamau a’u gobeithion. Er i Bronwyn honni nad yw’n ‘dda iawn gyda phobl’, mae’n amlwg bod ganddi sgiliau empathi cryf: mae’n barod iawn i geisio helpu Lowri. Gwelwn hefyd gywilydd Lowri a’r rhesymau pam nad yw wedi rhannu ei stori gyda staff yr ysgol. Dyma’r olygfa lle y down i nabod y cymeriadau hyn orau. Gellid llwyfannu’r olygfa hon mewn sawl arddull actio gwahanol er mwyn dod i nabod y cymeriadau’n dda.

Hwb – Nodiadau Athrawon | 9 Golygfa 7 Mae Callum yn annerch y gynulleidfa. Mae’n modelu ei hun ar Iago, y gwrthwynebydd yn nrama Othello, Shakespeare. Trwy’r ddrama fe’i gwelwn wrth ei fodd yn dangos ei hun ac yn codi gwrychyn y gynulleidfa oherwydd ei haerllugrwydd. Mae’r olygfa’n tynnu sylw at anfodlonrwydd Lowri ac yn trafod ei phroblemau. Gwêl y gynulleidfa fod Callum wedi ymddwyn yn fwriadol faleisus. Am fod yr olygfa’n dilyn y sgwrs sensitif rhwng Bronwyn a Lowri mae empathi’r gynulleidfa gyda Lowri: dechreuwn gasáu Callum. Mae hyn yn hollol dderbyniol; nid ydym yn adnabod Callum mewn gwirionedd nes iddo rannu ei brif araith gyda ni ac y down i wybod am ei fam ac eff aith ei halcoholiaeth ar ei fywyd (Act Tri). Mae’r gynulleidfa mor anwybodus â’r cymeriadau eraill ac athrawon Callum. Sut mae hyn yn eff eithio ar eu hymateb i’r diweddglo? Gellid trafod gweithiau eraill, megis Oleanna, drama David Mamet, lle mae tosturi’r gynulleidfa’n symud rhwng y darlithydd a’r ferch sydd wedi ei gyhuddo o’i cham-drin yn rhywiol, ac maen nhw’n teimlo euogrwydd pan mae hi’n ddiymadferth ar ddiwedd y ddrama.

Golygfa 8 Golygfa rhwng Liam a Lowri. Does gan yr un ohonyn nhw syniad beth mae Callum wedi ei wneud. Mae’r sgwrs yn eithaf ysgafn ar yr wyneb ond gwelwn yn glir fod Liam yn ymwybodol o’r hyn y gallai pobl gredu amdano. Nid yw hiliaeth yn thema ganolog yn y ddrama ond mae yno gyff yrddiadau y dylid eu trafod. Er hynny, rhaid cofi o taw elfen o gymeriad Liam yw hyn, ac na ddylai fod yn ganolog i’r perff ormiad. Fel yn yr olygfa gyntaf rhwng Lowri a Callum, ceir cyfeiriad at ddigwyddiad hanesyddol wrth sôn am hunanladdiad Mohamed Bouazizi, y gwerthwr stryd a roddodd ei hun ar dân, gweithred a fu’n gatalydd i’r chwyldro yn Tiwnisia. Plennir yr had ar gyfer diweddglo Lowri. Mae Bronwyn yn adlewyrchu elfennau o’r sgwrs fl aenorol trwy sôn am farwolaeth, enwogrwydd a chelf. Mae hefyd yn dangos agwedd ryfygus yr ifanc tuag at y to hŷn, sy’n thema dragwyddol.

Golygfa 9 Mae Josh yn ymosod yn dreisgar iawn ar Liam ac yn chwalu’r cello. Yn yr olygfa hon gwelwn thema hiliaeth yn codi ei phen hyll. Yma, nid yw’r hiliaeth yn gudd; mae’n

10 | Hwb – Nodiadau Athrawon ymosodol ac yn greulon iawn. Mae angen i’r actor sy’n chwarae Josh benderfynu ai dicter difeddwl sydd y tu ôl i’r geiriau neu a yw Josh yn dewis y geiriau emosiynol hyn yn fwriadol. Mae Liam a Josh wedi bod yn ff rindiau da ers blynyddoedd, ac felly fe ŵyr yn iawn sut i frifo ei gyfaill.

Act Tri

Golygfa 1 Mae Liam yn egluro wrth Lowri beth yw natur ei berthynas â’r cello. Dyma’r pedwerydd tro i ni glywed am hunanladdiad: Primo Levi, Mohamed Bouazizi, Bronwyn a nawr, Liam. Mae’n thema sy’n rhedeg yn dawel trwy’r ddrama gyfan. Dylid ystyried beth yw perthynas yr ifanc â hunanladdiad a sut mae’n cael ei chyfl eu mewn dramâu / ffi lmiau ar gyfer yr ifanc. Gellid gofyn i’r disgyblion ymateb i gwestiwn neu ddatganiad ac yna symud ymlaen i greu darn o gelf i archwilio’r berthynas â’r thema dan sylw. Weithiau mae hynny’n fwy diogel na thrafod ar lafar o’r cychwyn cyntaf.

Golygfa 2 Golygfa rhwng Bronwyn a Callum. Mae Callum yn cael ei herio gan Bronwyn ac yn cyfaddef ei fod wedi dweud wrth yr uwch athrawon am sefyllfa Lowri. Mae’n ymfalchïo yn ei weithred. Unwaith eto, mae’r gynulleidfa’n ei chael hi’n anodd iawn ei hoffi neu gydymdeimlo ag e. Dydyn nhw’n dal ddim yn gwybod am ei sefyllfa gartref a’i stad emosiynol fregus. Gellid trafod a oes rhaid hoffi cymeriadau: beth yw perthynas y gynulleidfa â Miss Julie, prif gymeriad drama August Strindberg o’r un enw, a Blanche DuBois yn nrama Tennessee Williams, A Streetcar Named Desire? Gellid gofyn i’r disgyblion feddwl am ffi lmiau cyfoes lle mae’n anodd hoffi ’r prif gymeriadau. Beth yw’r sialens i actor sy’n chwarae rhannau fel hyn? Erbyn diwedd yr olygfa fe ddaw’r gwirionedd am hanes tad Callum i’r amlwg. Ydy hyn yn newid ein perthynas ag e – er gwell neu er gwaeth?

Golygfa 3 Mae Lowri’n cyfarch y gynulleidfa’n uniongyrchol. Fel gweddill y cymeriadau, mae

Hwb – Nodiadau Athrawon | 11 hi’n eu herio: pam maen nhw’n parhau i wylio’r ddrama a hynny heb ymyrryd? Mewn gwirionedd mae hi’n sôn am realiti’r broses o fod yn y system diogelu plant. Dylid trafod sut mae hyn yn gwneud i’r gynulleidfa deimlo. Pa ddramodwyr eraill sydd wedi ceisio ysgogi’r gynulleidfa i ymyrryd? A ydy cynulleidfaoedd yn ymyrryd mwy mewn gwledydd eraill? Pam mae’r dramodydd am i gynulleidfa gwestiynu pam nad ydyn nhw’n ymyrryd? A yw hyn yn symbol o ddiff yg ymateb cymdeithas tuag at unigolion sydd angen cymorth?

