Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 6 a 13 Mai 2004

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. [W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

2 Cwestiynau i’r Prif Weinidog

3 Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon

6 Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

20 Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

33 Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

40 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid

42 Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

64 Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

70 Cwestiynau i Bwyllgor y Tŷ

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Gwasanaeth Tân ac Achub

William Graham: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr ymgynghori a fu rhwng ei weinyddiaeth a naill ai cwmnïau yswiriant neu Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog ynghylch yswiriant bywyd i aelodau’r gwasanaeth tân ac achub pe digwyddai ymosodiad terfysgol? (WAQ34280)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Mae’r Mesur Gwasanaethau Tân ac Achub ar ei ffordd drwy’r Senedd a, hyd nes y bydd yn derbyn Cydsyniad y Frenhines, Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am y gwasanaeth yng Nghymru. Nid ydym felly wedi cael unrhyw drafodaethau ar y mater hwn.

Mae Swyddfa’r Cabinet, gan ymgynghori ag adrannau’r Llywodraeth sy’n gyfrifol am y gwasanaethau argyfwng i gyd, yn awr yn ystyried yswiriant personol. Ar hyn o bryd mae’n casglu tystiolaeth i sefydlu a oes problem yn bodoli a beth fyddai’r goblygiadau i’r gwasanaethau argyfwng, gan gynnwys y gwasanaeth tân ac achub.

Prif Lwyddiannau’r Llywodraeth

Nick Bourne: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu prif lwyddiannau ei Lywodraeth dros y 12 mis diwethaf? (WAQ34296)

Y Prif Weinidog: Mae’r rhestr sy’n dilyn, nad yw mewn unrhyw drefn benodol, yn rhoi detholiad o’r hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei gyflawni dros y 12 mis diwethaf: 1. Wedi sicrhau gostyngiad sylweddol iawn yn y niferoedd sy’n aros dros 18 mis am driniaeth fel cleifion mewnol yn ysbytai Cymru. 2. Wedi sicrhau dyfarniad perfformiad o £65 miliwn am ddefnyddio cronfeydd Ewropeaidd yn llwyddiannus ac wedi sicrhau ad-daliad o £35 miliwn o gymorth rhanbarthol dewisol a roddwyd gan y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol i LG Philips. 3. Wedi darparu £4.5 miliwn i ddatblygu cam 1 o ysbyty plant Cymru. 4. Wedi cyflwyno taliadau cymhorthdal ffermio’r UE ar amser, o flaen Lloegr a’r Alban, ac arwyddo cytundeb am system TG newydd Merlin, sy’n moderneiddio gweinyddiad Llywodraeth y Cynulliad a busnes deddfwriaethol. 5. Wedi sicrhau dyfodol sicr i Middleton—Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar gost fforddiadwy i drethdalwyr Cymru. 6. Wedi dilyn polisi’r Cynulliad ar gnydau a addaswyd yn enynnol yn gyson, at ddiweddglo llwyddiannus. 7. Wedi hwyluso’r uniad rhwng Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, gyda £15 miliwn o’r gronfa ailgyflunio addysg uwch. 8. Wedi dyblu’r cyllid ar gyfer rhaglenni cyffuriau ac alcohol yng Nghymru ac wedi trin 1,000 yn fwy o bobl. 9. Wedi darparu cyllid i ragbrofi darparu brecwast am ddim mewn ysgolion a chyflwyno’r toriad cyntaf mewn taliadau presgripsiwn yng Nghymru. 10. Wedi llwyddo i sicrhau dyfarnu masnachfraint 15 mlynedd ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. 11. Wedi sicrhau pleidlais o 83 y cant o blaid cytundeb newydd i ymgynghorwyr yng Nghymru ac wedi gweithredu’r cytundeb newydd i feddygon teulu yn llwyddiannus. 12. Wedi negodi’r pecyn mwyaf o ddatganoli pellach ers sefydlu’r Cynulliad, gyda throsglwyddo cyfrifoldeb am y gwasanaethau tân ac achub, cefnogaeth i fyfyrwyr, y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd a chydlynu gwasanaethau argyfwng. Wedi derbyn adroddiad terfynol comisiwn Richard. 13. Wedi gweld y fagloriaeth Gymreig yn dechrau gweithredu, gyda’i mintai gyntaf yn dechrau astudio ym mis Medi 2003.

2 14. Wedi estyn llwyddiant digyffelyb yr economi Gymreig, gyda chwymp pellach mewn diweithdra i lefel a welwyd ddiwethaf ym mis Mawrth 1975. Wedi cynyddu cyflogaeth yng Nghymru o 22,000 yn ystod y 12 mis diwethaf. 15. Wedi gweithredu cynllun nofio am ddim i blant ysgol yn llwyddiannus, gyda chynnydd o 107 y cant yn y plant a fu’n nofio yn ystod y gwyliau haf diwethaf.

Ymgynghoriad a Gynhaliwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Nick Bourne: A wnaiff y Prif Weinidog restru pob ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ers 1999, a nodi cost yr ymgynghoriadau hynny? (WAQ34569)

Y Prif Weinidog: Ni ellir darparu’r wybodaeth hon heb fynd i gostau afresymol.

Pensiynau Allied Steel and Wire

Nick Bourne: Pryd y cyfarfu’r Prif Weinidog ddiwethaf â Gweinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau i drafod mater pensiynau Allied Steel and Wire? (WAQ34574)

Y Prif Weinidog: Codais y mater hwn mewn cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Andrew Smith AS, ar 6 Mai eleni.

Cynulliadau Rhanbarthol yn Lloegr

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael â chydweithwyr yn San Steffan ynghylch sefydlu cynulliadau rhanbarthol yn Lloegr er mwyn rhannu profiadau yn sgîl sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru? (WAQ34575)

Y Prif Weinidog: Yr wyf fi a’m cydweithwyr wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau perthnasol ledled rhanbarthau Lloegr i rannu’r profiad o sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae fy swyddogion hefyd wedi bod yn ymwneud â chyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd â swyddogion Whitehall.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon

Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Elin Jones: Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i alluogi’r amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol symud eu trysorau o’u stordai i gael eu dangos ledled Cymru? (WAQ34751) [W]

Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (Alun Pugh): Mae’r amgueddfa genedlaethol yn cynnig cynllun benthyca llwyddiannus iawn. Ym mis Medi 2003, yr oedd 3,214 o eitemau ar fenthyg i 120 sefydliad yng Nghymru, 9,268 o wrthrychau ar fenthyg i 89 lleoliad arall yn y DU, a 13,239 o eitemau ar fenthyg yn rhyngwladol.

Un o’r dewisiadau yn nogfen ymgynghori’r Amgueddfa Genedlaethol ‘Golygon y Dyfodol’ yw creu rhwydwaith cenedlaethol o leoliadau ar draws Cymru a fyddai’n cyfnewid ac yn arddangos gwaith celf. Mae’r amgueddfa genedlaethol wrthi’n trafod hyn gydag orielau ledled Cymru a allai fod yn bartneriaid.

Mae’r amgueddfa genedlaethol wrthi’n trafod â charfanau perthnasol y posibilrwydd o agor oriel yn Nhyddewi i arddangos casgliad Graham Sutherland sydd ar hyn o bryd yng ngofal yr amgueddfa.

Yn ogystal, mae’r cynllun ‘Cyfoeth Cymru Gyfan—Sharing Treasures’, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn hwyluso gwaith gwella mewn amgueddfeydd lleol i’w galluogi i arddangos eitemau o gasgliadau cenedlaethol. Cynhaliwyd arddangosfeydd llwyddiannus eisoes mewn tri lleoliad prawf, Oriel Ynys Môn, Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. Yr wyf wedi cyhoeddi

3 y bydd dau leoliad arall yn cael eu hychwanegu at y cynllun, sef Amgueddfa Pont-y-pŵl ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

Llong Henry Morgan

Owen John Thomas: A wnaiff y Gweinidog ddarganfod ymarferoldeb symud llong Henry Morgan, The Oxford, o Haiti i Gymru? (WAQ34754) [W]

Alun Pugh: Nid wyf wedi derbyn unrhyw sylwadau o sefydliadau yng Nghymru ynghylch y mater hwn.

Gofynion UEFA

Ann Jones: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru ynghylch gofynion UEFA ar gyfer clybiau sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau Ewropeaidd? (WAQ34759)

Alun Pugh: Byddaf yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Gynghrair Cymru cyn hir i drafod ystod o faterion a bydd pwnc gofynion UEFA ar gyfer clybiau o Gymru sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau Ewropeaidd yn siŵr o gael ei gynnwys yn y cyfarfod.

Gemau Terfynol Cwpan Ewrop yn 2004

David Lloyd: Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud i UEFA i hyrwyddo achos Cymru dros ddisodli Rwsia yng ngemau terfynol cwpan Ewrop yn 2004? (WAQ34765)

Alun Pugh: Nid wyf wedi derbyn cais gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru, y corff sy’n rheoli pêl-droed yng Nghymru, i gyflwyno unrhyw sylwadau i UEFA yn ymwneud â’i gais i ddisodli Rwsia yng ngemau terfynol cwpan Ewrop 2004.

Yr wyf yn deall bod achos Cymru i ymddangos o flaen y Llys Cymodi Chwaraeon cyn hir.

Cymorthdaliadau (Strategaeth Ddiwylliannol)

Lisa Francis: Pa fecanwaith (boed ffurfiol neu anffurfiol) sydd wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a wneir gan y Gweinidog mewn perthynas â chynnig cymorthdaliadau yn cael eu gwneud yng nghyd-destun ac o fewn strategaeth ddiwylliannol ehangach Cyngor Celfyddydau Cymru? (WAQ34830)

Alun Pugh: Caiff yr holl benderfyniadau ar ariannu’r celfyddydau yng Nghymru gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Celfyddydau Cymru eu gwneud gan gyfeirio at y fframwaith polisi a nodwyd yn nogfen strategol Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwylliant, ‘Cymru Greadigol: Creative Future’.

Cynllun i Ddosbarthu Celfyddydau y tu allan i Gaerdydd

Lisa Francis: A gaiff y canllawiau atodol o ran y gronfa i ddosbarthu celfyddydau y tu allan i Gaerdydd eu cyhoeddi yn flynyddol, neu a ddisgwylir i ddogfen ymgynghori Cyngor Celfyddydau Cymru ar y mater fod yn weithredol drwy gydol oes y cynllun? (WAQ34831)

Lisa Francis: Pa asesiadau a wnaed o effaith cyhoeddi canllawiau atodol blynyddol o ran cronfa i ddosbarthu celfyddydau y tu allan i Gaerdydd ar allu Cyngor Celfyddydau Cymru i gynllunio’n strategol ar gyfer y sector berfformio yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod? (WAQ34832)

Alun Pugh: Yr oeddwn yn glir yn fy natganiad i’r Sesiwn Llawn ar 1 Hydref 2003 ynglŷn â’m blaenoriaethau ar gyfer y cynllun i ddosbarthu celfyddydau y tu allan i Gaerdydd. Yr wyf wedi gweithio’n

4 agos gyda chyngor y celfyddydau ar roi’r cynllun ar waith a byddaf yn cytuno â’r cyngor ynglŷn â’r gweithdrefnau gweithredu yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Cymorth Grant i Clwyd Theatr Cymru

Lisa Francis: A gafodd Cyngor Celfyddydau Cymru wybod am y bwriad i roi cymorth grant i Clwyd Theatr Cymru cyn cyhoeddiad y Gweinidog ac a gafodd gyfle i gynnig sylwadau? (WAQ34833)

Alun Pugh: Do.

Cymorth Grant i Clwyd Theatr Cymru (Monitro)

Lisa Francis: A fydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwneud ei waith monitro ac adrodd arferol ar Clwyd Theatr Cymru mewn perthynas â’r £100,000, neu ai ysgrifenyddiaeth y Gweinidog a fydd yn cyflawni’r swyddogaeth honno? (WAQ34834)

Lisa Francis: Pa swyddogaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhagweld ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru o ran gwerthuso’r prosiect wedi ei gwblhau, ynteu ai Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn penderfynu ar hynny? (WAQ34835)

Alun Pugh: Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru’n gweinyddu’r grant ar fy rhan ac yn ymgymryd â’r monitro ac adrodd yn ôl. Bydd yn rhaid i Clwyd Theatr Cymru gyflwyno adroddiadau interim a therfynol i gyngor y celfyddydau i ddangos i ba raddau y mae’r amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect yn cael ac wedi cael eu cyflawni.

Clwyd Theatr Cymru (Cynyrchiadau a’r Daith)

Lisa Francis: A dderbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru fanylion y cynyrchiadau a’r daith y mae Clwyd Theatr Cymru yn bwriadu eu cyflwyno i gymunedau difreintiedig dethol yng Nghymru? (WAQ34836)

Lisa Francis: I ba gymunedau difreintiedig y mae Clwyd Theatr Cymru yn bwriadu cyflwyno’i chynyrchiadau a’i thaith? (WAQ34837)

Alun Pugh: Mae rheolwyr Clwyd Theatr Cymru yn trafod gyda lleoliadau posibl a bydd yn cadarnhau manylion y daith a’r cynyrchiadau cyn hir.

