CYNGOR CYMUNED COFNODION O’R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 1af Mehefin 2016

Yn bresennol: Cadeirydd Gerallt Rhun

Y Cynghorwyr: Idwal W Williams, Bryn Jones, Keith T O’Brien, Richard Davies, Tom G Ellis.

Hefyd yn bresennol: David Hughes (PCSO), Karen Hughes (Swyddog Ariannol), Ellen Ap Dafydd (Swyddogaeth Clerc).

Ymddiheuriadau: Hefin W Jones, A Huw Jones, Helen W Jones, Enid Roberts.

SCCH (PCSO) 3038 David Hughes yn rhannu gwybodaeth ystadegau diweddar yn yr ardal. Adroddodd hefyd y bydd yn cael ei drosglwyddo i ardal newydd yn y dyfodol ag y bydd SCCH (PCSO) Emma Jones a Delyth Edwards yn gweithredu yn ardal Trawsfynydd. Diolchodd y Cadeirydd iddo am ei bresenoldeb yn y cyfarfodydd gan egluro fod y Cynghorwyr wedi gwerthfawrogi’r wybodaeth a’r gefnogaeth yn fawr iawn.

COFNODION CYFARFOD 4ydd Mai 2016 Cyflwynwyd, cadarnhawyd a llofnodwyd y rhain fel rhai cywir gan y Cadeirydd.

1852 MATERION YN CODI O’R COFNODION 1494(2) Gosod llinellau melyn mewn rhan o’r pentref – Nid oes ateb wedi ei dderbyn + gan Gyngor eto. 1584(3) 1623 Parc Bryn Glas (gardd sydd rhwng stryd Bryn Hyfryd a llety Bryn Dedwydd), Parc (1) Cenedlaethol Eryri yn berchen ar y llecyn – Clerc yn adrodd nad oes ateb wedi ei dderbyn eto.

1714 Gardd Bryn Glas (gosod bin ysbwriel wrth y fainc) – Cynghorwyr yn cytuno i’r (6) Clerc ffonio Swyddog Cyngor Gynedd i’w rybuddio fod yr holl ohebiaeth i’w ddanfon i’r Prif Weithredwr os nad yw’r darn gwaith yn cael ei gwblhau yn fuan.

1641 Datblygu maes parcio ar dir yn y pentref – Cynghorwr Tom Ellis yn adrodd ei fod (3) wedi cael cynllun diwygiedig gan Swyddog Cyngor Gwynedd. Cynghorwyr yn gwirio’r cynllun diweddaraf yma ag yn dymuno iddo gael ei ddangos i berchennog y tir er mwyn parhau gyda’r drafodaeth creu cynllun parcio ar y safle. Cynghorwyr Tom Ellis a Richard Davies yn mynd i drafod y mater yn ystod y mis.

1762 Baw Cŵn yn y Pentref (cŵn rhydd a pherchnogion anghymdeithasol) – Clerc yn (1) adrodd nad oes ateb wedi ei dderbyn gan Cyngor Gwynedd.

1768 Sedd Wag ar Y Cyngor – Posteri wedi eu gosod ond hyd yn hyn neb wedi datgan (5) diddordeb.

1782 Peintio Adwy Mochyn Bryn y Gofeb – Clerc yn gofyn i’r Cadeirydd arwyddo’r cais (2) grant ar ran y Cyngor.

1782 Gosod bin halen ar y ffordd o gyffordd gyda’r A470 draw at Penstryd – (4) a) Clerc yn darllen yr ohebiaeth sydd wedi ei dderbyn gan Mr Steffan Jones, Swyddog Cyngor Gwynedd.

b) Darpariaeth Biniau Halen yn y flwyddyn ariannol nesaf 2016-2017 – Cynghorydd Idwal Williams yn rhannu fod Un Llais Cymru am gyfarfod gyda Swyddogion Cyngor Gwynedd. Mae pryder parthed y cynllun o fewn Gwynedd. Un Llais Cymru yn mynd i rannu y pryder yma parthed yr holl oblygiadau ynghlwm a’r cynllun gan Cyngor Gwynedd.