Golygfa 4 Mae Callum yn ceisio gwneud ei orau i berswadio Liam i ddweud wrth y prifathro am ymosodiad Josh. Mae’n defnyddio eu ‘cariad’ at gerddoriaeth i ddylanwadu ar Liam. Gwêl y gynulleidfa feddylfryd Callum yn glir: mae’n greulon ac yn gyfrwys iawn. Nid yw ar ei ennill o weld Josh yn cael ei gosbi. Dyma hefyd pryd y gwêl y gynulleidfa yr eff aith gafodd geiriau hiliol Josh ar Liam.

Golygfa 5 Mae Lowri ar ei phen ei hun. Mae’r gerddoriaeth yn adlewyrchu ei stad feddyliol. Mae hi’n ff onio ei thad ond yn gorfod gadael neges: nid yw’r tad yn ateb. Yna, mae Bronwyn a Josh yn trafod y ff aith ei fod e ar fi n cael ei ddiarddel am ymosod ar Liam. Unwaith eto mae Bronwyn yn dangos ei bod hi’n gwybod sut i chwarae’r system ac mae’n cynnig torri croen Josh er mwyn awgrymu ei fod yn dioddef o salwch meddwl. Mae’r ddau’n dechrau yfed absinth. Fe ddylai’r gynulleidfa deimlo’n ansicr iawn yn ystod y golygfeydd hyn am fod sawl uchafbwynt yn ymddangos – Bronwyn a Josh, Lowri a Callum. Wrth ymarfer yr olygfa hon fe ddylai’r cast weithio i’r gerddoriaeth er mwyn teimlo’r un emosiwn â’r gynulleidfa.

Golygfa 6 Golygfa sy’n defnyddio trawstoriad i uwcholeuo’r hyn sy’n digwydd. Mae Callum yn cael ei frifo wrth glywed yr hyn sydd wedi digwydd i Lowri. Nid oedd wedi ystyried goblygiadau ei weithred. Tra bo Lowri yn sôn am ei phoen, gwelir Bronwyn yn torri croen Josh er mwyn iddo allu darbwyllo’r uwch athrawon fod ganddo ‘broblemau’. Mae’r gerddoriaeth a’r silwét o Bronwyn yn torri cnawd Josh yn ychwanegu at ddealltwriaeth y gynulleidfa o boen mewnol Lowri.

12 | Hwb – Nodiadau Athrawon Yna mae Bronwyn yn bygwth cynnau tân yn yr ysgol. Mae hyn yn cynyddu’r tensiwn, yn enwedig am fod ganddi betrol yn ei bag. Ar ddiwedd yr olygfa, mae Lowri’n ceisio cysylltu â’i thad unwaith eto ac yn methu. Mae hi’n gweld y petrol.

Golygfa 7 O’r diwedd mae Callum yn rhannu ei boen â’r gynulleidfa. Mae ystyr ei ddatganiadau yn Act Un nad oes neb yn poeni nac yn malio amdano yn dod yn eglur i’r gynulleidfa nawr: am unwaith, roedd yn dweud y gwir. Mae hon yn araith emosiynol iawn ac mae’r goleuo a pherff ormiad cerddorol Liam yn ychwanegu at bŵer emosiynol yr olygfa. Mae Callum yn sefyll ger y gefnlen ac mae lliwiau’r darlun yn ei oleuo. Dylid llwyfannu hyn fel bod Callum bron yn edrych fel petai’n rhan o’r llun. Gellid annog y disgyblion i arbrofi â darluniau gwahanol i weld beth fydd yr eff aith ar y gynulleidfa. Er hynny, y munud mae Callum yn teimlo bod y gynulleidfa’n cydymdeimlo ag e mae’n troi’n haerllug unwaith eto trwy sôn am ei danysgrifi ad i gylchgrawn seiciatryddol Americanaidd. Mae’n codi’r cwestiwn: a oes rhaid i ni hoffi cymeriad er mwyn gallu cydymdeimlo ag ef? Unwaith eto mae Liam yn ymddangos yn ddisgybl caredig sydd eisiau helpu ei ff rind. O’r cynnig caredig hwn ymlaen rydym yn gwybod y bydd Liam yn iawn, y bydd yn gallu delio â’r hyn a wnaeth Josh iddo. Yn wahanol i Callum a Lowri, nid yw wedi delio â sefyllfa anodd trwy fod yn greulon ac yn oer.

Golygfa 8 Mae’r olygfa olaf yn heriol iawn o safbwynt yr actio a’r elfennau technegol. Noda’r dramodydd y dylid ceisio llenwi’r awditoriwm ag aroglau petrol. Mae sawl ymarferwr a chwmni theatr wedi ceisio gwneud pethau tebyg. Gellid edrych ar waith cwmnïau drama Complicité, Volcano Theatre a Tobacco Factory a’r dramodydd Artaud, sydd oll yn gwthio’r ffi niau o safbwynt llwyfannu a chynnig profi ad 3D neu 4D i’w cynulleidfaoedd. Mae Lowri’n ceisio siarad â’i thad ac, unwaith eto, yn gorfod gadael neges. Yn fewnol mae hi’n llawn edifeirwch am yr hyn sydd wedi digwydd, er nad ei bai hi ydyw o gwbl. Mae’n foment emosiynol iawn ac fe ddylai’r gynulleidfa gredu’n llwyr yn y foment hon – tipyn o gamp i unrhyw actor. Dim ond os yw hygrededd y cymeriad yn weithredol y daw

Hwb – Nodiadau Athrawon | 13 pŵer anerchiad Josh i’r amlwg: mae’n chwalu’r foment a’r bedwaredd wal trwy eistedd yn agos iawn at y gynulleidfa. Mae Josh yn annerch y gynulleidfa am y tro cyntaf. Mae yma ddefnydd Brechtaidd o adrodd weithredu (action narration) wrth iddo ddweud yn glir iawn wrth y gynulleidfa yn union beth sy’n digwydd / ddigwyddodd i Lowri. Mae’n gorff en ei araith trwy sarhau’r gynulleidfa am eu hanallu i eff eithio ar y ddrama a ff awd Lowri. Mewn gwirionedd mae’n eu ceryddu am eu hanallu i newid cymdeithas.

Cymeriadau

Lowri Fe fyddai’r ferch hon wedi astudio Drama a Cherddoriaeth yn y Chweched oni bai am ddyheadau ei mam, oedd am iddi astudio’r Gyfraith. Mae mam Lowri’n ei churo. Fe ddylai actor sydd am ymgymryd â’r rôl hon ymchwilio i eff aith trais / cam-drin yn y cartref ar bobl ifanc. Er bod Lowri’n ymwybodol bod pobl yn ei thrafod, nid yw wedi cyfaddef y gwir wrth neb. Pan fo Lowri’n ymosod ar Callum a Bronwyn yn Act Un, mae ff yrnigrwydd ei hymosodiad yn adlewyrchu’r trais sy’n rhan o’i bywyd bob dydd – mae’n naturiol iawn. Oherwydd hynny nid yw’n sylweddoli beth yw’r eff aith ar eraill ac fe all symud i gyfl awni gweithred hollol gyff redin yn syth ar ôl ennyd dreisgar. Mae ei realiti wedi newid oherwydd ymddygiad ei mam. (Gweler araith hir Callum yn Act Tri: fel Callum, mae ymddygiad Lowri’n tarddu o’r hyn sy’n digwydd gartref.) Byw er mwyn eraill mae Lowri. Nid oes ganddi’r hyder mewnol i fod yn hunangynhaliol. Mae angen sicrwydd canlyniadau arholiadau, adroddiadau, clod gan ei hathrawon a’i mam arni er mwyn teimlo’n dda. Nid yw’n dwyn gwaith cwrs Callum o ganlyniad i falais na dicter, ond oherwydd ei hofnau. Mae’n ofni methu a siomi eraill, yn enwedig ei mam. Mae’n methu deall hunanhyder Bronwyn, a heb lawer o gymorth, ni fyddai Lowri fyth yn medru dewis ‘rails hollol wahanol’. Mae ei gweithred olaf yn uchafbwynt i’w holl amheuon mewnol, a’i holl euogrwydd ac yn tystio i pa mor fregus ydyw. Yn anad neb, cynrychiola Lowri y gwahaniaeth rhwng rhith a realaeth sy’n llifo trwy’r ddrama i gyd.