Cymorth Grant i Clwyd Theatr Cymru (Ymrwymiadau i’r Dyfodol)

Lisa Francis: I ba raddau y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gofyn am sicrwydd ac wedi derbyn sicrwydd nad yw’r dyfarniad i Clwyd Theatr Cymru yn clymu Cyngor Celfyddydau Cymru i ymrwymo i roi mwy o gyllid i’r fenter yn ystod blynyddoedd dilynol y cynllun? (WAQ34838)

Alun Pugh: Mae’r grant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2004-05 yn unig. Mae amodau’r grant yn ei gwneud yn glir na ddylid ystyried bod y dyfarniad yn golygu unrhyw warant y caiff grant ei ddyfarnu mewn blynyddoedd i ddod.

Cynllun i Ddosbarthu Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd (Theatr Symudol)

Lisa Francis: O ba elfen o’r cynllun i ddosbarthu celfyddydau y tu allan i Gaerdydd y dyfarnwyd £1,000 i’w ddyrannu i gynllun Clwyd Theatr Cymru ar gyfer theatr symudol? (WAQ34839)

Lisa Francis: A gaiff y £1,000 a ddyfarnwyd i theatr symudol Clwyd Theatr Cymru ei dynnu o’r canran o’r gronfa a glustnodwyd ar gyfer cynyrchiadau neu o’r swm sylweddol uwch a glustnodwyd ar gyfer theatrau? (WAQ34840)

5

Alun Pugh: Mae’r grant o £100,000 i’r theatr symudol yn cyd-fynd â’r elfen honno o’r fenter i ddosbarthu celfyddydau y tu allan i Gaerdydd sy’n ceisio mynd â chynyrchiadau a pherfformiadau bach i leoliadau llai a lleoliadau nad ydynt yn rhai traddodiadol megis canolfannau cymunedol.

Clybiau Hoci

Lorraine Barrett: Pa gefnogaeth ariannol sydd i’w chael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo clybiau hoci â’r gost o ddarparu caeau chwarae astroturf? (WAQ35041)

Alun Pugh: Mae Cyngor Chwaraeon Cymru, gydag arian Sportlot, yn ariannu cae hoci astroturf newydd sydd wedi’i seilio ar ddŵr yn Abertawe, a fydd yn agor fis Gorffennaf eleni. Mae hefyd wedi rhoi cefnogaeth loteri mewn egwyddor i gyfleuster tebyg yn Wrecsam. Mae’r cyngor chwaraeon hyd yn hyn wedi ariannu cyfanswm o 27 o gaeau chwarae astroturf ledled Cymru.

Yn ychwanegol at hynny, yr wyf yn deall bod y gronfa cyfleoedd newydd yn bwriadu ariannu 33 o gaeau chwarae astroturf ychwanegol, gyda 13 ohonynt yn rhai maint llawn. Bydd hyn yn dod â chyfanswm nifer y caeau chwarae o’r fath yng Nghymru i 110.

Cynllun Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wariant ar y celfyddydau y tu allan i Gaerdydd? (WAQ35069)

Alun Pugh: Trefnwyd bod £250,000 ar gael ar gyfer cynllun y celfyddydau y tu allan i Gaerdydd yn ystod 2004-05, gyda £100,000 o’r arian hwnnw wedi ei ddyrannu i theatr symudol Clwyd Theatr Cymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gweithio’n agos â sefydliadau eraill a allai dderbyn grant i sicrhau llwyddiant y rhaglen.

Canolfannau Rhagoriaeth y tu allan i Gaerdydd

Nick Bourne: A oes polisi o ganolbwyntio adnoddau ar ganolfannau rhagoriaeth y tu allan i Gaerdydd wrth ariannu’r celfyddydau yng ngweddill Cymru? (WAQ35073)

Alun Pugh: Prif amcan y rhaglen celfyddydau y tu allan i Gaerdydd yw sicrhau y bydd gwaith o ragoriaeth ar gael i bobl ledled Cymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

Sefydliad Template (Capel Dewi)

Michael German: A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth ychwanegol y dylai pwyllgor menter adfywio cymunedol Capel Dewi fod wedi’i hystyried cyn derbyn cais Sefydliad Template am arian? (WAQ34189)

Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth (Andrew Davies): Ni dderbyniodd prosiect Sefydliad Template unrhyw gyllid gan bwyllgor menter adfywio cymunedol Capel Dewi.

Sefydliad Template (Capel Dewi)

Michael German: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar broses pwyllgor menter adfywio cymunedol Capel Dewi ar gyfer derbyn cais Sefydliad Template am arian Amcan Un? (WAQ34190)

6 Andrew Davies: Cynhaliodd menter adfywio cymunedol Capel Dewi arolwg o anghenion y gymuned leol yng Nghapel Dewi. Mae prosiect Waunifor yn cyfrannu at gwrdd â rhai o’r anghenion a nodwyd yn yr arolwg.

Cais Sefydliad Template am Arian Amcan Un

Michael German: Pa sylwadau a gyflwynwyd i’r Gweinidog ynghylch cais Sefydliad Template am arian Amcan Un? (WAQ34194)

Andrew Davies: Ni dderbyniais unrhyw sylwadau ynglŷn â chais Sefydliad Template am arian Amcan Un. Ers hynny, yr wyf wedi derbyn tair eitem o ohebiaeth ynglŷn â’r prosiect a gymeradwywyd ar ran Sefydliad Template.

Cais Sefydliad Template am Arian Amcan Un

Michael German: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gais Sefydliad Template am arian Amcan Un? (WAQ34195)

Andrew Davies: Yr oedd gwiriadau cymhwyster helaeth yn rhan o broses werthuso a chymeradwyo Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru. Cefnogwyd y prosiect gan Gyngor Sir Ceredigion, partneriaeth Amcan Un Ceredigion a’r gymuned leol. Bydd y cyfleusterau newydd ar safle’r sefydliad yn Waunifor ar gael i’w defnyddio gan y gymuned leol a byddant yn annog twristiaeth a diwydiannau crefft yn lleol.

Arian Amcan Un yng Nghapel Dewi, Ceredigion

Michael German: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar arian Amcan Un yng Nghapel Dewi, Ceredigion? (WAQ34196)

Andrew Davies: Lleolir pentref Capel Dewi yn ward blaenoriaeth 3 Capel Dewi, Ceredigion. Ar hyn o bryd, lleolir dau brosiect Amcan Un wedi’u cymeradwyo yng Nghapel Dewi–Waunifor a Thelynau Teifi.

Ynni Gwynt (Adroddiad Bwrdd Croeso Cymru)

Lisa Francis: A fydd y cyhoedd yn cael gweld yr ymchwil a ddefnyddiwyd yn dystiolaeth ar gyfer adroddiad Bwrdd Croeso Cymru ar ynni gwynt yng Nghymru? (WAQ34200)

Andrew Davies: Mae adroddiad cryno Bwrdd Croeso Cymru ar effaith ffermydd gwynt ar dwristiaeth ar gael am ddim i’r cyhoedd; gellir gwneud cais amdano drwy wefan y bwrdd croeso, sef http://wtbonline.gov.uk.

Mae’r adroddiad llawn, sy’n cynnwys ymchwil yr ymgynghorwyr, NFO WorldGroup, ar gael oddi wrth y bwrdd croeso.

Cyfleoedd o Ran Swyddi a Lefelau Cyflogaeth

Val Lloyd: Pa bolisïau y mae’r Cynulliad wedi’u datblygu a’u rhoi ar waith i hybu cyfleoedd o ran swyddi a lefelau cyflogaeth? (WAQ34209)

Andrew Davies: Mae ‘Cymru’n Ennill’, strategaeth datblygu economaidd genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn dangos yr angen i helpu rhagor o bobl i swyddi i godi lefelau gweithgaredd economaidd. Mae Tîm Cymru yn rhoi cynllun gweithredu’r strategaeth ar waith er mwyn cynorthwyo i wireddu gweledigaeth Llywodraeth y Cynulliad o economi Gymreig ffyniannus sy’n ddeinamig, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy, ac wedi’i seilio ar fusnesau llwyddiannus, blaengar gyda phobl fedrus a brwdfrydig.

7 Mae Canolfan Byd Gwaith yn gwneud llawer i helpu pobl i swyddi ac yr ydym yn gweithio gyda’r ganolan ac eraill i gael gwared â rhwystrau i gymryd rhan yn yr economi.

Rhwng 1999 a 2003, mae lefelau cyflogaeth ledled Cymru wedi codi 96,000, neu 7.9 y cant.

Bwrdd Croeso Cymru (Newidiadau Mewnol)

Lisa Francis: Beth fydd cost y newidiadau mewnol newydd i Fwrdd Croeso Cymru (symud cysylltiadau corfforaethol i gyfarwyddiaeth strategaeth a chyfathrebu newydd)? (WAQ34218)

Andrew Davies: Mae Bwrdd Croeso Cymru yn dweud wrthyf bod y newidiadau mewnol wedi digwydd heb unrhyw gostau ychwanegol.

Cynllun Graddio i Fusnesau Twristiaeth

Lisa Francis: Faint o fusnesau twristiaeth yng Nghymru sydd eisoes yn rhan o gynllun graddio? (WAQ34219)

Andrew Davies: Ni chedwir gwybodaeth ganolog am yr holl gynlluniau graddio twristiaeth a weithredir yng Nghymru. Mae Bwrdd Croeso Cymru’n rhedeg nifer o gynlluniau sicrhau ansawdd ar gyfer gwahanol sectorau’r diwydiant twristiaeth. Ceir manylion yr aelodaeth bresennol yn y tabl isod.

Sector Nifer yng nghynllun Sicrhau Ansawdd Bwrdd Croeso Cymru Llety gyda gwasanaeth 2,007 Hunanarlwyo 1,268 Asiantaethau hunanarlwyo 2,263 Carafanio a gwersylla 322 Hosteli 130 Atyniadau 80 Gweithgareddau 58

Cyllideb ‘VisitWales’

Lisa Francis: A fydd cynnydd eleni yng nghyllideb ‘VisitWales’? (WAQ34220)

Andrew Davies: Mae Bwrdd Croeso Cymru yn fy hysbysu bod cyllideb ‘VisitWales’ ar gyfer 2004-05 yn debygol o fod tua £772,000, fwy neu lai yr un fath â’r llynedd.

Buddiannau Awdurdod Datblygu Cymru o ran Eiddo, Safle neu Dir

Alun Cairns: Yn sgîl WAQ33903, a wnaiff y Gweinidog restru gwerth pob eiddo, safle neu dir unigol ar y farchnad? (WAQ34291)

Andrew Davies: Ni fyddai’n briodol darparu rhestr lawn o werth pob eiddo, safle neu dir unigol ar y farchnad, gan fod y wybodaeth mewn rhai achosion yn fasnachol gyfrinachol. Gellir ceisio gwybodaeth am safleoedd penodol gan Awdurdod Datblygu Cymru, a fydd yn ystyried pob cais yn unigol.

Mae’r asedau’n cael eu prisio ar hyn o bryd ar gyfer adroddiad ariannol a chyfrifon blynyddol y WDA ar gyfer 2003-04, a chaiff y cyfanswm ei gynnwys fel un swm mewn nodyn yn y cyfrifon.

8 Canolfan Mileniwm Cymru a Bae Caerdydd (Trefniadau Cludiant)

Owen John Thomas: Pa ddatblygiadau a fu yn sgîl yr ymdrechion i wella’r trefniadau cludiant i Ganolfan Mileniwm Cymru a bae Caerdydd yn gyffredinol? (WAQ34294)

Andrew Davies: Yr wyf yn darparu rhyw £100,000 yn 2004-05, fel y llynedd, tuag at wasanaeth bws newydd y Bay Express, sy’n rhedeg saith diwrnod yr wythnos rhwng yr orsaf fysiau ganolog a bae Caerdydd. Lansiwyd y gwasanaeth hwn ym mis Mawrth 2003 fel menter ar y cyd gyda Chyngor Sir Caerdydd a Siambr Fasnach Caerdydd. Mae’r gwasanaeth wedi cludo tua 3,000 o deithwyr yr wythnos. Yn ogystal, mae gwasanaeth trên rheolaidd i’r bae o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae cyngor Caerdydd yn disgwyl cais cynllunio diwygiedig ar gyfer maes parcio aml lawr mawr yn agos i ganolfan y mileniwm a bydd yn gweithio gyda’i bartneriaid i sicrhau bod digon o leoedd parcio ar gael yn y bae i gwrdd ag anghenion defnyddwyr canolfan y mileniwm yn ystod y cyfnod nes y bydd y maes parcio aml lawr wedi ei gwblhau. Yn ogystal, mae cyngor Caerdydd yn cynllunio bae parcio newydd yn Pierhead Street ar gyfer hyd at chwe bws. Ceir ymgynghoriad cyhoeddus cyn hir. Yn ogystal, yr wyf wedi cynnal trafodaethau gydag Alun Pugh, y Gweinidog dros y Celfyddydau, y Gymraeg a Chwaraeon, ynglŷn ag anghenion cludiant penodol defnyddwyr canolfan y mileniwm.