Tudalen 1

1852 MATERION YN CODI O’R COFNODION (parhâd) 1794 Adolygu Rhestr Meddiannau (gwaith cynnal a chadw) – (1) Paentio Meinciau (meinciau y sgwar a rhai Gardd Salem) – dim datblygiad yn y gwaith hyd yn hyn. Glanhau, atgyweirio a phaentio Llochesi Bws a Waliau ‘shelter’ Bryn y Gofeb – Mae’r gwaith wedi ei gychwyn yn ystod y mis.

1824 Casgen Dŵr Gardd Salem – Cynghorydd Idwal Williams yn adrodd ei fod wedi (1) cychwyn ar y gwaith ond mae rhagor o waith yn angenrheidiol nad oedd wedi ei ragweld er mwyn ei ddarfod yn drwyadl.

1824 Gwastraff nwyddau ail-gylchu y pentref – Clerc i gysylltu gyda CCG (Cartrefi (6) Cymunedol Gwynedd) yn ystod y mis i holi beth yw amserlen ymgyrch glanhau Cefn Gwyn ag i wneud cais fod yr un ymgyrch yn cael ei fabwysiadu yn Maesgwyndy.

1830 Cynllun Trem ar Traws – Adroddwyd bod angen cyfieithu adroddiad 'Trem ar Traws' (1) sydd wedi ei greu gan Sian Shakespear i'r Saesneg. Mae’r gwaith wrthi’n cael ei ddarparu.

1830 Polion wedi sigo pan yn teithio o Trawsfynydd i Bronaber – Clerc yn adrodd nad (3) oes ateb wedi ei dderbyn.

1830 Adroddiad ar sut gall greu trefn mwy tryloyw yn y dyfodol (Cyfarfod Y Cyngor) – (8) Mae’r adroddiad i’w gyflwyno yn ystod mis Gorffennaf.

1835 Cytundeb agor beddi Pencefn a Salem am y flwyddyn ariannol 2016-2017 – Mae’r (3) Cynghorydd Tom Ellis ag Idwal Williams wedi cyfarfod gyda’r Swyddog yn ystod y mis. Angen cysoni’r rhesi i ddilyn yr hen drefn. Mae’r Swyddog yn mynd i geisio adenill tir pan fydd yn agor beddi a thacluso’r drefn ym Mynwentydd Pencefn a Salem. Mae hefyd yn fodlon gwaredu’r pridd ag ysbwriel ar waelod mynwent Pencefn pan fydd amser yn caniatau.

1836 Ansawdd palmant gyferbyn a capel Moreia y pentref – Clerc yn darllen yr (4) ohebiaeth sydd wedi ei dderbyn gan Cyngor Gwynedd yn cytuno fod rhan o’r palmant angen sylw a bydd y gweddill yn cael ei fonitro fel rhan o’r rhaglen.

1852 MATERION YN CODI O’R COFNODION (parhad) 1842 Trigolion Bronaber yn gofyn am gefnogaeth i wneud ymgyrch lleihau cyflymder (2) cerbydau trwy’r pentref – Cynghorwr Tom Ellis yn aros i gael cadarnhad ar y swyddog fydd yn gyfrifol am Asiantaeth Cefnffyrdd Cymru yn dilyn yr etholiad. Bydd posib ymgyrchu wedyn.

1842 Llwybr Cyhoeddus Tyddyn Du gyda llun ceffyl arno – Cadw hyd nes cael ateb. (3) 1844 Darn o’r wal derfyn Bryn y Gofeb sydd yn gwynebu fferm Brynysgyboriau wedi (1) dymchwel (oddeutu rhyw 3 neu 4 troedfedd) – Nid yw’r gwaith wedi ei gwblhau eto.

1840 Mr Glyn E Roberts (Clerc), Cyngor Tref Penrhyndeudraeth – Dim ateb/cynnig 1 dyddiad wedi ei dderbyn eto.

1847 Mr Ieuan Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Y Neuadd – Mae’r Swyddog Ariannol wedi (9) ymateb i’r cais gan ofyn am Fantolen Ariannol Blynyddol i gydfynd gyda’r cais.