14 | Hwb – Nodiadau Athrawon Callum Disgybl galluog iawn yw Callum. Bachgen gweithgar, bachgen uchelgeisiol, bachgen hyderus iawn ar yr olwg gyntaf. Fel Lowri, mae ganddo broblemau enbyd gartref (gweler ei araith yn Act Tri). Dyma efallai pam mae brad Lowri yn ei frifo a pham y gwelir e’n ymateb â chymaint o ddicter. Roedd e’n meddwl y gallai ymddiried yn Lowri a thrafod alcoholiaeth ei fam: mae Lowri’n tanseilio’r unig wir gryfder sydd ganddo, sef edmygedd ei athrawon, yn enwedig yn yr adran Saesneg. Mae Callum yn dweud celwydd trist am ei fywyd er mwyn cuddio’r gwir. Trwy ennyn cydymdeimlad eraill am ‘farwolaeth/PTSD’ ei dad, ‘cancr’ ei fam ac ‘MS’ ei fodryb mae’n osgoi gorfod dweud y gwir am ei fam a thrafod ei wir deimladau. Mae’r rhith mae’n ei greu yn fecanwaith sy’n ei alluogi i barhau i fyw ei fywyd o ddydd i ddydd. Mae’r poen go iawn a deimla yn cael ei guddio y tu ôl i boen rhithiol mae modd iddo ei reoli. Mae Callum, yn sicr, yn ymfalchïo yn ei glyfrwch ac yn methu deall agwedd Bronwyn tuag at y system addysg ac arholiadau. Mae’n nodweddiadol ei fod yn gwrthod ystyried y posibilrwydd y gallai fod yn aelod o’r dosbarth ADY pan mae Bronwyn yn ei herio am ei stori ynglŷn â’r gwaharddiad cyfreithiol yn erbyn ei dad. Hyd yn oed pan mae’n annerch y gynulleidfa a rhannu ei gynllwyn i ddial ar Lowri, nid yw’n medru ymatal rhag ymddangos yn hunanbwysig ac yn or-hyderus – er mai rhith yw’r cyfan unwaith eto.

Liam Fel Bronwyn, mae Liam yn un o gymeriadau mwyaf ‘cyff redin’ y ddrama. Mae’n gymeriad hyderus o’i dalent, yn sicr ohono’i hun ond yn ofni ymddygiad treisgar ei gyn-gyfaill Josh. Gwelwn hyn yn glir yn yr olygfa pan fo Callum yn canmol ei allu i chwarae’r cello: er bod Liam yn gwybod yn well na Callum, nid oes raid iddo fychanu Callum er mwyn teimlo’n dda. Heblaw am y cello’n cael ei chwalu, gweithredoedd sydd ynghlwm â bywyd dyddiol pobl ifanc sy’n poeni Liam – cariad, cyfeillgarwch a thrais. Mae wedi sicrhau lle mewn coleg enwog er mwyn astudio’r cello ac yn dod o deulu dosbarth canol sy’n ei gefnogi. Mae’n ff rind teyrngar i Gwen ac yn gwneud ei orau i’w helpu gyda’i gwaith Drama. Mae Liam yn gwbl onest pan mae’n dweud nad oes ganddo ddiddordeb mewn cynnal perthynas garwriaethol gyda Gwen. Yn ogystal, gwelwn ei garedigrwydd pan mae’n siarad

Hwb – Nodiadau Athrawon | 15 â Callum yn Act Tri – nid yw gweithredoedd treisgar Josh wedi ei chwerwi na’i droi’n greulon. Mae’n gymeriad hoff us a thriw. Efallai mai dyma sut mae Callum yn medru ei berswadio i ddweud wrth y prifathro am ymosodiad Josh. Nid oes gan Liam agenda bersonol felly nid yw’n sylweddoli bod eraill, fel Callum, yn gallu bod yn gyfrwys ac yn faleisus. Anaml y daw hiliaeth agored i’w gyff wrdd, eto mae’n ymwybodol ohoni. Dengys hyn yn ei ymateb pan mae Lowri’n ei gymharu â Sheku Kanneh-Mason. Mewn gwirionedd, nid yw’n chwarae fel Sheku Kanneh-Mason, ond oherwydd ei fod o dras cymysg mae Liam wedi hen arfer â’r gymhariaeth. Josh sydd yn ei frifo fwyaf gyda’i eiriau ffi aidd am ‘dy deip dy ’unan’. Hyd yn oed ar ôl ymosodiad ff yrnig Josh, gall y gynulleidfa fod yn ff yddiog y bydd Liam yn mynd i’r coleg ac yn goroesi.

Bronwyn Rebel, artist a chymeriad yw Bronwyn sydd, ar yr wyneb, angen cymorth sawl cwnselydd. Rhith yw’r cyfan. Mae Bronwyn yn chwarae rôl. Mae’n cyfl wyno ei hun fel unigolyn llawn angst, dicter a rhwystredigaeth tuag at hualau cymdeithas. Gwelwn y gwirionedd am Bronwyn pan mae’n cynnig helpu Lowri. Er nad yw’n ei hadnabod, mae Bronwyn yn cynnig lloches iddi. Mae Bronwyn yn dweud yn glir nad yw’n ‘dda iawn gyda pobl’ ond mae’r weithred hon yn profi i’r gwrthwyneb. Yn wir, er eithafi aeth y weithred o dorri croen Josh, mae’n gwybod sut i’w arbed rhag cael ei ddiarddel o’r ysgol ac, mewn ff ordd od ac eithafol, mae’n ei helpu yntau hefyd. Bronwyn yw’r un sy’n herio celwydd Callum. Gwna hyn mewn ff ordd gomig ac eff eithiol iawn. Mae ei hareithiau i’r gynulleidfa’n fodd o archwilio ystrydeb person ifanc llawn angst. Mae ei diddordebau oll yn adnabyddus: celf heriol, mynwent Père Lachaise a marw yn 27 oed. O Robert Johnson i Jim Morrison, Janis Joplin, Jimi Hendrix, Kurt Cobain ac Amy Winehouse, mae myth yr artist arteithiedig wedi apelio at yr ifanc erioed. Trwy geisio bod yn ‘wahanol’ mae Bronwyn yn profi nad yw’n wahanol o gwbl.