Cyfleoedd Gwaith a Lefelau Cyflogaeth yn Nwyrain Abertawe

Val Lloyd: Pa bolisïau y mae’r Cynulliad wedi’u llunio a’u rhoi ar waith er mwyn cynyddu nifer y cyfleoedd gwaith a’r lefelau cyflogaeth yn Nwyrain Abertawe? (WAQ34538)

Andrew Davies: Mae ‘Cymru’n Ennill’ yn dangos yr angen i helpu rhagor o bobl i swyddi i godi lefelau gweithgaredd economaidd. Mae Tîm Cymru yn rhoi cynllun gweithredu’r strategaeth ar waith er mwyn cynorthwyo i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o economi Gymreig ffyniannus sy’n ddeinamig, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy, ac wedi’i seilio ar fusnesau llwyddiannus, blaengar gyda phobl fedrus a brwdfrydig.

Yn benodol, mae Awdurdod Datblygu Cymru, gyda chefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth y Cynulliad, yn ymgymryd â phrosiect adfywio dinesig gwerth £200 miliwn yng nglan y dŵr SA1 Abertawe. Mae’r datblygiad defnydd cymysg hwn ar 100 erw o dir llwyd yn cynnwys canolfannau technium 1 a 2 a datblygiad preswyl a hamdden, a bydd yn darparu at ddefnydd adwerthol, masnachol a sefydliadol lleol ac arbenigol. Mae gan y datblygiad, sydd eisoes wedi creu swyddi newydd, er enghraifft yn y canolfannau technium a chyda Morgan Cole Solicitors, y potensial o greu hyd at 2,000 o gyfleoedd gwaith newydd yn yr ardal.

Seilwaith Beicio ar Gefnffyrdd ym Mhowys

Kirsty Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am astudiaethau dichonoldeb i wella’r seilwaith beicio ar gefnffyrdd ym Mhowys? (WAQ34602)

Andrew Davies: Mae gan y Cynulliad gyllideb benodol ar gyfer darparu cyfleusterau beicio ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae swyddogion y cynulliad yn trafod cynigion y flwyddyn ganlynol gyda Sustrans ac yn llunio rhaglen waith. Bydd pob cynllun, yn anochel, yn cynnwys elfen ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb, a fydd yn cael ei chynnwys yng nghostau terfynol y cynllun. Mae’r tabl isod yn dangos y cynlluniau yr ymgymerwyd â hwy er 2000, gan gynnwys y cynllun sydd yn y cam dichonoldeb ar hyn o bryd.

Darpariaeth Feicio—Canolbarth Cymru Blwyddyn Disgrifiad Cost Sylwadau 2004-05 A489 Machynlleth i Benegoes 10,000 Astudiaeth ddichonoldeb

9 2004-05 A487 Machynlleth i Dderwenlas 221,000 Cynllun 2003-04 A487 Machynlleth i Dderwenlas 5,000 Dichonoldeb a dylunio 2004-05 A470 Cwmbelan i Lanidloes 120,000 Cynllun 2003-04 A470 Cwmbelan i Lanidloes 25,000 Dylunio 2002-03 A470 Cwmbelan i Lanidloes 5,000 Dichonoldeb 2003-04 A483 Llanwrtyd—Melin Cambrian 53,000 Cynllun 2002-03 A483 Llanwrtyd—Melin Cambrian 40,000 Cynllun a dylunio 2002-03 A487 Machynlleth (trac a rheiliau) 60,000 Cynllun 2001-02 A487 Machynlleth (bwa rheilffordd) 5,375 Astudiaeth 2001-02 A483 Hawau i Crossgates 57,000 Cynllun 2001-02 A483 Y Drenwydd Ffordd Dolfor 24,000 Cynllun 2000-01 A487 Pont Mileniwm Dyfi Machynlleth 100,000 Cyfraniad 2000-01 Cynlluniau cyswllt â chefnffyrdd 85,000 Cynllun 2000-01 Adeiladu rhwydwaith beicio cenedlaethol 68,000 Cynllun

8 cynllun a chyfraniad tuag at bont y mileniwm 878,375

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (Ffordd Fynediad Newydd)

Nick Bourne: Pa gynnydd a wnaed o ran adeiladu ffordd fynediad newydd o’r M4 i faes awyr rhyngwladol Caerdydd? (WAQ34642)

Andrew Davies: Dim ond newydd ddechrau y mae’r gwaith o ystyried ateb tymor hir ar gyfer ffordd o’r M4 i faes awyr rhyngwladol Caerdydd. Ni wnaed unrhyw benderfyniad eto ynglŷn â’r ateb gorau.

Yr wyf yn ddiweddar wedi cytuno i wneud y ffordd o Groes Cwrlwys i faes awyr rhyngwladol Caerdydd yn gefnffordd a bydd hynny, yn amodol ar weithdrefnau statudol, yn dod â’r ffordd hon o fewn cylch gwaith Llywodraeth y Cynulliad. Dyma’r cam cyntaf yn ein strategaeth i wella’r ffyrdd i faes awyr rhyngwladol Caerdydd.

Codi Tâl yn y Ddinas i Leihau Tagfeydd

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag arweinydd Cyngor Sir Caerdydd am y posibilrwydd o godi tâl yn y ddinas i leihau tagfeydd? (WAQ34683)

Andrew Davies: Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag arweinydd Cyngor Sir Caerdydd ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl i leihau tagfeydd yn y brifddinas. Er hynny, yr wyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda’r Cynghorydd Michael Michael, yr aelod o’r cabinet sydd â chyfrifoldeb dros fenter a chludiant, i drafod materion cludiant yng Nghaerdydd.

Hyrwyddo Cymru fel Cyrchfan i Dwristiaid

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Bwrdd Croeso Cymru am hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid ymhlith ymwelwyr tramor yn Llundain? (WAQ34684)

Andrew Davies: Yr wyf yn cyfarfod yn rheolaidd â chadeirydd Bwrdd Croeso Cymru, sy’n aelod yn rhinwedd ei swydd o VisitBritain. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, yr ydym yn trafod ystod o faterion yn ymwneud â thwristiaeth, gan gynnwys y modd y mae’r bwrdd croeso’n defnyddio’i bwerau marchnata

10 dramor a’i gyllid i adeiladu ar weithgareddau ehangach VisitBritain i farchnata’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys annog ymwelwyr tramor i deithio o Lundain i Gymru.

Mae’r bwrdd croeso, fel rhan o’i ymgyrch farchnata ‘Go Do Wales’, yn targedu ymwelwyr o dramor sydd eisoes yn byw, yn gweithio neu’n ymweld â Llundain. Mae’r elfen hon o’r ymgyrch yn targedu teithwyr annibynnol ac yn canolbwyntio ar eu perswadio i fwrw tua’r gorllewin i grwydro Cymru, i adael y ddinas a darganfod rhywbeth hollol wahanol. Gwneir hyn drwy gyfrwng hysbysebion yn TNT Magazine, deunydd hyrwyddo gyda Rough Guide a thrwy gyfrwng gwefan http://www.godowales.com/.

Mae’r bwrdd croeso hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â chadeirydd VisitLondon i drafod gweithgaredd posibl ar y cyd a ffyrdd lle y gall VisitLondon gyflawni ei ddyletswydd statudol i weithredu fel porth i weddill y DU, gan gynnwys Cymru. Bydd prif weithredwr y bwrdd croeso’n mynychu uwchgyfarfod holl benaethiaid byrddau twristiaeth y DU ac asiantaethau datblygu rhanbarthol Lloegr yn Llundain ar 6 Mai i drafod rôl Llundain fel porth i weddill Prydain.

Western Mail and Echo Cyf (Swyddi a Gollwyd yn Ddiweddar)

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau am y swyddi a gollwyd yn Western Mail and Echo Cyf yn ddiweddar? (WAQ34685)

Andrew Davies: Yr wyf yn cynnal trafodaethau’n aml gyda chwmnïau a swyddogion pan gyhoeddir bod swyddi i’w colli, er nad wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau’n ymwneud â’r colledion a gyhoeddwyd gan Western Mail and Echo Cyf.

Lledu’r M4 i’r Gogledd o Gaerdydd

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau i ledu’r M4 i’r gogledd o Gaerdydd? (WAQ34686)

Andrew Davies: Mae lledu’r M4 o ddwy lôn i dair lôn rhwng Cas-bach a Coryton wedi ei gynnwys ym mlaenraglen cefnffyrdd Llywodraeth y Cynulliad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2002.

Mae’r cynllun i’w ddatblygu dan gontract dylunio ac adeiladu, sy’n gofyn i’r contractwr llwyddiannus lunio’r dyluniad cychwynnol a phenderfynu pa bwerau sydd eu hangen i symud y cynllun yn ei flaen.

Yr ydym yn disgwyl gallu apwyntio contractwr yn ddiweddarach eleni, gyda’r bwriad o ddechrau adeiladu ym mis Mawrth 2008.

Ffordd Gyswllt Dwyrain Bae Caerdydd

Nick Bourne: Pa bryd y caiff ffordd gyswllt dwyrain bae Caerdydd ei chreu? (WAQ34687)

Nick Bourne: Pa asesiad sydd wedi’i wneud o effaith economaidd ffordd gyswllt dwyrain bae Caerdydd? (WAQ34688)

Andrew Davies: Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cyngor Sir Caerdydd ar hyn o bryd yn datblygu partneriaeth gludiant cyhoeddus-preifat i fwrw ymlaen â ffordd gyswllt arfaethedig dwyrain y bae a chynlluniau eraill ar seilwaith cludiant. Bydd y bartneriaeth yn ystyried effaith economaidd ffordd gyswllt arfaethedig dwyrain y bae ac yn ystyried cynigion ar gyfer y cynllun.

Cysylltiadau Ffyrdd rhwng y Gogledd a’r De

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei gynlluniau i wella’r cysylltiadau ffyrdd rhwng y Gogledd a’r De? (WAQ34689)

11 Andrew Davies: Disgwylir i’r gwaith adeiladu ar y cynllun i wella’r A470 rhwng Dolwyddelan a Phont yr Afanc yn nyffryn Lledr gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.

Mae’r flaenraglen gefnffyrdd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2002, yn cynnwys nifer o gynlluniau a ddyluniwyd i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de. Mae 12 cynllun wedi eu rhaglennu ar gyfer y coridor o’r Gogledd i’r De, a disgwylir i’r gwaith arnynt ddechrau erbyn mis Mawrth 2008, yn amodol ar brosesau statudol a bod cyllid ar gael.

Yr wyf ar hyn o bryd yn gwneud arolwg o’n blaenoriaethau a’n rhaglenni cludiant i sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn llawn â ‘Cymru: Gwlad Well’ a chynllun gofodol Cymru, sy’n cael ei ddatblygu.

Twristiaeth sy’n Gysylltiedig â Golff

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i hyrwyddo Cymru fel canolfan ar gyfer twristiaeth sy’n gysylltiedig â golff? (WAQ34690)

Andrew Davies: Mae strategaeth twristiaeth sy’n gysylltiedig â golff Bwrdd Croeso Cymru’n anelu at gynyddu cyfran Cymru o farchnad twristiaeth sy’n gysylltiedig â golff ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi arian ychwanegol i gefnogi hynny.

Mae rhoi’r strategaeth ar waith yn helpu clybiau golff, a’r diwydiant teithio ehangach, i baratoi ar gyfer y niferoedd uwch o ymwelwyr a ddisgwylir fel canlyniad uniongyrchol i, ac yn y blynyddoedd sy’n arwain at, gynnal y Cwpan Ryder yng Nghymru yn 2010. Drwy gynllun integredig i farchnata golff, mae’r bwrdd croeso hefyd yn chwarae rhan flaenllaw yn Ryder Cup Cyf–corff a sefydlwyd i wneud y gorau o’r manteision o gynnal Cwpan Ryder yn 2010.

Mae’r bwrdd croeso hefyd wedi lansio ymgyrch farchnata, ‘Wales–golf as it should be’, sy’n hyrwyddo Cymru fel man sy’n cynnig cyfleoedd i chwarae golff fel y dylid ei chwarae: mynediad hawdd i gyrsiau, heb fod yn ddrud, ac yn fwy anffurfiol nag mewn rhai o’r cyrchfannau golff mwy traddodiadol. Caiff yr ymgyrch ei hyrwyddo mewn digwyddiadau golff ac yn arddangosfeydd y diwydiant golff ledled y byd.

Cwpan Ryder 2010 (Anghenion Trafnidiaeth)

Nick Bourne: Pa ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fynd i’r afael ag anghenion trafnidiaeth Cwpan Ryder 2010? (WAQ34691)

Andrew Davies: Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Newport Unlimited yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i baratoi strategaeth ar gyfer digwyddiadau mawr fel rhan o waith parhaus ar y system drafnidiaeth i’r ddinas gyfan. Rhan fawr o’r strategaeth hon yw cynllun logisteg a seilwaith ar gyfer y Cwpan Ryder yn 2010.

Cysylltiadau Trafnidiaeth i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi gwneud asesiad o’r effaith economaidd o wella’r cysylltiadau trafnidiaeth i faes awyr rhyngwladol Caerdydd ac yn ôl? (WAQ34693)

Andrew Davies: Yr oedd effaith economaidd gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth i faes awyr rhyngwladol Caerdydd ac oddi yno yn rhan o gylch gwaith y grŵp astudio a sefydlwyd yn 2001 gan y Gweinidogion dros ddatblygu economaidd a’r amgylchedd ar y pryd. Gofynnwyd i’r grŵp wneud argymhellion ar gyfer lluosi effaith economaidd y maes awyr ar ardal de Cymru, yn ogystal ag archwilio’r angen i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth. Cynhyrchodd y grŵp ei adroddiad terfynol yn 2003, ac mae grŵp rhanddeiliaid parhaol yn cael ei sefydlu i barhau â’r gwaith.