1849 Twll yn y ffordd ar Stryd Maengwyn gyda ail dwll ger agoriad cefn Manchester (1) House – Dim ateb wedi ei dderbyn eto.

1849 Gwter rhwng Madoc House a Isfryn ar stryd Fronwnion – Clerc yn adrodd nad oes (3) ateb wedi ei dderbyn eto.

Tudalen 2

1852 MATERION YN CODI O’R COFNODION (parhad) 1849 Parcio yn achosi problem ger cornel ty Penrallt ar stryd Pencarreg – Clerc yn (4) adrodd nad oes ateb wedi ei dderbyn eto.

1849 Adwy llwybr cyhoeddus ger Bryn Madog – Clerc yn adrodd nad oes ateb wedi ei (5) dderbyn eto.

1849 Y ffordd rhwng Ty’n y Coed draw at Bryn Golau – Clerc yn adrodd ei bod wedi (6) danfon gohebiaeth i Mr Adrian Williams (Swyddog Cyngor Gwynedd) a Mrs Sian Griffiths (Rheolwr Prosiect Yr Ysgwrn). Dim ateb wedi ei dderbyn eto.

1849 Planhigion ar gyfer Gardd Salem – Nid yw’r Cynghorydd Enid Roberts yn bresennol (7) felly cadw ar y cofnodion er mwyn derbyn ei argymellion y tro nesaf.

1853 GOHEBIAETH 1 Ms Elliw Owen, Uwch Swyddog Cynllunio, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth – Ymgynghoriad Cyhoeddus ‘Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft (angen ateb erbyn 5yh 17-06-2016).

2 Mr Paul Egan, Dirprwy Brif Weithredwr, Un Llais Cymru – Panel Annibynnol Cymru ar Gydnab6yddiaeth.

3 Mr Caerwyn Roberts, Cadeirydd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – Gwahoddiad i Noson Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (Coed y Brenin, ).

4 Mr Sion Williams, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Cyngor Gwynedd – Cyfle i gynnig sylwadau ar ardaloedd cymunedol Gwynedd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Angen ateb erbyn y 1af o Fehefin. Clerc i adrodd fod pob dim yn dderbyniol.

1853 GOHEBIAETH (er gwybodaeth) 5 Ms Bethan M Owen, Uwch Reolwr Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd, Cyngor Gwynedd – Ateb parthed cerbyd wedi ei adael yn dilyn marwolaeth perchennog.

6 Mrs Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect Yr Ysgwrn – Gwahoddiad i ymweld a Yr Ysgwrn yn sgil gwaith Gwedd 2. Cynghorwyr Gerallt Rhun, Idwal Williams a Bryn Jones am fynychu.

7 Mr Paul Egan, Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau, Un Llais Cymru – Cais am wybodaeth cydnabyddiaeth ariannol ar lwfansau a threuliau a dalwyd i Gynghorwyr. Swyddog ariannol yn adrodd fod ateb dim wedi ei ddanfon.

8 Mr Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Rheoleiddio, Cyngor Gwynedd – Newid yn nhrefniant ad-daliad costau cynnal llwybrau cyhoeddus. Trawsfynydd i dderbyn 75% o’r taliad blaenorol yn y dyfodol sef £795.00.

9 Ms Bethan Wyn Hughes, Pennaeth Gweinyddol a Gofal Cwsmer, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – rhestr dyddiadau Prif Bwyllgorau yn ystod y flwyddyn ariannol yma.