16 | Hwb – Nodiadau Athrawon Josh Er nad yw’r gynulleidfa’n dod i adnabod Josh cystal â’r cymeriadau eraill, mae ei anerchiad olaf yn sicrhau bod nod a phwrpas y ddrama yn cael eu datgan yn eglur iawn ganddo. Mae ei gymeriad yn nodweddiadol o’r bachgen galluog, poblogaidd sy’n llwyddo i osgoi cosb am ei ymddygiad am ei fod yn gryf yn academaidd. Mae ei ymateb tuag at Liam yn adlewyrchu’r dicter a’r trais yn ei gymeriad. Fe fydd angen cymorth ar Josh er mwyn iddo allu rheoli ei deimladau yn ystod gweddill ei arddegau. Mudferwi mae ei emosiynau treisgar fel arfer ond maen nhw’n ff rwydro’n sydyn ac yn ff yrnig pan mae’n dod i gredu bod Liam yn bwriadu dwyn Gwen oddi arno. Pŵer y ddrama yw nad ydym byth yn gweld Gwen: er hynny mae ganddi ran allweddol i’w chwarae yn yr hyn sy’n digwydd i Josh. Nid yw’n gadael Josh: mae Gwen, fel sawl merch ifanc alluog arall, yn mwynhau treulio amser gyda’r bad boy. Fel Bronwyn, fe fydd hithau’n troi ei chefn ar yr ‘act’ hon pan fydd yn hŷn ac yn teimlo’n barod i brofi llwyddiant a bywyd dosbarth canol. Fe all Josh ymddangos yn hamddenol ac yn hyderus ar brydiau, fel y gwelir pan mae yng nghwmni Bronwyn. Dyma efallai gyfl e i’r gynulleidfa ddeall pam y byddai merch fel Gwen yn cynnal perthynas ag e – mae’n ff raeth iawn. Mae ei berthynas â Bronwyn yn arwyddocaol: ar yr wyneb, hi yw’r un wallgof a gwyllt, ond realiti’r sefyllfa yw mai Josh sy’n dioddef o elfennau o salwch meddwl. Yn wahanol i Callum a Lowri, nid yw’n ymddangos fel petai elfennau allanol yn gyfrifol am yr hyn sy’n ei ysgogi i ymddwyn na theimlo fel y mae. Nid yw’r ddrama’n cyff wrdd yn gryf yn yr elfen hon, ond rhaid cofi o bod mwy o ddynion ifanc rhwng 16 a 24 yn marw o hunanladdiad nag sy’n marw o gancr. Heb gymorth, efallai mai dyma fydd tynged Josh.

Technegau Perff ormio

Er mai Theatr Dlawd yw arddull llwyfannu dewisol y dramodydd, gwelir pŵer y ddrama yn straeon unigol y cymeriadau a’r rhyngweithio rhyngddynt. Mae natur y golygfeydd yn ysgogi perff ormiadau mewn arddull Realaeth Fodern. Gellid symud tuag at Ŵber Realaeth os am herio’r disgyblion. I’r perwyl hwn rhaid i’r disgyblion sicrhau bod

Hwb – Nodiadau Athrawon | 17 y gynulleidfa’n agos at y gofod chwarae, y cymeriadu mor gredadwy â phosibl a’r sefyllfaoedd yn cael eu tan-chwarae fel eu bod yn ymdebygu i fywyd go iawn. Gall perff ormio yn yr arddull hwn gryfhau’r elfennau Brechtaidd wrth i’r cymeriadau dorri’r bedwaredd wal a chamu o’r olygfa i siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa. Mae sawl techneg y gellid eu defnyddio wrth baratoi ar gyfer perff ormiad o’r fath. E.e. y technegau a geir yn systemau actio mawrion megis Konstantin Stanislavski, Michael Chekhov, Uta Hagen a Sanford Meisner. Dylai’r actorion ifanc ff ocysu ar ddarganfod Amgylchiadau Rhoddedig (ff eithiau am y cymeriadau y gellid eu darganfod yn y sgript), yn ogystal â sicrhau Stori Gefndirol gredadwy.

Rôl ar y Wal (Dorothy Heathcote) Mae’r dechneg hon yn gallu gweithio’n eff eithiol iawn un ai cyn neu ar ôl sesiwn Cadair Boeth. Gofynnir i’r myfyrwyr orwedd ar y llawr, ac anadlu’n rhythmig (mewn i bedwar, allan i chwech) er mwyn sicrhau eu bod wedi ymlacio’n llwyr. Yna mae’r athro yn eu holi am eu cymeriad ac mae hwythau’n ateb ym myd y dychymyg. Gofynnir iddynt godi, mynd at y Rôl ar y Wal wag a dechrau ei llenwi â lliwiau, geiriau a delweddau, er mwyn creu darlun pelydr X o emosiynau’r cymeriad. Gellir dychwelyd at y sefyllfa hon trwy gydol y broses ymarfer. Mae’n eff eithiol iawn fel rhan o Log y disgybl ac yn eff eithiol gyda disgyblion sydd yn cael traff erth mynegi barn yn ysgrifenedig.

Amgylchiadau Rhoddedig (Stanislavski) Elfen bwysig iawn o waith unrhyw actor yw archwilio amgylchiadau rhoddedig y cymeriad. Dyma fan cychwyn deall y cymeriad. Gellir dechrau’r dasg hon trwy ofyn i’r disgyblion orwedd ar y llawr ac anadlu trwy’r trwyn, yna allan trwy’r geg i gyfri o bedwar. Mae’n bwysig eu bod yn ymlacio. Gall yr athro wedyn ofyn cyfres o gwestiynau iddynt – fe fydd hanner cyntaf y cwestiynau yn deillio o’r ddrama ac yn fwy ff eithiol. Bydd yr ail set o gwestiynau yn gofyn i’r disgyblion ddefnyddio techneg arall gan Stanislavski, Y Dychymyg. Yn yr adran hon fe ellir gofyn cwestiynau mwy treiddgar am ofnau, breuddwydion, teulu’r cymeriad, atgofi on plentyndod, ac ati.