12 Arriva Trains

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gydag Arriva Trains am ddarparu gwasanaeth trenau yng ngorllewin Cymru yn y dyfodol? (WAQ34694)

Andrew Davies: Cyfarfûm â rheolwr-gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru ar 11 Tachwedd 2003 a chawsom drafodaeth am ddarparu gwasanaethau trên i orllewin Cymru yn y dyfodol. Mae’r trafodaethau’n dal i fynd rhagddynt yng ngoleuni’r ymgynghori ar batrwm yr amserlen reolaidd sydd i’w chyflwyno ym mis Rhagfyr 2005.

Ffordd Newydd yr M4 i’r De o Gasnewydd

Nick Bourne: Pa gamau sy’n cael eu cymryd tuag at greu ffordd newydd yr M4 i’r de o Gasnewydd? (WAQ34699)

Andrew Davies: Mae’r penderfyniad ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â ffordd newydd yr M4 wedi ei gynnwys yn yr adolygiad yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd o’n blaenoriaethau a’n cynlluniau trafnidiaeth i sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn llawn â ‘Cymru: Gwlad Well’ a chynllun gofodol Cymru, sy’n cael ei ddatblygu.

Mae gan y cynllun oblygiadau pellgyrhaeddol, sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i gyffiniau agos y darn o ffordd dan sylw. Mae’n bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad, wrth ddod i benderfyniad, yn ystyried yr holl ffactorau, gan gynnwys effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd adeiladu’r ffordd. Deellir pwysigrwydd strategol y llwybr hanfodol o’r Dwyrain i’r Gorllewin yn iawn.

Teithio o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda bmibaby ynghylch cynyddu nifer y cyrchfannau y mae modd teithio iddynt o faes awyr rhyngwladol Caerdydd? (WAQ34700)

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi cael trafodaethau gyda maes awyr rhyngwladol Caerdydd a/neu brif gwmnïau awyrennau ynghylch sefydlu gwasanaeth penodol rhwng de Cymru a Gogledd America? (WAQ34701)

Andrew Davies: Yr wyf yn cyfarfod â chynrychiolwyr maes awyr rhyngwladol Caerdydd a chwmnïau awyrennau yn rheolaidd i drafod materion sy’n ymwneud â gwneud y gorau o botensial y maes awyr, yn cynnwys cynyddu nifer y cyrchfannau a gynigir. Yr wyf yn ymroddedig i annog ehangu gwasanaethau rhyngwladol o Gaerdydd ymhellach, ac am y rheswm hwnnw byddaf yn edrych yn fanwl ar y posibilrwydd o gyflwyno cronfa arbennig ar gyfer datblygu teithiau. Byddai’r gronfa’n cefnogi ac yn annog cyflwyno gwasanaethau awyr a fyddai’n gwella cysylltiadau i ac o Gymru ac yn cynnig cyfleoedd newydd i hyrwyddo Cymru dramor. Yr wyf yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar gan faes awyr rhyngwladol Caerdydd y bydd yn cyflwyno gwasanaeth hedfan wythnosol yn ystod tymhorau brig o Gaerdydd i Orlando, Florida.

Tagfa yn Nhwnelau Brynglas

Nick Bourne: Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddatrys problem y dagfa yn nhwnelau Brynglas ar yr M4? (WAQ34702)

Andrew Davies: Yn y tymor byr mae Llywodraeth y Cynulliad yn mynd i’r afael â’r angen i wella’r sefyllfa yn nhwnelau Brynglas drwy fenter ‘Making Better Use’ ar yr M4.

Yn y tymor hwy bydd angen ystyried ffordd newydd yr M4 o Fagwyr i Gas-bach, ac yr wyf yn eich cyfeirio at fy ateb i’ch cwestiwn WAQ34699.

13 Plymeriaid sy’n Brentisiaid (Cyfartaledd Oedran)

Nick Bourne: Ar gyfartaledd, beth yw oedran plymeriaid sy’n brentisiaid yng Nghymru? (WAQ34703)

Andrew Davies: Mae ffigurau cenedlaethol o gronfa ddata hyfforddedigion Dysgu ac Addysgu Cymru yn awgrymu mai cyfartaledd oedran y rhai sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd mewn prentisiaethau modern neu brentisiaethau modern sylfaenol sy’n ymwneud â phlymwaith yw 19.5 oed.

Nodyn: Defnyddiwyd y cofrestriadau yn nghronfa ddata hyfforddedigion ELWa ar ddiwedd Mawrth 2004 ar brentisiaethau modern neu brentisiaethau modern sylfaenol yn fframweithiau plymwaith, gosod nwy neu’r diwydiant dŵr. Cyfrifwyd y cyfartaledd oedran gan ddefnyddio oed canolrifol y rhai sydd wedi’u cofrestru.

Weldwyr sy’n Brentisiaid (Cyfartaledd Oedran)

Nick Bourne: Ar gyfartaledd, beth yw oedran weldwyr sy’n brentisiaid yng Nghymru? (WAQ34704)

Andrew Davies: Mae ffigurau o gronfa ddata hyfforddedigion ELWa yn genedlaethol yn awgrymu mai cyfartaledd oedran y rhai sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd mewn prentisiaethau modern neu brentisiaethau modern sylfaenol sy’n ymwneud â chrefftau weldio yw 20.5 oed.

Nodyn: Defnyddiwyd y cofrestriadau cenedlaethol yng nghronfa ddata hyfforddedigion ELWa ar ddiwedd Mawrth 2004 ar brentisiaethau modern neu brentisiaethau modern sylfaenol yn nosbarth galwedigaethol safonol crefftau weldio. Cyfrifwyd y cyfartaledd oedran gan ddefnyddio oed canolrifol y rhai sydd wedi’u cofrestru.

Trydanwyr sy’n Brentisiaid (Cyfartaledd Oedran)

Nick Bourne: Ar gyfartaledd, beth yw oedran trydanwyr sy’n brentisiaid yng Nghymru? (WAQ34705)

Andrew Davies: Mae ffigurau o gronfa ddata hyfforddedigion ELWa yn genedlaethol yn awgrymu mai cyfartaledd oedran y rhai sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd mewn prentisiaethau modern neu brentisiaethau modern sylfaenol sy’n ymwneud â’r diwydiant trydan yw 20.1 oed.

Nodyn: Defnyddiwyd y cofrestriadau cenedlaethol yng nghronfa ddata hyfforddedigion ELWa ar ddiwedd Mawrth 2004 ar brentisiaethau modern neu brentisiaethau modern sylfaenol yn fframweithiau peirianwaith gosod trydan neu’r diwydiant cyflenwi trydan. Cyfrifwyd y cyfartaledd oedran gan ddefnyddio oed canolrifol y rhai sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd.

Diweithdra ac Anweithgarwch Economaidd (Dan 25 Oed)

Mark Isherwood: Pa lefelau o ddiweithdra ac anweithgarwch economaidd mewn pobl ifanc dan 25 oed sydd ym mhob etholaeth seneddol yng Nghymru? (WAQ34710)

Andrew Davies: Mae’r wybodaeth sydd ar gael i’w weld yn y tabl isod. Mae ystadegau diweithdra pobl dan 25 oed sy’n hawlio budd-daliadau ar gael fesul etholaeth. Nid oes gennym amcangyfrifon dibynadwy o anweithgarwch economaidd sy’n dibynnu ar wybodaeth yn tarddu o arolygon ac wedi’u dosbarthu yn y categorïau hyn.

Lefelau diweithdra pobl dan 25 oed sy’n hawlio budd-daliadau yng Nghymru ym mis Mawrth 2004 Aberafan 353 Alun a Glannau Dyfrdwy 297 Blaenau Gwent 564 Brycheiniog a Sir Faesyfed 225 Pen-y-bont ar Ogwr 391

14 256 Caerffili 611 Canol Caerdydd 397 Gogledd Caerdydd 163 De Caerdydd a Phenarth 557 Gorllewin Caerdydd 471 Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 209 Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 369 Ceredigion 233 De Clwyd 296 Gorllewin Clwyd 261 Conwy 334 Cwm Cynon 499 Delyn 214 Gŵyr 278 Islwyn 418 Llanelli 390 Meirionnydd Nant Conwy 137 Merthyr Tudful a Rhymni 577 Mynwy 231 Sir Drefaldwyn 151 Castell-nedd 467 Dwyrain Casnewydd 382 Gorllewin Casnewydd 438 Ogwr 391 Pontypridd 407 Preseli Sir Benfro 448 Rhondda 536 Dwyrain Abertawe 559 Gorllewin Abertawe 481 Tor-faen 453 Dyffryn Clwyd 305 Bro Morgannwg 516 Wrecsam 285 Ynys Môn 327 Cymru 14,877

Cymru a Brwsel (Cysylltiad Awyr Uniongyrchol)

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y posibilrwydd o ailsefydlu cysylltiad awyr uniongyrchol rhwng Cymru a Brwsel? (WAQ34714)

Andrew Davies: Mae’n siomedig bod y cyswllt awyr uniongyrchol â Brwsel a oedd yn cael ei redeg gan Air Wales wedi ei golli. Yr oedd hwn yn benderfyniad masnachol gan y cwmni ac ni allaf ragweld pryd y ceir gwasanaeth yn ei le. Yr wyf wedi trafod y rhagolygon gyda rheolwr-gyfarwyddwr maes awyr rhyngwladol Caerdydd ac mae’n brysur yn chwilio am gwmni awyr i gynnig gwasanaeth yn lle’r un a gollwyd.

Camerâu Cyflymder

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda heddluoedd Cymru ynghylch darparu a lleoli camerâu cyflymder? (WAQ34715)

15 Andrew Davies: Mae’r drefn bresennol o orfodi drwy gamerâu cyflymder yn gweithredu drwy Gymru a Lloegr yn unol â Deddf Cerbydau (Troseddau) 2001. Yng Nghymru, caiff y pwerau hyn eu gweithredu gan ddwy bartneriaeth, sef partneriaeth camerâu diogelwch canolbarth a de Cymru, a phartneriaeth lleihau anafiadau gogledd Cymru (Siwrne Saff).

Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gyfrifoldebau dan Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001, ond fel yr awdurdod cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, mae’n aelod o’r ddwy bartneriaeth. Fel y cyfryw, mae wedi ymrwymo i’r rheolau a’r canllawiau yn y llawlyfr, fel y mae pob awdurdod priffyrdd arall yng Nghymru, a’r heddluoedd, wedi ei wneud.

Cynhelir trafodaethau rheolaidd rhwng swyddogion Llywodraeth y Cynulliad a’r heddluoedd ynglŷn â darparu a lleoli camerâu diogelwch ar gefnffyrdd a thraffyrdd dan ymbarél y gwahanol bartneriaethau. Mae swyddogion yn rhoi gwybodaeth i mi yn ôl yr angen. Ynglŷn â ffyrdd eraill, cynhelir trafodaethau tebyg rhwng yr awdurdodau priffyrdd lleol a’r heddluoedd.

Band Eang

Nick Bourne: Pa ganran o gartrefi Cymru sydd â chyfleuster band eang erbyn hyn? (WAQ34717)

Andrew Davies: Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan BT (sef yr unig rai ar hyn o bryd sy’n eiddo cyhoeddus) mae gan 76.4 y cant o Gymru fynediad i fand eang DSL ac mae 6.4 y cant o bobl/busnesau wedi manteisio ar fand eang drwy gyfrwng DSL.

Mae gan gyflenwyr yr hawl i ddatgelu gwybodaeth fel y gwelant yn dda ac nid yw BT yn barod i ddatgelu’r rhaniad rhwng llinellau busnes a domestig am resymau’n ymwneud â chyfrinachedd masnachol.

Tourism Company Cyf

Lisa Francis: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Tourism Company Cyf a’i berthynas â Bwrdd Croeso Cymru? (WAQ34727)

Andrew Davies: Mae Bwrdd Croeso Cymru yn fy hysbysu bod y Tourism Company Cyf wedi cael ei gynnwys, ar adegau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ar restr dendro’r bwrdd croeso ar gyfer contractau penodol. Lle y mae wedi llwyddo yn y broses dendro mae’r cwmni wedi ymgymryd â gwaith i’r bwrdd croeso.

Ymchwil Ffyrdd

Lisa Francis: A all y Gweinidog roi manylion am unrhyw ymchwil a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y ffyrdd canlynol: A470, A4212, A496, A493, A487, A489 a’r A4085 ar y cyd ag adran priffyrdd Cyngor ? (WAQ34771)

Andrew Davies: Mae Cyngor Gwynedd, yn rhinwedd ei statws fel Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Orllewin Cymru, yn gwneud ymchwil fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer y gwelliannau canlynol ar gefnffyrdd:

A470 Maes yr Helmau i Cross Foxes (i’r de o Ddolgellau) A470 Gelligemlyn (rhwng a ) A470 Blaenau i Gancoed A487 Llwyn Mafon (i’r gogledd o Borthmadog) A487 Caernarfon i Bontnewydd.

Rhoddir ystyriaeth ar hyn o bryd i wneud yr A496 rhwng a yn gefnffordd.

16 Nid yw’r A4212, A493, A489 na’r A4085 yn gefnffyrdd, ac nid yw’r Cynulliad yn ymwneud ag unrhyw waith neu ymchwil yng nghyswllt y ffyrdd hynny.