10 Mr Matt Alpin, Swyddog Cyfathrebu a Pholisi, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – ‘Latest Edition of The Ombudsman’s Casebook’ ar gael ar y wefan – http://www.ombudsman- .org.uk/~/media/Files/OmbudsmanCasebook_cy/coflyfr%20Ombwdsmon%20- %20Rhifyn%2024%20Ebrill%202016.ash>

1853 GOHEBIAETH (ar y bwrdd) 11 Ms Wendi Huggett, Un Llais Cymru – rhestr hyfforddiant a chrynodeb.

12 Ms Dawn Michelle Sinclair – Rhybudd ffordd ar gae.

13 Mr Sion Huws, Uwch Gyfreithiwr Cyngor Gwynedd – Diwygiadau i’r Côd Ymddygiad Engreifftiol (rhannu gwybodaeth fod newidiadau wedi ei wneud i’r cod ymddygiad).

Tudalen 3

1853 GOHEBIAETH (ar y bwrdd) 14 Cylchlythyr Gwanwyn ‘Older People Wales’.

15 Energise Wales Network/Egnioli Rhwydwaith Cymru –Cwrs nweid Ymddygiad a Chyngor Cymeradwyo DPP am ddim ar gyfer 2016.

16 Mr Paul Egan, Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau, Un Llais Cymru – Hysbyseb ‘Local Consumer Advicate in Wales’. 17 YGC, Cyngor Gwynedd – Adroddiad Archwilio Llifogydd (Gellilydan).

18 Ms Sophie Howe, Future Generations Commissioner for Wales – Cyfarfodydd ‘Eich barn chi ar Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ (14 Mehefin 2016, Prifysgol Glyndwr, Wrecsam).

19 Mr Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru – Cynhadledd Cynghorau, Un Llais Cymru (06- 07-2016)

20 CLAS Cymru – Rhannu gwybodaeth parthed Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru yn cynnal digwyddiad 08-07-16 1.00 tan 4.00 yh yn Coed Hills, St Hillary, Vale of Glamorgan.

21 Cyngor Bryncrug yn hysbysebu am Glerc

22 Go Safe – Wales Road Casualty Reduction Partnership (hysbysebu ymgyrch lleihau troseddu trwy yrru mis Mai 2016).

23 Mr Paul Egan, Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau, Un Llais Cymru – rhannu gwybodaeth National Salary Award (SLCC).

24 Delivering Universal Credit – rhannu gwybodaeth cynhadledd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.

1854 ADRODDIAD ARIANNOL 1 Cynghorwyr yn derbyn yr adroddiad ariannol fel un cywir.

1855 MATERION AR Y PRYD 1 Pont Grible (ar ffordd Graig Ddu) – Tarmac wedi codi ar y bont. Clerc i rannu’r wybodaeth gyda Cyngor Gwynedd.

2 Llwybr o Tyddyn Felin at y bont gyntaf (ysbwriel wedi ei adnabod ar y llwybr) – Mae’r llwybr rhwng Y Goppa a Coed Cae Du. Clerc i ddanfon llythyr i Peter Rutherford, Swyddog Mynediad, Parc Cenedlaethol Eryri.

1856 MATERION AT Y TRO NESAF Dim

1857 CYFARFODYDD YN YSTOD Y MIS 1 Llywodraethwyr Ysgol Bro Hedd Wyn – Ffens ar gornel Y Cae Chwarae / terfynu gyda Brynysgyboriau angen sylw. Plant yn cael chwarae ar dir yr ysgol hyd at 8.30 yr hwyr.

2 Un Llais Cymru Heilyn Williams wedi ei ethol yn Gadeirydd Bryn Jones wedi ei ethol yn Is-gadeirydd Maniffesto yn bwriadu torri Cynghorau i lawr mewn niferoedd. Un Llais Cymru yn dymuno cadw niferoedd Cynghorwyr hyd yn oed os bydd torri ar y nifer Cynghorau eu hunan. Ymgyrch i ddenu Cynghorwyr newydd gan gynnwys pobl ifanc. Strategaeth trosglwyddo eiddo Cyngor Gwynedd i eraill e.e. toiledau. Archwiliad Ariannol – Lyn Cadwallader yn adrodd na fu cwmni o Gymru dendro am y gwaith.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF: Nos Fercher 6ed Gorffennaf 2016 am 7.00 yr hwyr.

Tudalen 4