18 | Hwb – Nodiadau Athrawon Stori Gefndirol (Stanislavski) Mae sawl ff ordd o brosesu’r hyn mae’r disgyblion wedi ei ddysgu am y cymeriad yn y tasgau blaenorol. Mae’r broses o lunio’r storïau cefndirol fel eu bod yn glir yn y meddwl yn bwysig – dyma fydd y sail i greu realiti y cymeriad ar y llwyfan ac mae modd eu cynnwys yn y Log. Techneg eff eithiol yw Creu Cerfl un. Gellir dod ag off er gwahanol i’r stiwdio – papur, darnau o bren a metel, defnydd, rhaff au, gwisgoedd. Fe ddylai’r disgyblion ddewis a chwarae cerddoriaeth sy’n gweddu i’r cymeriad dan sylw cyn mynd ati i greu cerfl un o’r cymeriad hwnnw / honno. Fel datblygiad i’r gwaith gellir gofyn iddyn nhw addasu’r cerfl un i arddangos sut mae’r cymeriad yn aeddfedu yn ystod y ddrama. Mae’r disgyblion i osod y cerfl un mewn man o’u dewis yn y stiwdio a’i oleuo yn y modd yr hoff en nhw i’r gynulleidfa ei weld. Yna ceir arddangosfa ble mae’r dosbarth cyfan yn trafod gwaith ei gilydd (h.y. y cymeriadau yn y ddrama). Gellir gofyn iddyn nhw ddefnyddio tafl un (os yw hyn yn bosibl yn y stiwdio / ystafell ddosbarth) a’u cael i ddewis gwaith celf addas i gryfhau y neges mae eu cerfl un yn ei gyfl eu. Tasg ychydig yn haws fyddai gofyn iddyn nhw greu portread celf o’u cymeriad. Unwaith eto mae’r dewis o gerddoriaeth yn bwysig gan y bydd yn creu’r emosiwn cywir ar gyfer y dasg ac yn cyd-fynd â sut mae’r Elgar yn cael ei chwarae trwy’r ddrama. Gellir clymu’r dasg hon gyda’r artistiaid a geir yn y ddrama e.e. creu portread yn arddull Munch, Bacon, Picasso: gallant ddewis pa artist sydd yn gweddu i’r cymeriad dan sylw. Unwaith eto, fe ddylid cynnal arddangosfa o’r gwaith gorff enedig gan adael i’r disgyblion benderfynu ble maen nhw am osod y gwaith er mwyn i’r gynulleidfa ei weld. Mae hon yn dechneg a all esgor ar drafodaeth eff eithiol iawn gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r cymeriadau a’r themâu yn y ddrama. Technegau eraill fyddai gofyn iddyn nhw lunio cerdd, dyddiadur, cyfres o ff otograff au, llythyrau, blwch atgofi on, rhestrau megis pethau i’w gwneud / rhestr siopa. Mae’r rhain oll yn fodd o greu realiti i’r cymeriad.

Hwb – Nodiadau Athrawon | 19 Unedau a Chymhelliad (Units and Objectives) Stanislavski Gofynnir i’r disgyblion ddarllen golygfa / ymson yn uchel, a hynny ddwy neu dair gwaith. Yna fe ofynnir iddynt feddwl ble mae’r emosiwn, yr ystyr a’r cymhelliad yn datblygu / newid trwy gydol yr ymson. Gall hyn fod wrth i gymeriad arall gyrraedd y llwyfan neu wrth i awyrgylch yr olygfa newid yn sydyn. Mae’n bwysig nad yw’r unedau yn rhy hir er mwyn gallu eu hymarfer yn fanwl. Fe ddylai’r disgyblion dynnu llinell ble mae’r uned yn diweddu, ei rhifo ac ysgrifennu’r cymhelliad yn glir wrth ochr yr uned. Fe fydd hyn yn sicrhau bod y cymhelliad, yr emosiwn ac felly y tempo, y traw a’r tôn a’r rhyngweithio yn fwy credadwy. Gellir gwneud hyn gyda’r sgript gyfan – mae’n dasg gwaith cartref eff eithiol ac yn un y gellid ei defnyddio wrth astudio’r testunau gosod eraill hefyd.

Ymsonau Mae sawl ymson yn y ddrama. Gellid perff ormio rhai o’r ymsonau, sy’n trafod natur y ddrama, mewn arddull mwy Brechtaidd – er ei fod yn bwysig cofi o taw’r cymeriad ac nid yr actor sy’n siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa. Mae angen llawer o baratoi ac ymarfer ar gyfer perff ormio ymsonau eraill, megis ymson gref Callum tuag at ddiwedd y ddrama. Un o’r technegau mwyaf eff eithiol wrth baratoi perff ormiad o’r ymson honno yw Unedau a Chymhelliad Stanislavski. Gofynnir i’r disgyblion ddarllen yr ymson yn uchel, a hynny ddwy neu dair gwaith. Yna fe ofynnir iddynt feddwl ble mae’r emosiwn, yr ystyr a’r cymhelliad yn datblygu trwy gydol yr ymson. Dylai’r disgybl dynnu llinell ble mae uned yn diweddu, ei rhifo ac ysgrifennu’r cymhelliad yn glir wrth ochr yr uned. Fe fydd hyn yn sicrhau bod y cymhelliad, yr emosiwn ac felly y tempo, y traw a’r tôn, yr osgo, y mynegiant wynebol, y symudiadau a’r rhyngweithio gyda Liam / y gynulleidfa yn datblygu’n naturiol trwy gydol yr ymson. Mae’n fwy eff eithiol ei hymarfer mewn unedau yn hytrach nag yn un darn hir. Mae’n bwysig i’r actor ifanc ddarganfod cymhelliad a ff ocws i bob rhan o’r ymson yn enwedig os yw’n perff ormio yn arddull Realaeth Fodern / Ŵber Realaeth.

Saith Lefel Tensiwn Lecoq Mae’r ddrama’n agor ar lefel uchel o ran tensiwn. Mae Lowri’n llawn angst gan nad yw wedi cwblhau ei gwaith cwrs ac mae pwysau cynyddol arni i lwyddo. Mae Callum mewn

20 | Hwb – Nodiadau Athrawon stad uchel o densiwn oherwydd alcoholiaeth ei fam a’i awch i fod y gorau yn yr ysgol. Mae Liam ofn Josh ac mae Josh yn grac oherwydd yr hyn a ddigwyddodd rhwng Liam a Gwen cyn i’r ddrama ddechrau. I’r perwyl hwn gallai’r myfyrwyr arbrofi â Saith Lefel Tensiwn Lecoq. Dylid ymarfer y lefelau tensiwn hyn gam wrth gam, gan annog y disgyblion i symud o un lefel i’r llall gan addasu’r osgo, y mynegiant wynebol, yr ystum a’r anadlu. Pan fyddan nhw’n hyderus, fe all y disgyblion arbrofi trwy berff ormio gwahanol olygfeydd o fewn y lefelau tensiwn amrywiol. Fe fydd hyn yn fodd o sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r dewisiadau fyddan nhw’n eu gwneud fel perff ormwyr ac yn help iddyn nhw wrth ystyried cwestiynau Uned 2 ac Uned 4.

Lefel 1: Catatonig Lefel 2: Ymlaciedig Lefel 3: Niwtral

Lefel 4: Egnïol / Chwilfrydig Lefel 5: Llawn tensiwn / Adweithiol Lefel 6: Angerddol (Opera)

Lefel 7: Trasig

Lefel 1: Catatonig Does dim tensiwn o gwbl yn y corff . I gymeriad catatonig mae symud neu siarad yn straen ac yn ddibwys. Gellid meddwl am amoeba neu slefren fôr wrth baratoi’r corff .

Lefel 2: Ymlaciedig Mae hwn yn lefel gyff orddus iawn o ran bodolaeth. Er nad yw mor ddiymadferth â Lefel 1, nid yw cymeriad sy’n bodoli yn y lefel tensiwn hon yn eff ro iawn i’r byd. Mae popeth yn dderbyniol a di-straen. Gellid meddwl am feddylfryd California, neu bobl ar draeth Bondi – ‘Mañana, mañana’ yw mantra cymeriad yn y lefel tensiwn hon.

Lefel 3: Niwtral Daw’r term niwtral o ieithwedd Dawns Fodern. Mae’n bwysig i bob actor ifanc ddarganfod y stad hon o fod. Dyma fan cychwyn pob ymarfer a pherff ormiad byw (cyn camu ar y llwyfan). Dyma’r lefel tensiwn a deimlir cyn i rywbeth ddigwydd. Dylid gwagu’r ymennydd o’r hyn sydd wedi digwydd ac sydd ar fi n digwydd a bodoli yn y presennol yn unig. Mae’r stad hon yn gofyn am lawer o ymarfer ond yn ddefnyddiol iawn trwy gydol gyrfa actor. Dylid dechrau ag ymarferion anadlu neu ioga a datblygu’r osgo a’r meddylfryd cywir dros nifer o sesiynau ymarfer.