Visitwales.com

Lisa Francis: A yw’r Gweinidog wedi edrych yn ddiweddar ar gyfrifon visitwales.com a sut y maent yn cymharu gydag e-Tourism Cyf (rhiant-gwmni visitscotland.com)? (WAQ34772)

Andrew Davies: Nac ydwyf. Nid oes ffigurau cymaradwy ar gael yn hawdd gan fod trefniadau gweithrediadol a rheolaeth visitwales.com a visitscotland.com yn hollol wahanol. Mae e-Tourism Cyf yn gwmni ar wahân sydd wedi ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau yng Nghaeredin. Caiff visitwales.com ei reoli gan adran farchnata Bwrdd Croeso Cymru a daw ei adnoddau o gyllideb gyffredinol yr adran farchnata sy’n rhan o gyfrifon cyffredinol y bwrdd croeso.

Seilwaith Seiclo ar Gefnffyrdd Brycheiniog a Sir Faesyfed

Kirsty Williams: Faint o astudiaethau dichonolrwydd sydd wedi’u cynnal i’r posibilrwydd o wella’r seilwaith seiclo ar gefnffyrdd Brycheiniog a Sir Faesyfed, a beth oedd y gost? (WAQ34778)

Andrew Davies: Nid yw cynlluniau seiclo ledled Cymru’n cael eu monitro fesul etholaeth, ond fesul asiantaeth cefnffyrdd. Mae pob cynllun o anghenraid yn cynnwys elfen o astudio dichonoldeb, sydd i’w weld yng nghostau terfynol y cynllun. Mae’r tabl isod yn dangos y cynlluniau a gwblhawyd ym Mhowys er 2000.

Darpariaeth Seiclo—Canolbarth Cymru Blwyddyn Disgrifiad Cost Sylwadau 2004-05 A489 Machynlleth i Benegoes 10,000 Astudiaeth dichonoldeb 2004-05 A487 Machynlleth i Dderwenlas 221,000 Cynllun 2003-04 A487 Machynlleth i Dderwenlas 5,000 Dichonoldeb a dylunio 2004-05 A470 Cwmbelan i Lanidloes 120,000 Cynllun 2003-04 A470 Cwmbelan i Lanidloes 25,000 Dylunio 2002-03 A470 Cwmbelan i Lanidloes 5,000 Dichonoldeb 2003-04 A483 Llanwrtyd—Melin Cambrian 53,000 Cynllun 2002-03 A483 Llanwrtyd—Melin Cambrian 40,000 Cynllun a dylunio 2002-03 A487 Machynlleth (trac a rheiliau) 60,000 Cynllun 2001-02 A487 Machynlleth (bwa rheilffordd) 5,375 Astudiaeth 2001-02 A483 Hawau i Crossgates 57,000 Cynllun 2001-02 A483 Ffordd Dolfor y Drenwydd 24,000 Cynllun 2000-01 A487 Pont Mileniwm Dyfi Machynlleth 100,000 Cyfraniad 2000-01 Cynlluniau cyswllt â chefnffyrdd 85,000 Cynllun 2000-01 Adeiladu rhwydwaith seiclo cenedlaethol 68,000 Cynllun

Wyth cynllun a chyfraniad tuag at bont y mileniwm 878,375

17 Seilwaith Seiclo ar Gefnffyrdd Brycheiniog a Sir Faesyfed

Kirsty Williams: Faint o’r astudiaethau dichonolrwydd a gynhaliwyd i’r posibilrwydd o wella’r seilwaith seiclo ar gefnffyrdd Brycheiniog a Sir Faesyfed y bwriedir bwrw ymlaen â hwy? (WAQ34779)

Andrew Davies: Nid yw cynlluniau seiclo ledled Cymru’n cael eu monitro fesul etholaeth, ond fesul asiantaeth cefnffyrdd. Mae’r daenlen atodedig yn dangos y cynlluniau a gwblhawyd ym Mhowys er 2000. Bwriwyd ymlaen â phob cynllun sydd wedi bod yn destun astudiaeth dichonoldeb ac eithrio’r un o Fachynlleth i Benegoes, sydd yn y cam dichonoldeb ar hyn o bryd (amcangyfrif o’r gost = £10,000) a bwa’r rheilffordd ym Machynlleth sy’n dal i gael ei hystyried.

Darpariaeth Seiclo—Canolbarth Cymru Blwyddyn Disgrifiad Cost Sylwadau 2004-05 A489 Machynlleth i Benegoes 10,000 Astudiaeth dichonoldeb 2004-05 A487 Machynlleth i Dderwenlas 221,000 Cynllun 2003-04 A487 Machynlleth i Dderwenlas 5,000 Dichonoldeb a dylunio 2004-05 A470 Cwmbelan i Lanidloes 120,000 Cynllun 2003-04 A470 Cwmbelan i Lanidloes 25,000 Dylunio 2002-03 A470 Cwmbelan i Lanidloes 5,000 Dichonoldeb 2003-04 A483 Llanwrtyd—Melin Cambrian 53,000 Cynllun 2002-03 A483 Llanwrtyd—Melin Cambrian 40,000 Cynllun a dylunio 2002-03 A487 Machynlleth (trac a rheiliau) 60,000 Cynllun 2001-02 A487 Machynlleth (bwa rheilffordd) 5,375 Astudiaeth 2001-02 A483 Hawau i Crossgates 57,000 Cynllun 2001-02 A483 Ffordd Dolfor y Drenwydd 24,000 Cynllun 2000-01 A487 Pont Mileniwm Dyfi Machynlleth 100,000 Cyfraniad 2000-01 Cynlluniau cyswllt â chefnffyrdd 85,000 Cynllun 2000-01 Adeiladu rhwydwaith seiclo cenedlaethol 68,000 Cynllun

Wyth cynllun a chyfraniad tuag at bont y mileniwm 878,375

Seilwaith Seiclo ar Gefnffyrdd Brycheiniog a Sir Faesyfed

Kirsty Williams: Faint o arian sydd wedi’i ddarparu ar gyfer gweithredu’r astudiaethau dichonolrwydd a gynhaliwyd i’r posibilrwydd o wella’r seilwaith seiclo ar gefnffyrdd Brycheiniog a Sir Faesyfed? (WAQ34780)

Andrew Davies: Nid yw cynlluniau seiclo ledled Cymru’n cael eu monitro fesul etholaeth, ond fesul asiantaeth cefnffyrdd. Er 2000, rhoddwyd £25,537 yn uniongyrchol i Bowys ar gyfer pedair astudiaeth dichonoldeb. Mae dwy ohonynt wedi arwain at gynlluniau sydd wedi neu sydd yn y broses o gael eu rhoi ar waith. Cynhelir yr astudiaeth ar gyfer Machynlleth i Benegoes yn ddiweddarach eleni. Mae’r astudiaeth arall (bwa’r rheilffordd ym Machynlleth) yn parhau i gael ei hystyried.

Gwasanaeth Ar-lein National Rail

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi cynnal unrhyw drafodaethau â’i gymheiriaid yn San Steffan ynghylch gwasanaeth ar-lein National Rail a’i effeithiolrwydd ac, os felly, a wnaiff roi manylion y trafodaethau hynny? (WAQ34844)

18 Andrew Davies: Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ynglŷn â’r agweddau gweithrediadol. Mater i’r diwydiant rheilffordd yw hynny.

Datblygu Economaidd yng Nghasnewydd

John Griffiths: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch datblygu economi Casnewydd? (WAQ34845)

Andrew Davies: Bydd Newport Unlimited, sy’n arwain ar y gwaith o ddatblygu ffisegol ac adfywio yng Nghasnewydd, yn cyhoeddi ei brif gynllun ar gyfer yr ardal ganolog, ‘Newport 2020–Unlimited Vision’ yn y dyfodol agos, ac mae nifer o brosiectau adfywio pwysig yn deillio o’r broses, gan gynnwys darparu safle cyflogaeth newydd, cynnig ar gyfer ailddatblygu canol y ddinas a gwelliannau sylweddol i’r seilwaith ffisegol.

Gorsaf y Stryd Fawr yn Abertawe

Peter Black: A wnaiff y Gweinidog roi manylion y grantiau a roddwyd gan y Cynulliad i wella gorsaf y Stryd Fawr yn Abertawe, gan gynnwys braslun o’r ffordd y mae’r arian hwnnw yn cael ei wario ar wahanol elfennau’r cynllun? (WAQ34850)

Andrew Davies: Mae cyfanswm o £1.5 miliwn o gyllid Amcan 1 wedi ei ddyfarnu ac yn cael ei wario ar wella gorsaf Stryd Fawr Abertawe.

Mae grant trafnidiaeth y Cynulliad ar hyn o bryd yn cefnogi pecyn trafnidiaeth Abertawe. Mae hwn yn becyn integredig o fesurau trafnidiaeth sydd wedi ei gynllunio i gynorthwyo ac annog datblygu trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a seiclo, ac i wneud y seilwaith presennol mor effeithiol ag sy’n bosibl. Er 1998-99, rhoddwyd tua £19.8 miliwn i Gyngor Dinas a Sir Abertawe ar gyfer pecyn trafnidiaeth Abertawe.

Un elfen o’r pecyn hwn yw’r gwelliannau i’r gyfnewidfa bysiau a rheilffordd yng ngorsaf reilffordd Abertawe, sy’n cynnwys gwaith sylweddol i aildrefnu’r ffyrdd a gwella cyfleusterau i fysiau, tacsis a cherddwyr o gwmpas gorsaf Stryd Fawr Abertawe. Mae’r gweithfeydd hyn wedi eu cwblhau bellach, a defnyddiwyd tua £350,000 o’r grant trafnidiaeth. Y cyngor sy’n gyfrifol am y datblygiad a gall roi gwybodaeth fanwl ichi.

Strategaeth Beicio Modur Ddrafft

Michael German: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amserlen ar gyfer ymgynghori ar y strategaeth beicio modur ddrafft ar gyfer Cymru? (WAQ35070)

Andrew Davies: Bwriadwn gyhoeddi’r strategaeth ddrafft ar feicio modur er mwyn ymgynghori arni yn ddiweddarach eleni. Caiff yr ymatebion eu dadansoddi wedyn a chyhoeddir y strategaeth derfynol yn ei thro.

Parthau 20 mya a Llwybrau Diogel i’r Ysgol

Sandy Mewies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar hynt y gwaith hyd yn hyn o weithredu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymestyn parthau 20 mya a llwybrau diogel i’r ysgol? (WAQ35071)

Andrew Davies: Cyfrifoldeb awdurdodau lleol unigol yw cyflwyno parthau 20 mya. I’w cynorthwyo yr ydym wedi darparu £7.25 miliwn yn rhagor o gyllid eleni dan y grant diogelwch ar ffyrdd lleol ac wedi gofyn am weld estyn a gweithredu rhagor o barthau a chyfyngiadau 20 mya. Yr ydym wedi ceisio gwybodaeth gan awdurdodau lleol am y parthau a chyfyngiadau 20 mya sydd eisoes wedi eu sefydlu a’r rhai arfaethedig, a caiff hyn ei ddadansoddi. Yr ydym wedi darparu £14.5 miliwn ar gyfer cynlluniau

19 Llwybrau Diogel i’r Ysgol er 1999 ac wedi neilltuo £3.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2005-06. Hyd yn hyn, mae dros 220 o ysgolion mewn mwy na 70 o gynlluniau wedi elwa o’r cyllid hwn.

Dolffiniaid ym Mae Ceredigion

Nick Bourne: Faint o effaith y mae’r dolffiniaid a geir ym mae Ceredigion yn ei chael ar dwristiaeth yng Nghymru? (WAQ35074)

Andrew Davies: Amgylchedd naturiol Cymru yw un o’r prif resymau pam y mae llawer o ymwelwyr yn dod i Gymru. Mae dolffiniaid bae Ceredigion yn rhan o’r dreftadaeth amgylcheddol honno, ac deallaf fod ystod o fusnesau yn ardal bae Ceredigion yn cynnig teithiau cychod ar gyfer gweld golygfeydd a chael profiad agos o fywyd gwyllt, gan gynnwys mamaliaid morol megis dolffiniaid a llamhidyddion.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

Swyddfa Mynediad Teg i Fyfyrwyr

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynigion y Llywodraeth o ran y swyddfa mynediad teg i fyfyrwyr, ac effaith hynny ar Gymru? (WAQ34283)

Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes (Jane Davidson): Dim ond ar gyfer Lloegr y mae darpariaethau’r Mesur Addysg Uwch ar gyfer y cyfarwyddwr mynediad teg yn berthnasol.

Ysgolion sydd wedi Cau

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ysgolion sydd wedi cau yng Nghymru ers mis Mai 1999? (WAQ34666)

Jane Davidson: Caewyd yr ysgolion canlynol yn ystod y cyfnod ers mis Mai 1999. Mewn rhai achosion mae ysgolion gydag enwau gwahanol wedi agor yn lle’r ysgolion a gaewyd.