Hwb – Nodiadau Athrawon | 21 Lefel 4: Egnïol / Chwilfrydig Mae’r lefel tensiwn hon yn gofyn am egni. Nid yw’r cymeriad yn gallu eistedd yn hir cyn gorfod codi ac ymchwilio. Mae’r cymeriad angen ateb, angen datrys, angen darganfod ac mae hyn yn ei rwystro rhag ymlacio a bodoli yn y presennol. Mae nerfusrwydd a chyff ro yn rhannau canolog o’r lefel tensiwn hon.

(Mae lefelau 1–4 yn bodoli ym mywydau bod dydd y mwyafrif ohonom. Mae 5–7 yn lefelau mwy dramatig. Byddai’n eff eithiol ceisio darganfod ble y dylid gosod Callum, Josh a Lowri o ran y lefelau hyn.)

Lefel 5: Llawn tensiwn / Adweithiol Wrth arbrofi â’r lefel hon gellid meddwl am felodrama’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae popeth yn ddramatig iawn. Gellid creu’r tensiwn hwn trwy’r ff ordd mae rhywun yn anadlu. Wrth anadlu’n drwm trwy’r geg gellid creu’r lefel tensiwn gywir. Mae’r cymeriad yn disgwyl digwyddiad eithafol / dramatig ac yn barod, bron y gellid dweud ei fod yn awyddus i’w wynebu. Gellid ystyried gosod Josh, Liam, Callum neu Lowri yn y lefel tensiwn hon ar ddechrau’r ddrama. Cwestiwn arall i’w ystyried yw ble mae’r cymeriadau erbyn yr uchafbwynt olaf. Gellid edrych ar olygfa agoriadol a golygfa olaf Y Crochan gan Miller. Mae’r ddrama’n agor mewn stad uchel o ran tensiwn ac yn cynyddu’n eithafol trwy’r ddrama. Beth yw eff aith hyn ar yr actorion / y gynulleidfa?

Lefel 6: Angerddol (Opera) Mae Lefel 6 yn llawn tensiwn. Dylid dychmygu bod bom ar fi n ff rwydro neu awyren yn disgyn o’r awyr. Mae’n amhosibl rheoli’r emosiynau ac mae holl gorff ac anadl yr actor ar dân. Unwaith eto yr anadl yw’r gyfrinach: dylid ymarfer anadlu’n gyfl ym ac yn fas. Bydd hyn yn fodd o gynyddu curiad calon yr actor a chryfhau’r lefel tensiwn. Mae hon yn lefel tensiwn eff eithiol iawn ar gyfer Callum a Josh yn ystod Actau Dau a Thri.

Lefel 7: Trasig Dyma’r lefel tensiwn fwyaf dwys. Mae’r hyn mae’r cymeriad yn ofni sy’n mynd i ddigwydd ar fi n digwydd. Mae’r bom yn ff rwydro, mae’r gwn yn anelu at ei dalcen, mae’r awyren o

22 | Hwb – Nodiadau Athrawon fewn troedfeddi o fwrw’r ddaear. Yn aml disgrifi r y stad tensiwn hon fel stad y Brenin Lear wrth gario Cordelia i’r llwyfan neu stad John Proctor wrth arwyddo ei enw yn act olaf Y Crochan. Gallai’r actorion ifanc arbrofi â’r lefel tensiwn hon wrth baratoi galwad ff ôn olaf Lowri, ymson olaf Callum neu’r olygfa ble mae Josh yn torri cello Liam.

Byrfyfyr I sicrhau stori gefndirol a pherff ormiadau credadwy gellid gofyn i’r disgyblion ddefnyddio eu dychymyg a byrfyfyrio golygfeydd ychwanegol. Wrth iddynt baratoi, bydd gofyn iddynt sicrhau bod ganddynt gymhelliad clir, elfen o wrthdaro a digwyddiad pendant i’w chwarae / perff ormio. Dim ond trwy sicrhau’r elfennau hyn mae modd creu gwaith byrfyfyr eff eithiol e.e.

Cymeriadau: Callum a’i fam.

Cymhelliad Callum : i gwblhau ei waith cwrs.

Cymhelliad y fam: i geisio cael arian ganddo i brynu mwy o alcohol.

Digwyddiad: Callum yn ysgrifennu ger y ddesg. (Mae’n bwysig dechrau gyda digwyddiad arferol er mwyn rhoi cyfl e i’r olygfa dyfu’n raddol. Mae’n bwysig sicrhau bod yr actorion yn glynu at eu cymhelliad. Daw’r tensiwn o’r ff aith fod y ddau gymhelliad yn creu gwrthdaro naturiol.)

Gellir ychwanegu haen arall i’r gwaith byrfyfyr hwn trwy ddechrau’r olygfa o fewn un o lefelau tensiwn Lecoq. Dyma ddisgrifi adau ohonynt:

Hwb – Nodiadau Athrawon | 23 Ymarferion Moni Yakim Mae Moni Yakim yn archwilio cymeriadau trwy ofyn i actorion ystyried eu natur anifeilaidd. Mae’n dechneg dda wrth feddwl am osgo, symudiadau, ystum a’r rhyngweithio rhwng y cymeriadau. Gellir dechrau’r dasg gyda sesiwn ioga i sicrhau bod y disgyblion wedi twymo’n gorff orol ac yn anadlu heb densiwn. Fe ddylai pob disgybl archwilio cymeriad gwahanol. Dylid dechrau’r dasg yn gorwedd ar y llawr yna’n raddol symud llaw, braich, troed, cefn, pen, torso hyd nes bod anifail wedi cael ei greu. Yna fe ddylai’r actorion symud yr anifail o amgylch y stiwdio. Yn raddol fe fyddan nhw’n dod yn ymwybodol o’r anifeiliaid eraill yn y gwagle ac yn dechrau ymateb iddyn nhw – efallai bod angen anogaeth gan yr athro i hyrwyddo hyn. Mae’n bwysig gadael i’r dasg barhau am tua deugain munud er mwyn sicrhau amser i’r anifeiliaid ddatblygu a rhyngweithio â’i gilydd. Gellir gwasgaru propiau a gwahanol ddeunyddiau gan gynnig tasgau i’r disgyblion wneud er mwyn datblygu’r byrfyfyrio. E.e. adeiladwch loches, crëwch ddihangfa, ceisiwch lunio lle cyff orddus i gysgu... mae hyn yn fodd o sicrhau eu bod yn symud ac yn rhyngweithio fel yr anifail / cymeriad. Yn y sesiynau ymarfer sy’n dilyn fe ddylid ailymweld â’r anifeiliaid. Dechreuir pob sesiwn ar lefel uchaf yr anifail (10) yna tynnu’r gwaith corff orol i lawr yn raddol hyd nes cyrraedd y lefel sy’n gweddu orau i’r cymeriad yn yr olygfa dan sylw. E.e. mae Josh yn llawer mwy anifeilaidd na Liam, gan fod Liam yn feistr ar guddio ei emosiynau real. Gellir archwilio sut y byddai hyn yn eff eithio’r symud a’r rhyngweithio rhwng y ddau o fewn yr un olygfa.