Awdurdod Addysg Lleol Enw’r ysgol a gaewyd Dyddiad Blaenau Gwent Ysgol Gyfun Glanyrafon Awst 1999 Blaenau Gwent Ysgol Iau Cwmtyleri Awst 2000 Blaenau Gwent Ysgol Feithrin Six Bells Awst 1999 Blaenau Gwent Ysgol Babanod Blaenau Gwent Awst 2000 Blaenau Gwent Ysgol Gynradd Rassau Awst 2001 Blaenau Gwent Ysgol Gynradd Arael Awst 2002 Pen-y-bont ar Ogwr Ysgol Feithrin Cwm Ogwr Awst 2003 Caerffili Ysgol Babanod Glan y Nant Awst 2002 Sir Gaerfyrddin Ysgol Gynradd Gwynfe Awst 1999 Sir Gaerfyrddin Ysgol Gynradd Bethlehem Rhagfyr 1999 Sir Gaerfyrddin Ysgol Gynradd Myddfai Awst 2001 Sir Gaerfyrddin Ysgol Gynradd Alltwalis Awst 2003 Sir Gaerfyrddin Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanfihangel ar Awst 2003 Arth a Reolir Sir Gaerfyrddin Ysgol Gynradd Cwmbach Mawrth 2003 Sir Gaerfyrddin Ysgol Gynradd Llangynin Mawrth 2003 Sir Gaerfyrddin Ysgol Babanod Twyn Awst 2003 Sir Ddinbych Ysgol Gynradd Nantglyn Rhagfyr 1999 Merthyr Ysgol Babanod Graig Bedlinog Rhagfyr 1999 Merthyr Ysgol Babanod Pentrebach Awst 2002 Sir Fynwy Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelen a Reolir Awst 2002

20 Casnewydd Ysgol Babanod Baneswell Awst 1999 Sir Benfro Ysgol Gynradd Ty Ddewi Awst 1999 Sir Benfro Ysgol Gynradd Ynys Byr Awst 2000 Sir Benfro Ysgol Gynradd Penffordd Awst 2001 Sir Benfro Ysgol Gynradd Bwlchygroes Awst 2000 Sir Benfro Ysgol Gynradd Wirfoddol Manordeifi a Awst 2000 Reolir Sir Benfro Ysgol Gynradd Trewyddel Awst 2003 Sir Benfro Ysgol Gynradd Dinas Rhagfyr 2002 Rhondda Cynon Taf Ysgol Gynradd Dwnrhefn* Mehefin 1999 Rhondda Cynon Taf Ysgol Gynradd Blaenrhondda* Mehefin 1999 Rhondda Cynon Taf Ysgol Gynradd Blaenycwm* Mehefin 1999 Rhondda Cynon Taf Ysgol Babanod Hendrefadog Awst 1999 Rhondda Cynon Taf Ysgol Feithrin Glynhafod Medi 2003 Abertawe Ysgol Uwchradd i Fechgyn Penlan Awst 2001 Abertawe Ysgol Uwchradd Dinefwr Awst 2001 Tor-faen Ysgol Gynradd Park Terrace Awst 2001 Bro Morgannwg Ysgol Feithrin Dociau’r Barri Awst 1999 Bro Morgannwg Ysgol Gynradd Wirfoddol Penarth a Reolir Ionawr 2004 Wrecsam Ysgol Uwchradd y Groves Awst 2003 *Daeth ysgol gynradd gymunedol Pen-pych i ddisodli’r tair ysgol hyn.

Nid yw ysgolion babanod ac ysgolion iau wedi eu cyfuno wedi eu cynnwys yn yr ateb hwn gan nad ydynt yn aml yn arwain at gau ysgolion mewn gwirionedd. Nid yw ffederasiynau wedi eu cynnwys ychwaith gan nad ydynt yn arwain at golli safleoedd ysgolion.

Dosbarthiadau Ysgolion Cynradd (30 o Ddisgyblion neu Ragor)

Nick Bourne: Faint o ddosbarthiadau ysgolion cynradd yng Nghymru sydd â 30 o ddisgyblion neu ragor? (WAQ34668)

Jane Davidson: Adeg y cyfrif diwethaf o faint dosbarthiadau ym mis Medi 2003, yr oedd cyfanswm o 651 o ddosbarthiadau ysgolion cynradd (y rhan fwyaf yn ddosbarthiadau iau) yn cynnwys mwy na 30 o ddisgyblion. Yr oedd hyn yn 6.6 y cant o ddosbarthiadau o’r fath.

Dosbarthiadau Plant Iau (30 o Ddisgyblion neu Ragor)

Nick Bourne: Faint o ddosbarthiadau plant iau yng Nghymru sydd â 30 o ddisgyblion neu ragor? (WAQ34669)

Jane Davidson: Ym mis Medi 2003, adeg y cyfrif diwethaf o faint dosbarthiadau, yr oedd 576 o ddosbarthiadau iau yn cynnwys mwy na 30 o ddisgyblion. Yr oedd hyn yn 10 y cant o ddosbarthiadau o’r fath, o’i gymharu â 25 y cant ym mis Medi 1999.

Addysg Bellach ac Uwch

Nick Bourne: Faint yn ychwanegol o fyfyrwyr a fanteisiodd ar addysg bellach ac uwch yng Nghymru rhwng Mai 1999 a Mai 2003? (WAQ34675)

Jane Davidson: Mae niferoedd y myfyrwyr a ddechreuodd addysg bellach neu uwch ar gyfer y cyfnod y gofynnwyd amdano wedi eu nodi yn y tabl isod.

Nifer y myfyrwyr a oedd wedi’u cofrestru mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru (a)

21 Sefydliadau Addysg Bellach Sefydliadau Addysg Uwch Amser Rhan-amser Amser llawn Rhan-amser llawn Mai 1999 35,055 99,150 65,250 36,195 Mai 2003 34,915 130,910 67,115 49,675 Newid -140 +31,760 +1,865 +13,485

Ffynhonnell: Dysgu ac Addysgu Cymru, Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. (a) Ar 1 Mai. Wedi eu talgrynnu i’r pump agosaf.

Athrawon Newydd

Nick Bourne: Faint o athrawon newydd sydd wedi dechrau swydd ddysgu lawn amser yng Nghymru fesul blwyddyn er 1999? (WAQ34678)

Jane Davidson: Nid oes gwybodaeth ar nifer yr athrawon amser llawn sy’n dechrau dysgu ar gael. Dangosir cyfanswm nifer yr athrawon amser llawn a rhan-amser mewn swyddi yng Nghymru ar 31 Mawrth bob blwyddyn ar ôl iddynt orffen eu hyfforddiant cychwynnol yn llwyddiannus yn y tabl isod:

Blwyddyn Nifer yr athrawon 1999 1,300 2000 1,420 2001 1,140 2002 1,330 Ffynhonnell: cronfa ddata cofnodion athrawon, yr Adran Addysg a Sgiliau. Caiff yr holl wybodaeth uchod ei chyhoeddi yn ‘Ysgolion yng Nghymru: Ystadegau Cyffredinol 2003’, y ceir dolen iddi isod: http://www.cymru.gov.uk/keypubstatisticsforwales/content/publications/schools- teach/2004/siwgs2003/siwgs2003.htm

Swyddi Gwag i Athrawon mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd

Nick Bourne: Faint o swyddi gwag i athrawon oedd ar gael mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru fesul blwyddyn er 1999? (WAQ34679)

Jane Davidson: Dangosir nifer y swyddi gwag i athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cynaledig yng Nghymru yn y tabl isod (1):

Blwyddyn Ysgolion cynradd Ysgolion uwchradd 1999 49 73 2000 24 60 2001 36 60 2002 30 77 2003 43 82 Ffynhonnell: arolwg athrawon mewn swyddi a swyddi athrawon sy’n wag (Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol 3).

(1) Ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae’r holl wybodaeth uchod wedi ei chyhoeddi yn ‘Ysgolion yng Nghymru: Ystadegau Cyffredinol’, sydd ar gael ar: http://www.cymru.gov.uk/keypubstatisticsforwales/content/publications/schools- teach/2004/siwgs2003/siwgs2003.htm

22

Swyddi Athrawon sy’n Wag mewn Ysgolion

Nick Bourne: Faint o swyddi athrawon oedd yn dal i fod yn wag yn ysgolion Cymru bob blwyddyn er 1999? (WAQ34681)

Jane Davidson: Dangosir gwybodaeth o arolwg Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ar recriwtio athrawon yn y tabl isod. Dim ond ar gyfer 2001 a 2002 y mae data ar gael.

Cyfnod Nifer y swyddi a Nifer y swyddi lle na Canran y swyddi lle na hysbysebwyd yn ystod y phenodwyd neu lle na phenodwyd neu lle na cyfnod chofnodwyd hynny (1) chofnodwyd hynny 1 Ion 2001–31 Awst 2001 443 58 13.1 y cant (2) 1 Ion 2002–31 Awst 2002 1,475 72 4.9 y cant (3)

(1) Mae’n bosibl bod y swyddi wedi eu llenwi ar ôl i’r cyfnod hysbysu ddod i ben. (2) Ysgolion uwchradd yn unig. (3) Ysgolion cynradd ac uwchradd yn unig. Ceir rhagor o wybodaeth ar: http://www.gtcw.org.uk/welcome_cym.html

Senedd Ieuenctid y DU

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda chynrychiolwyr Senedd Ieuenctid y DU ynglŷn ag annog mwy o bobl ifanc Cymru i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd? (WAQ34682)

Jane Davidson: Draig Ffynci (Y Cynulliad i Bobl Ifanc yng Nghymru) yw’r prif gyfrwng sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru.

Yr wyf wedi cynnal trafodaethau’n ddiweddar gyda phobl ifanc o Draig Ffynci sy’n gynrychiolwyr Cymreig Senedd Ieuenctid y DU. Mae gan ein pobl ifanc bedwar prif bryder ynglŷn â Senedd Ieuenctid y DU:

• yr angen am statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yng nghyfarfodydd Senedd Ieuenctid y DU; • y modd y mae materion Seisnig yn rheoli agenda Senedd Ieuenctid y DU a’r angen felly am senedd ieuenctid ar wahân i Loegr lle y gellir trafod materion sy’n ymwneud â Lloegr yn unig; • codi’r oedran y gellir cymryd rhan i 25 oed; • rheoli cyfarfodydd yn well gan roi sylw dyladwy i faterion a roddir gerbron gan bobl ifanc o Gymru.

Dylai adolygiad o Senedd Ieuenctid y DU a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau gael ei gyhoeddi o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

Bysiau Ysgol Tebyg i Rai America

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi gwneud asesiad o’r angen am fysiau ysgol tebyg i rai America yng Nghymru? (WAQ34713)

Jane Davidson: Ym mis Tachwedd 2003, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth adroddiad ymchwil gan Steer Davies Cleave a oedd yn gwerthuso effaith tri chynllun peilot bysiau ysgol melyn yn Hebden Bridge (Gorllewin Swydd Efrog), Runnymede (Surrey) a Wrecsam, ynghyd ag amrywiaeth o gynlluniau eraill o gwmpas y wlad. Er bod y cynlluniau peilot a gafodd eu gwerthuso wedi bod yn gymharol fach, ceir tystiolaeth glir fod gan fysiau ysgol penodol y potensial i leihau dibyniaeth ar geir ar y daith i’r ysgol. Mae’r adroddiad ar gael ar wefan yr adran ar http://www.dft.gov.uk.

23 Mae awdurdodau addysg lleol yn gyfrifol am ddarparu cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim i blant sy’n byw y tu hwnt i’r pellteroedd cerdded statudol. Mater i awdurdodau addysg lleol unigol yw penderfynu pa fath o gerbydau sy’n addas i’w defnyddio, gan ystyried eu dyletswydd i sicrhau bod disgyblion yn teithio’n rhesymol ddiogel a chyffyrddus.

Addysg Cyfrwng Cymraeg mewn Colegau Addysg Bellach a Trydyddol

Alun Ffred Jones: Faint o ddisgyblion sy’n dilyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein colegau addysg bellach a’n colegau trydyddol? (WAQ34722) [W]

Alun Ffred Jones: Ym mha golegau addysg bellach a cholegau trydyddol yng Nghymru y mae’r ddarpariaeth o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael? (WAQ34723) [W]

Jane Davidson: Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 6,400 o fyfyrwyr yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (naill ai’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig) mewn colegau trydyddol ac addysg bellach yng Nghymru.

Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yn y colegau canlynol: • Coleg Aberdâr, • Coleg Sir Gar, • Coleg Ceredigion, • Coleg Glannau Dyfrdwy, • Coleg Glan Hafren, • Coleg Llandrillo, • Coleg Llysfasi, • Coleg Meirion-Dwyfor, • Coleg Sir Benfro, • Coleg Morgannwg, • Coleg Powys, • Coleg Garddwriaeth Cymru, • Coleg Iâl • Choleg Menai. Ffynhonnell: ffigurau cofnodion myfyrwyr unigol ELWa 2001-02 i’r 100 agosaf.