Llwyfannu / Cyfarwyddo Arddull wreiddiol y llwyfannu yw Theatr Dlawd. Cyn dechrau ystyried sut i lwyfannu’r ddrama fe ddylid astudio / mynd i weld y ddrama War Horse. Mae’r cynhyrchiad yn defnyddio sgerbwd set, cefnlen, pypedau er mwyn creu realiti emosiynol. Os nad yw’r dosbarth wedi gweld y cynhyrchiad, mae deunyddiau ar gael gan y National Theatre ac mae DVD The Making of War Horse hefyd yn ddefnyddiol wrth edrych ar y set.

Creu Cyfl wyniad Gofynnir i’r disgyblion feddwl am gynhyrchiadau maen nhw wedi eu gweld neu eu

24 | Hwb – Nodiadau Athrawon hastudio, delweddau o setiau enwog megis A Midsummer Night’s Dream Peter Brook yn ogystal â gwaith dylunwyr chwyldroadol megis , , , Anna Fleischle, , Mark Thompson a Robert Jones. Yna, gofynnir iddyn nhw greu cyfl wyniad ble maen nhw’n defnyddio delweddau o setiau eraill wrth esbonio eu syniadau am lwyfannu’r ddrama hon. Gellir ei gyfl wyno fel pitch am swydd dylunydd.

Bwrdd Syniadau Gofynnir i’r disgyblion gasglu deunyddiau cyn dechrau ar y dasg hon, neu i gwblhau’r dasg fel gwaith cartref a’i chyfl wyno gerbron y dosbarth. Gofynnir iddynt greu bwrdd syniadau / collage syniadau. Ar y bwrdd fe ddylen nhw gyfl wyno eu dewis o lwyfan, lliwiau, deunyddiau (mor agos i’r rhai y dymunir eu cael ar y set), delweddau a dyfyniadau o’r ddrama. Fe ddylai’r bwrdd esbonio eu dewis o lwyfan, arddull set a’r awyrgylch maen nhw’n dymuno ei greu.

Set Mewn Bocs Fe all y dasg hon ddilyn y bwrdd syniadau. Yma gellir gweithio ar set mewn bocs neu, os nad oes un ar gael yn yr ysgol, mewn blwch cardfwrdd. Gofynnir iddyn nhw greu model 3D o’u set. Dylid sicrhau bod modd addasu’r model ar gyfer y pedwar llwyfan gwahanol neu ofyn i wahanol ddisgyblion greu setiau ar gyfer Llwyfan Bwa Prosceniwm, Llwyfan Ymwthiol, Llwyfan Gylch a Llwyfan Traws. Unwaith eto fe ddylai’r disgyblion gyfl wyno eu syniadau gerbron y dosbarth a derbyn adborth er mwyn gallu addasu a datblygu eu syniadau gwreiddiol. Mae clipiau ar gael ar YouTube ble mae cynllunwyr set y National Theatre yn esbonio eu gweledigaeth – mae’n ff ordd dda iawn o gael y plant i ddeall sut mae cynllunwyr yn creu modeli o’u setiau.

Creu Cynllun Set Unwaith i’r disgyblion gael cyfl e i archwilio eu syniadau, gellir gofyn iddyn nhw greu cynllun set manwl. Mae modd cyfl wyno cynllun llawr ar gyfer Llwyfan Bwa Prosceniwm, Llwyfan Ymwthiol, Llwyfan Gylch a Llwyfan Traws. Mae’n ofynnol i’r cynlluniau llawr arddangos safl e’r gynulleidfa, mynedfeydd ac allanfeydd, unrhyw lefelau megis rostra,

Hwb – Nodiadau Athrawon | 25 ffl atiau, dodrefn, cefnlenni, lliain llawr a safl e’r goleuo. Dylid eu hannog i weithio ar y pedwar math o lwyfan ac yna treialu eu setiau trwy lwyfannu golygfa.

Llwyfan Bwa Proseciwm Llwyfan Ymwthiol Llwyfan Gylch

CYNULLEIDFA CYNULLEIDFA

Llwyfan Llwyfan CYNULLEIDFA Llwyfan CYNULLEIDFA

Ffedog CYNULLEIDFA CYNULLEIDFA CYNULLEIDFA CYNULLEIDFA

Llwyfan Traws CYNULLEIDFA

Llwyfan CYNULLEIDFA

Gellir datblygu’r dasg uchod trwy ddefnyddio tabled fel cefnlen a ffl achlampau bychain i greu ac i arddangos cynlluniau goleuo’r disgyblion.

Rhyngweithio ar y Set Fe ddylai’r disgyblion weithio mewn grŵp. Dewisir un set i’w dreialu. Gan ddefnyddio tâp rhoddir amlinelliad o’r set ar lawr y dosbarth (gellir edrych ar set y ffi lm Dogville os yn ansicr). Dylid ei fesur a’i greu i raddfa. Annogir yr actorion i dorri’r olygfa a ddewisir yn Unedau a Chymhelliant, yna i weithio ar y set gan ganolbwyntio yn arbennig ar y rhyngweithio rhwng y cymeriadau a’r berthynas â’r gynulleidfa. Gellir datblygu’r dasg trwy eu hannog i weithio ar ystod o lwyfannau gwahanol.

Goleuo Mae goleuo, yn enwedig trwy’r defnydd o gefnlen, yn hanfodol i greu naws yn y ddrama hon. Gwelir hyn yn arbennig yn yr olygfa ble mae Callum yn perff ormio ei fonolog olaf. Yn

26 | Hwb – Nodiadau Athrawon yr adran hon mae’n tyfu i fod yn rhan o’r gefnlen, yn rhan o’r gwaith celf. Mae pob darn o gelf wedi ei ddewis yn ofalus gan y dramodydd, oherwydd cynnwys y darn ac oherwydd y lliwiau. Am y byddan nhw ar gefnlen ddigidol fe fydd lliwiau’r paentiadau’n lliwio wynebau / corff y cymeriadau ac awyrgylch yr olygfa. Gellid cynnal gweithdy goleuo ble mae’r disgyblion yn dewis gwahanol baentiadau ac yn arbrofi gyda sut mae’r lliwiau’n eff eithio’r actio / yr awyrgylch / curiad calon yr actor a’r gynulleidfa (e.e. mae golau cynnes yn cyfl ymu curiad y galon, golau mwy glas megis glas fel y dur yn arafu’r curiad). Oherwydd pwysigrwydd celf ym mhob golygfa rhaid sicrhau nad yw’r goleuo’n eff eithio ar bŵer y paentiadau, e.e. beth yw’r llusernau a ddefnyddir, beth yw eu cryfder, ble fyddan nhw’n cael eu lleoli ar y llwyfan? Isod mae dewis o lusernau ar gyfer y disgyblion. Gellid gofyn i’r disgyblion greu cynllun goleuo ar gyfer y gwahanol olygfeydd. Unwaith eto fe fydd hyn o gymorth wrth berff ormio’r ddrama ac wrth baratoi ar gyfer Unedau 2 a 4. Mae tri prif bwrpas i oleuo yn y theatr: · Goleuo’r actorion er mwyn i’r gynulleidfa eu gweld. · Creu lleoliad, tymor, amser y dydd. · Creu naws / awyrgylch.