Ysgolion Uwchradd Cymraeg

Alun Ffred Jones: Ymhellach i ateb y Gweinidog i OAQ32292, a wnaiff hi restru’r 45 o ysgolion uwchradd Cymraeg yng Nghymru? (WAQ34724) [W]

Alun Ffred Jones: Ymhellach i ateb y Gweinidog i OAQ32292, a wnaiff hi gadarnhau bod y ffigur o 5,500 o ddisgyblion yn cyfeirio at y nifer sy’n dilyn cyrsiau addysg ôl-16 yn yr ysgolion hynny? (WAQ34725) [W]

Jane Davidson: Yr wyf yn tynnu eich sylw at y rhestr isod o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg (fel y’u diffinnir yn Neddf Addysg 1996, Adran 354(b)) sydd â chweched dosbarth. Nifer y disgyblion sydd wedi’u cofrestru ym mlynyddoedd 12 a 13 yn yr ysgolion hyn yw’r nifer y cyfeirir ati yn OAQ32292. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn dilyn cyrsiau addysg ar ôl 16 oed. Yr wyf yn rhagweld y bydd dadansoddiad terfynol o nifer y disgyblion chweched dosbarth sy’n dilyn cyrsiau ar ôl 16 oed, a’r nifer sy’n dilyn cyrsiau eraill (ailsefyll TGAU er enghraifft) ar gael o’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion yn nes ymlaen eleni.

Ysgol Syr Thomas Jones Ysgol Gyfun Llangefni

24 Ysgol David Hughes Ysgol Uwchradd Bodedern Ysgol Dyffryn Ogwen Ysgol Brynrefail Ysgol Dyffryn Ysgol y Berwyn Ysgol Tryfan Ysgol Syr Hugh Owen Ysgol Dyffryn Conwy Ysgol y Creuddyn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd Ysgol Brynhyfryd Ysgol Maes Garmon Ysgol Morgan Llwyd Ysgol Uwchradd Caereinion Ysgol Uwchradd Llanfyllin Ysgol Uwchradd Llanidloes Ysgol Bro Ddyfi Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt Ysgol Uwchradd Aberhonddu Ysgol Gyfun Pont Steffan Ysgol Gyfun Aberaeron Ysgol Uwchradd Aberteifi Ysgol Uwchradd Tregaron Ysgol Gyfun Penweddig Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi Ysgol Gyfun Ddwyieithog y Preseli Ysgol Gyfun Pantycelyn Ysgol Gyfun Tregib Ysgol Gyfun Dyffryn Aman Ysgol Gyfun y Strade Ysgol Gyfun Bro Myrddin Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa Ysgol Gyfun Gŵyr Ysgol Gyfun Ystalyfera Ysgol Gyfun Rhydfelen Ysgol Gyfun Llanhari Ysgol Gyfun Cymer Rhondda Ysgol Gyfun Rhydywaun Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Ysgol Gyfun Gwynllyw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

25 Gweithwyr Ieuenctid

Lorraine Barrett: Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i helpu awdurdodau addysg lleol i gadw gweithwyr ieuenctid? (WAQ34745)

Jane Davidson: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod yn arbennig bwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn cadw gweithwyr ieuenctid o fewn awdurdodau lleol. Cyhoeddais yn ddiweddar swm o £469,000 i gefnogi ystod o hyfforddiant ar gyfer gweithwyr ieuenctid ar bob lefel yn y gwasanaeth, gan gynnwys maes pwysig hyfforddiant proffesiynol parhaus. Yr wyf hefyd wedi gofyn i Asiantaeth Ieuenctid Cymru, sy’n gweithio o fewn y sector, i ddatblygu system gynhwysfawr i gofnodi’r cyfleoedd datblygu proffesiynol hyn. Caiff y cyllid ei ddefnyddio hefyd i gefnogi gweithwyr ieuenctid profiadol i ddefnyddio eu profiadau ym meysydd goruchwyliaeth ac asesu ansawdd wrth iddynt gefnogi gweithwyr llai profiadol er mwyn gwella’r modd y cyflwynir gwasanaethau’n lleol.

Gweithwyr Ieuenctid ym Mro Morgannwg a Caerdydd

Lorraine Barrett: Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i helpu i gadw gweithwyr ieuenctid yn: a) Bro Morgannwg a b) Caerdydd? (WAQ34746)

Jane Davidson: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyrannu cyfanswm o £10 miliwn i wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod y cyfnod 2001-04. Defnyddiwyd peth o’r dyraniad hwn i Fro Morgannwg a Chaerdydd i gefnogi penodi gweithwyr ieuenctid newydd yn yr ardaloedd hynny. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r gwasanaeth ieuenctid ar strategaethau gweithlu a hyfforddiant a allai gynorthwyo awdurdodau lleol i gadw gweithwyr ieuenctid.

Addysg Blynyddoedd Cynnar

Kirsty Williams: Faint o blant teirblwydd oed yng Nghymru sy’n cael cyfle i gael addysg blynyddoedd cynnar, a faint sydd nad ydynt yn cael y cyfle? (WAQ34781)

Kirsty Williams: Pryd y bydd pob plentyn teirblwydd yng Nghymru yn cael cyfle i gael addysg blynyddoedd cynnar? (WAQ34782)

Kirsty Williams: Sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau y bydd yn llwyddo i gyflawni ei pholisi sy’n nodi y bydd cyfle, erbyn Medi 2004, i bob plentyn teirblwydd oed gael addysg blynyddoedd cynnar mewn ysgolion yn y tymor sy’n dilyn eu pen-blwydd yn dair oed, yn unol â’r cynigion a nodwyd yn ‘Y Wlad sy’n Dysgu’? (WAQ34783)

Jane Davidson: Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2002 yn dangos mai tua 33,5000 yw’r nifer cyfredol o blant teirblwydd yng Nghymru. Yr wyf yn ymroddedig i sicrhau y bydd pob un o’r rhain y mae eu rhieni neu eu gofalwyr yn dymuno iddynt wneud hynny, yn cael lle rhan amser, am ddim, erbyn mis Medi 2004.

Er mwyn sicrhau y caiff hyn ei gyflawni, yr wyf wedi dyrannu rhyw £40 miliwn o adnoddau ychwanegol i awdurdodau addysg lleol dros y tair blynedd diwethaf. Mae fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad agos ag awdurdodau addysg lleol a’u partneriaethau datblygiad blynyddoedd cynnar a gofal plant er mwyn sicrhau y caiff y targed ei gyflawni.

26 Lles Plant

Catherine Thomas: Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i roi ar waith adran 175 Deddf Addysg 2002 ynghylch dyletswydd awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu o ran lles plant? (WAQ34849)

Jane Davidson: Mae adran 175 Deddf Addysg 2002 wedi ei hamserlennu i fod yn weithredol yn ddiweddarach eleni.

Byddwch yn ymwybodol bod cyflwyno’r ddyletswydd statudol hon i sicrhau bod lles plant yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo yn mynnu bod awdurdodau addysg lleol, ynghyd â chyrff llywodraethol ysgolion a sefydliadau addysg bellach, yn rhoi ystyriaeth i ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad. Mae’r gwaith o ddrafftio’r canllawiau hyn ar y gweill. Fodd bynnag, yr wyf wedi gohirio ymgynghori arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’n llawn y canlyniadau sy’n debygol o godi o adroddiad y comisiynydd plant i ymchwiliad Clywch, a ddisgwylir cyn hir.

Yn y cyfamser, mae ysgolion yn parhau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, gan gynnwys cyfeirio unrhyw bryderon am blant mewn perygl neu blant mewn angen at asiantaethau statudol yn unol â’r canllawiau presennol.

Peiriannau Gwerthu Mewn Ysgolion

Brynle Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar beiriannau gwerthu mewn ysgolion? (WAQ35024)

Jane Davidson: Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gyfrifoldeb dros beiriannau gwerthu mewn ysgolion; mater i gyrff llywodraethol unigol ydynt.

Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol

Janice Gregory: Sut bydd Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau bod y bobl ifanc hynny sydd â hawl i dderbyn y lwfansau cynhaliaeth addysgol newydd yn manteisio’n llawn ar y fenter newydd hon? (WAQ35025)

Jane Davidson: Mae trefniadau cyhoeddusrwydd mewn llaw i godi ymwybyddiaeth o lwfansau cynhaliaeth addysgol. Bydd ysgolion a cholegau’n chwarae rhan lawn yn y broses a byddant yn derbyn deunyddiau addas i roi gwybodaeth i’w myfyrwyr a’u cynghori ynglŷn â’r hyn sydd ar gael a manteision y cynllun.

Cynorthwywyr Dysgu Graddfa Uwch

Peter Black: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr ymateb i’r ymgynghori ar gynigion ar gyfer cynorthwywyr dysgu graddfa uwch? (WAQ35026)

Peter Black: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynorthwywyr dysgu graddfa uwch? (WAQ35027)

Jane Davidson: Bydd estyn nifer a rolau staff cynorthwyol, gan gynnwys cynorthwywyr dysgu graddfa uwch, yn helpu ysgolion i gwrdd â gofynion y newidiadau i gontractau athrawon a gyflwynwyd i leihau baich gwaith athrawon. Nodwyd yr egwyddor hon yn y cytundeb cenedlaethol ar lwyth gwaith athrawon, a lofnodwyd ym mis Ionawr 2003. Mae’r cytundeb cenedlaethol yn ei gwneud yn hollol glir, fel yr wyf finnau, na ellir cyfnewid athrawon a chynorthwywyr dysgu graddfa uwch ac y bydd cyfrifoldeb am ganlyniadau dysgu cyffredinol disgyblion bob amser yn aros ar ysgwyddau athrawon cymwysedig. Mae’r ffordd y bydd ysgolion yn addasu i gwrdd â’r angen i leihau baich gwaith athrawon yn fater iddynt hwy ac ni fydd gofyn i ysgolion gyflogi cynorthwywyr dysgu graddfa uwch.

27 Mae’r rheoliadau drafft dan adran 133 Deddf Addysg 2002 yr wyf newydd ymgynghori arnynt yn pennu pa waith y gellir ond ei wneud gan athrawon cymwysedig (‘gwaith penodedig’) mewn ysgolion neu, cyhyd ag y bônt yn bodloni’r gofynion a restrir yn y rheoliadau, gan bersonau eraill, megis staff cynorthwyol.

Bydd y rheoliadau’n darparu’r sail statudol i gefnogi ymdrechion i leihau baich gwaith athrawon drwy alluogi ysgolion, pe byddent angen hynny neu’n ei ddymuno, i roi rôl fwy sylweddol i’w staff cynorthwyol—fel y mae llawer yn ei wneud eisoes. Byddant yn sicrhau, lle y mae gan staff cynorthwyol rôl o’r fath, bod trefniadau priodol ar gyfer eu goruchwylio yn cael eu sefydlu.

Dan y rheoliadau drafft, gall staff cynorthwyol wneud gwaith penodedig dim ond lle y maent yn ei wneudi gefnogi athrawon ac yn cael eu cyfeirio a’u goruchwylio ganddynt. Rhaid i brifathrawon fod yn fodlon hefyd fod ganddynt y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad angenrheidiol. Wrth wneud y penderfyniad proffesiynol hwnnw, gall prifathrawon ‘ystyried y cyfryw safonau ar gyfer HLTAs … y gellir eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad’.

Yr oedd y safonau arfaethedig ar gyfer cynorthwywyr dysgu graddfa uwch yng Nghymru yn rhan o’r ymarfer ymgynghori. Mae’r safonau wedi eu seilio ar y rheini a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon yn Lloegr, ac fe’u datblygwyd drwy ymgynghori â llofnodwyr y cytundeb cenedlaethol ar lwyth gwaith athrawon, a oedd yn cynrychioli prifathrawon, athrawon a staff cynorthwyol. Fe’u haddaswyd i adlewyrchu gofynion Cymru a chytunodd y llofnodwyr arnynt.

Yr oedd y mwyafrif sylweddol o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn cefnogi’r rheoliadau a’r safonau arfaethedig ar gyfer cynorthwywyr dysgu graddfa uwch fel ei gilydd. Yr wyf yn disgwyl y caiff y safonau eu cyhoeddi ar y cyd â’r rheoliadau wedi i’r rheoliadau gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad.

Cyfrifoldeb ysgolion bob amser fydd sicrhau bod lefel a chymysgedd y staff a gyflogir yn ddigonol i gwrdd ag anghenion y disgyblion. Rhaid i ysgolion beidio â defnyddio cynorthwywyr dysgu graddfa uwch yn lle athrawon a byddent yn torri’r rheoliadau pe byddent yn gwneud hynny.

Diogelwch ar Fysiau Ysgol

Nick Bourne: Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i wella diogelwch ar fysiau ysgol? (WAQ35028)

Jane Davidson: Cyfrifoldeb awdurdodau addysg lleol wrth ddarparu cludiant o’r cartref i’r ysgol yw sicrhau bod y disgyblion yn teithio’n rhesymol ddiogel. Tynnodd y ddamwain erchyll yn Ystradowen sylw at y ffaith bod camymddwyn gan blant ysgol wrth deithio ar fysiau–waeth a ydynt yn fysiau ysgol penodol neu’n wasanaethau cludiant cyhoeddus–yn gallu bod yn beryglus i gyd-deithwyr a phobl eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd. Yng ngoleuni’r digwyddiad hwn, yr wyf yn rhagweld y bydd pob awdurdod addysg lleol yn adolygu eu darpariaeth ar gyfer hyfforddiant diogelwch i ddisgyblion, ar gyfer rhoi gwybod am gamymddwyn, a mynd i’r afael ag ef, ac ar gyfer teledu cylch cyfyng neu oruchwyliaeth ar fysiau lle y nodwyd bod problem yn bodoli. Gwn fod nifer o awdurdodau eisoes wedi gwneud newidiadau ac mae consortiwm o awdurdodau addysg lleol yn datblygu fideo i atgyfnerthu’r negeseuon diogelwch i ddisgyblion. Yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion adolygu’r canllawiau a ryddheir i awdurdodau addysg lleol ac ysgolion ar gludiant i’r ysgol, i’w diweddaru a rhoi sylw priodol ynddynt i faterion diogelwch.