Yn y dasg fe fydd rhaid i chi ddisgrifi o sut y byddwch yn goleuo golygfa er mwyn creu lleoliad, naws / awyrgylch. Fe fydd rhaid cynnwys y canlynol: Ll, Ll, C, Ll: Llusern Lliw Cryfder (%) Lleoliad (ble mae llif y golau’n taro ar y llwyfan)

E.e. Lamp PARcan gel glas, 45%, canol llwyfan. 14 lamp Fresnel pinc a gwellt, 80%, llwyfan cyfan. 4 Fresnel glas, 60%, llwyfan chwith, gobo siâp ff enestr ar fl aen y lamp. 1 sbotolau gwellt, 70%, blaen llwyfan. 1 Fresnel gwellt, 30%, drysau’r ysgubor bron ar gau i oleuo wyneb Josh.

Hwb – Nodiadau Athrawon | 27 Llusernau

Enw Pwrpas Delwedd Fresnel Caiff llif y lamp Fresnel ei alw’n ‘wash’ gan ei fod yn agored ac yn gallu goleuo rhan gymharol eang o’r llwyfan. Gall 14 Fresnel oleuo llwyfan canolig cyfan: byddai angen mwy ar gyfer llwyfan mawr. E.e. Fresnel coch, 60%, canol llwyfan ar gadair Lowri. 14 Fresnel glas a gwellt, 70%, llwyfan cyfan. Profi le Mae’r llusern hon yn dda ar gyfer goleuo rhan benodol o’r llwyfan / set. Wrth ddefnyddio’r caeadau gellir creu llif olau tynnach a siapiau penodol e.e. drws, coridor. Ambell waith caiff y math hwn o olau ei alw’n sbotolau gan fod modd cau llif y golau fel ei fod yn ff ocysu’n dynn ar gorff / wyneb actor. E.e. Proffi l gwellt, 30%, ar wyneb Josh. Proffi l coch, 70% ar Liam, llwyfan chwith. Proffi l glas, 60% wedi cau a thynhau i greu siâp drws, cefn llwyfan chwith. PARcan Datblygwyd y llusern PARcan gan y Diwydiant Roc er mwyn creu llifolau llydan, cryf i oleuo stadiwms a chyngherddau roc mawr. Mae’n cael ei defnyddio ar gyfer goleuo gwrth- naturiolaidd ac yn wych ar gyfer goleuo symbolaidd. Gall greu colofn o olau crwn neu olau wedi ei siapio gan ddefnyddio drysau ysgubor. E.e. PARcan coch, 80%, blaen llwyfan o’r frigloff t. PARcan glas fel y dur, 70%, wedi eu siapio i greu siâp coridor hir canol llwyfan.

28 | Hwb – Nodiadau Athrawon Birdies Llusernau bach â llifolau tyn iawn. Gellid eu cuddio ar y set i oleuo rhan arbennig o’r olygfa. Gall sawl un greu eff aith arbennig e.e. bariau cell. E.e. gosod 12 lamp Birdie glas fel y dur, 80%, o’r frigloff t ar fl aen y llwyfan i awgrymu cell carchar. Drysau Ysbubor Maen nhw ar fl aen lampiau llusern ac yn gallu bod ar agor neu’n gallu cael eu cau i greu siapiau arbennig e.e. drws, coridor, ystafell. Mae drysau ysgubor i’w cael ar lampiau Fresnel, PARcan a phroffi l. Gobo Mae templed gobo yn cael ei osod y tu mewn neu o fl aen lampiau fresnel neu broffi l. Mae’r siâp sydd wedi ei dorri yn y gobo yn cael ei dafl u ar y llwyfan, y gefnlen neu’r set. Gellir cael sawl gwahanol fath French Doors e.e. Les Mis Sewers a Leaf Dapple. Mae’n ff ordd dda o greu lleoliad a naws. Fresnel gwellt, 80%, blaen llwyfan. Gobo siâp ff enestr y tu mewn neu o’i fl aen i awgrymu’r haul yn dod trwy ff enestr yr Church Window ysgol. Tafl uniad / Gellid creu lleoliad yn hawdd trwy Cefnlen Ddigidol ddefnyddio golau a thafl uniad (projection). Gall fod yn ddelwedd neu’n dafl unydd digidol (digital projector) e.e. awyr las yn troi’n llwyd wrth i storm agosáu; neu wal gyda graffi ti arni i awgrymu stryd mewn ardal dlawd. Gellid hefyd ddefnyddio tafl uniad mewn ff ordd fwy Brechtaidd e.e. trwy dafl unio enw’r lleoliad, y dyddiad neu neges. Yn y ddrama hon paentiadau Bacon, Sutherland a Bronwyn sy’n lliwio’r awyrgylch ac yn creu ystyr. Rhannol Term sy’n disgrifi o sut mae cynllunwyr weladwy goleuo weithiau eisiau osgoi bod cymeriad yn hollol weladwy, eisiau iddynt fod yn y cysgod er mwyn helpu’r naratif neu greu naws arbennig. Gallai hyn ddigwydd yn yr olygfa ble mae Bronwyn yn torri Josh.

Hwb – Nodiadau Athrawon | 29 Gwisgoedd Cyn dechrau ar y dasg hon, byddai o fudd i’r disgyblion wylio ffi lm y National Theatre ar wisgoedd. Mae ar eu gwefan ac ar YouTube. Wedi gwylio fe ellid mynd ati i greu cynlluniau gwisg manwl gan eu labelu’n ofalus a defnyddio’r termau cywir ar gyfer y gwisgoedd. Dylid canolbwyntio ar yr arddull, y cyfnod, y deunydd / defnydd a ddefnyddir, y lliw, y cyfl wr a sut y byddan nhw’n helpu’r actor i gyfl eu cymeriad i gynulleidfa gyfoes. Fe fyddai’n syniad da i wethio ar bapur A3 er mwyn gallu gludo elfennau fel darnau o ddefnydd a’r dewis o liwiau o amgylch y gwahanol gynlluniau.

Y Catwalk Mae’r dasg hon yn datblygu ar y dasg ‘gwisgoedd’ trwy ofyn i ddisgyblion greu rhai o’r gwisgoedd a’u harddangos. Gellir defnyddio dillad go iawn, darnau o bapur mawr, cardfwrdd neu roliau o dywelion papur cegin a’u labeli er mwyn llunio’r gwisgoedd. Dylid cyfl wyno’r gwisgoedd a ddangosir ar lafar (fel mewn sioe ff asiwn) gan ddefnyddio’r derminoleg gywir a cherddoriaeth addas ar gyfer pob cymeriad. Os oes golau yn y stiwdio / ystafell ddosbarth fe ellir ychwanegu’r haen hon i’r dasg gan ddewis geliau lliw addas ar gyfer pob cymeriad a thafl un cefndirol.

Mae pob un o’r tasgau hyn wedi eu treialu gyda disgyblion ac yn fodd o esgor ar drafodaethau dosbarth cyfan. Y gobaith yw y byddant yn cryfhau dealltwriaeth y disgyblion o’r arddull llwyfannu ac yn sicrhau y byddant yn hyderus i greu cymeriadau credadwy.

Rhian Staples Chwefror 2019

30 | Hwb – Nodiadau Athrawon