Mae fy swyddogion hefyd wedi cynnull grŵp cydlynu, sy’n cynnwys buddiannau addysg a chludiant o fewn Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Cymdeithas Cydlynwyr Teithio Awdurdodau Lleol a Chydffederasiwn Cludiant Teithwyr. Y bwriad yw rhannu gwybodaeth am y gwahanol fentrau sydd ar y gweill a hyrwyddo rhannu arferion da.

Mae Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad hefyd yn cynnal adolygiad polisi o gludiant i’r ysgol.

28

Yn ychwanegol at hynny, fel y soniais yn fy ymateb i’ch cwestiwn ysgrifenedig blaenorol, WAQ34711, mae gan y Mesur Cludiant i’r Ysgol drafft y potensial i ganiatáu i awdurdodau addysg lleol ddarparu cerbydau sydd â rhagofynion uwch ac i annog rhagor o ddisgyblion i fynd i’r ysgol ar y bws yn hytrach na theithio mewn ceir (sy’n llawer peryclach na bysiau neu goetsys).

Dyledion Myfyrwyr

Mick Bates: Beth yw lefel bresennol dyledion myfyrwyr yng Nghymru? (WAQ35029)

Jane Davidson: Nid yw’r mesurau cyffredinol sy’n ymwneud â chyllid myfyrwyr wedi cael eu datganoli. Dangosai’r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau (o’r arolwg o incwm a gwariant myfyrwyr), fod y ddyled ddisgwyliedig ar gyfartaledd o bob ffynhonnell i fyfyrwyr yn graddio yn 2002-03 yn £8666. Nid oes ffigurau ar wahân am fyfyrwyr o Gymru neu fyfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau yng Nghymru.

Datblygu Cerddoriaeth yn yr Ysgolion

Mick Bates: Pa gamau a gymerir i gynorthwyo datblygu cerddoriaeth yn yr ysgolion? (WAQ35030)

Jane Davidson: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dynodi £1.9 miliwn ar gyfer datblygu cerddoriaeth yn 2004-05 drwy’r gronfa ysgolion gwell. Mae hyn yn ychwanegol at y £9 miliwn a ddarparwyd gennym i gynorthwyo gwasanaethau cerddoriaeth dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r awdurdodau lleol yn rhydd i wario mwy ar gerddoriaeth os ydynt yn dymuno, gan nad oes llawer o gyfyngiadau ar drosglwyddo arian rhwng penawdau’r gronfa ysgolion gwell.

Arferion Bwyta Iachach

Lorraine Barrett: Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu arferion bwyta iachach yn yr ysgolion? (WAQ35031)

Jane Davidson: Datblygwyd amryw o raglenni cenedlaethol a chanllawiau, gan gynnwys • canllawiau a gyhoeddwyd ar gynnwys a phwysigrwydd bwyd yng nghwricwlwm ysgolion, ynghyd â safonau maethol ar gyfer ciniawau ysgol, sy’n gefn i reoliadau sy’n pennu’r cynnwys maethol gofynnol i brydau ysgol ac yn amlygu’r angen am ymagwedd ysgol gyfan • rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgolion iach, sy’n darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer cynlluniau lleol. Mae dros 900 o ysgolion yn cymryd rhan ar hyn o bryd ac mae llawer yn dewis edrych ar faeth fel gofyniad allweddol i ysgol iach • cyflwyno brecwast iach yn rhad ac am ddim, fesul tipyn, mewn ysgolion cynradd a gynhelir; • gosod peiriannau oeri dŵr o’r prif gyflenwad, gyda help Dŵr Cymru, mewn ysgolion mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf • mae gwobr curiad calon i ysgolion, sy’n gwobrwyo’r rheini sy’n ymdrin mewn ffordd gydlynol â diogelwch bwyd, dysgu am faeth ac opsiynau iach, yn cael ei diweddaru • y strategaeth faeth i Gymru, ‘Bwyd a Lles’, sy’n rhestru plant a phobl ifanc fel grŵp blaenoriaeth • adnoddau addysgu i ysgolion a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys dosbarthu CD-Rom rhyngweithiol, ‘Gimme 5’, i ysgolion uwchradd Cymru, gyda’r nod o annog disgyblion rhwng 11 a 14 i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau • prosiect peilot ar beiriannau sy’n gwerthu bwydydd iach yn sir Benfro, ac • annog yfed llaeth mewn ysgolion ar draws Cymru—yn enwedig drwy ddarparu llaeth i ddisgyblion pump i saith oed heb gost i’w rhieni/gwarcheidwaid.

Ar lefel leol, mae cynlluniau ysgolion iach ac ysgolion unigol wedi gweithio ar faterion maeth fel rhan o’u gwaith o fewn rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgolion iach:

29 • cyflwyno pecynnau bwyd iach fel opsiwn wrth ddarparu prydau ysgol • gwerthu diodydd iach o beiriannau • dros 400 o siopau ffrwythau yn rhwydwaith Cymru o ysgolion sydd â chynlluniau ysgol iach.

Lwfansau Cynhaliaeth Addysgol

Ann Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu lwfansau cynhaliaeth addysgol yng Nghymru? (WAQ35032)

Jane Davidson: Rhyddheais ddatganiad ysgrifenedig ar 27 Ebrill 2004 yn cyhoeddi bod cynllun lwfansau cynhaliaeth addysgol i’w gyflwyno yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd y lwfansau ar gael i fyfyrwyr sy’n ymgymryd ag o leiaf 12 awr yr wythnos o ddysgu dan arweiniad ar gyrsiau addysg bellach yn y chweched dosbarth mewn ysgolion, mewn colegau chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.

Mae cyrsiau cymwys yn cynnwys y rheini hyd at, ac yn cynnwys, lefel 3—AS/A2, TGAU, NVQ a chymwysterau galwedigaethol eraill. Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, gallai myfyrwyr sy’n 16 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd fod yn gymwys.

Bydd hawl wythnosol o £30 ar gael i fyfyrwyr ar aelwydydd sydd ag incwm o hyd at £19,630, £20 i’r rhai yn y band incwm £19,631 i £24,030 a £10 lle bo incwm yr aelwyd rhwng £24,031 a £30,000.

Brecwastau am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Ann Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu brecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd? (WAQ35033)

Jane Davidson: Caiff y cynllun brecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd ei gyflwyno’n raddol ar sail beilot, gan ddechrau ym mis Medi 2004 yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf naw awdurdod lleol. Y naw awdurdod lleol sy’n rhan o gam cyntaf y peilot yw sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, sir Gaerfyrddin, Caerffili, Merthyr Tudful, Caerdydd, Ynys Môn, Wrecsam a sir Ddinbych. Yn ddaearyddol, mae’r awdurdodau hyn yn cwmpasu ardal dda, sy’n golygu y gallai 11,000 o blant mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf fod yn gymwys i gymryd rhan yn y cam cyntaf hwn o’r fenter.

Bydd y dystiolaeth a gesglir yn dylanwadu ar y gwaith dilynol i gyflwyno’r rhaglen yn raddol yn holl ysgolion cynradd Cymru. Rhoddir cyfle i ysgolion cynradd yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf y 13 awdurdod lleol sy’n weddill i gymryd rhan yn ail gam y fenter o fis Medi 2005. Bydd ysgolion newydd yn dal i gael eu hychwanegu bob tymor tan dymor y gwanwyn 2007 pryd y caiff y polisi ei roi ar waith ym mhob ysgol gynradd a gynhelir sydd am gymryd rhan.

Ehangu’r Mynediad at Addysg Uwch

John Griffiths: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ehangu’r mynediad at addysg uwch yng Nghymru? (WAQ35034)

Jane Davidson: Fe’ch cyfeiriaf at yr ateb a roddais i’ch cwestiwn ysgrifenedig (WAQ32306) ar 16 Chwefror 2004.

Goruchwylio Teithiau Ysgol

William Graham: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r trafodaethau a gynhaliodd gydag undebau’r athrawon ar oruchwylio teithiau ysgol? (WAQ35035)

Jane Davidson: Nid yw undebau’r athrawon wedi codi’r mater hwn yn fy nghyfarfodydd diweddar â hwy.

30

Darparodd Llywodraeth y Cynulliad ‘Iechyd a Diogelwch Disgyblion ar Ymweliadau Ysgol: Arweiniad ar Arferion Da’ i’r ysgolion a’r awdurdodau addysg lleol ym mis Hydref 1999. Mae ar gael ar y rhyngwyd.

Mae’r canllawiau yn rhoi cyngor ymarferol i ysgolion ynghylch sut i gynllunio a threfnu ymweliadau oddi ar y safle er mwyn sicrhau diogelwch pob disgybl sy’n cymryd rhan, cyn belled ag sy’n bosibl. Nid yw’r canllawiau’n ceisio disodli canllawiau neu reoliadau lleol na phroffesiynol ond mae’n ychwanegu at y deunydd sydd ar gael o awdurdodau addysg lleol a chyrff eraill. Gwahoddir ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i arfer eu barn broffesiynol a lleol wrth gymhwyso’r egwyddorion a nodir yn y canllawiau.

Dechreuwyd ar y gwaith o adolygu’r arweiniad a rhagwelaf gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig tua diwedd eleni ar ôl ymgynghori â’r awdurdodau addysg lleol, ysgolion, undebau’r athrawon ac eraill.

Astudio Cemeg yng Nghymru

William Graham: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyfleoedd astudio cemeg mewn prifysgol yng Nghymru? (WAQ35036)

Jane Davidson: Mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff ymreolaethol sy’n llwyr gyfrifol am eu rheolaeth a’u materion academaidd—gan gynnwys y cyrsiau y maent yn eu cynnig. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ariannu gwerthoedd credyd yn ôl categori pynciau academaidd, nid fesul pwnc unigol. Nid oes gwybodaeth am y ddarpariaeth ar lefel pynciau unigol yn cael ei chadw’n ganolog. Fodd bynnag, yn ôl cronfa ddata pynciau’r Gwasanaeth Mynediad Prifysgolion a Cholegau, mae cyrsiau sy’n cynnwys cemeg ar gael ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Morgannwg.

Addysgu Anghenion Addysgol Arbennig

Laura Anne Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar addysgu anghenion addysgol arbennig yn Nwyrain De Cymru? (WAQ35037)

Jane Davidson: Mae’r gofynion cyfreithiol ynghylch addysg anghenion arbennig yn Nwyrain De Cymru yr un fath yn union â’r gofynion yng ngweddill Cymru.

Mae gan awdurdodau addysg lleol ddyletswydd statudol i sicrhau darpariaeth addysgol addas ar gyfer pob plentyn yn eu hardal, gan gynnwys plant sydd ag AAA. Fodd bynnag, materion i benderfynu arnynt yn lleol gan yr awdurdodau addysg lleol, arbenigwyr AAA ac iechyd, ysgolion a’u partneriaid statudol yw union natur y ddarpariaeth AAA sydd i’w chynnig a’r modd y bydd y ddarpariaeth honno’n cael ei threfnu a’i chyflenwi.

Er mwyn sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth ar draws Cymru, sefydlais grŵp llywio cenedlaethol ar gyfer AAA yng Nghymru, sy’n cynnwys tri swyddog datblygu sydd ar drydedd flwyddyn eu penodiadau cychwynnol o dair blynedd. Fel rhan o’u rhaglen waith barhaus, gofynais i bob un o’r swyddogion ddatblygu safonau gofynnol a chanllawiau arferion da mewn perthynas â meysydd anghenion addysgol arbennig penodol. Mae nifer o ddogfennau ymgynghori, gan gynnwys dogfennau’n ymdrin â’r gwasanaethau lleferydd ac iaith, y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy galluog a dawnus, ac addysg gynhwysol, eisoes wedi’u cyhoeddi.

Swyddi Dysgu a Gollwyd yng Nghymru

Janet Ryder: A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi tabl yn dangos fesul sir a fesul blwyddyn nifer y swyddi dysgu a gollwyd yng Nghymru er Mai 1999? (WAQ35043)

Jane Davidson: Nid oes gwybodaeth am nifer y swyddi dysgu a gollir yn cael ei chasglu’n ganolog. Dangosir nifer yr athrawon cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir yn y tabl canlynol:

31

Athrawon (1) mewn ysgolion a gynhelir ym mis Ionawr bob blwyddyn: yn cyfateb i amser llawn 1999(2) 2000 2001 2002 2003 Ynys Môn 623 641 649 658 653 Gwynedd 1,117 1,142 1,144 1,154 1,150 Conwy 671 920 945 992 1,014 Sir Ddinbych 839 862 885 896 917 Sir y Fflint 1,351 1,415 1,351 1,378 1,423 Wrecsam 1,086 1,158 1,108 1,111 1,136 Powys 1,238 1,274 1,327 1,326 1,317 Ceredigion 702 667 692 725 747 Sir Benfro 1,198 1,218 1,250 1,247 1,193 Sir Gaerfyrddin 1,759 1,791 1,807 1,779 1,704 Abertawe 1,933 1,939 2,003 1,980 2,094 Castell-nedd Port Talbot 1,309 1,379 1,333 1,335 1,360 Pen-y-bont ar Ogwr 1,276 1,271 1,293 1,374 1,329 Bro Morgannwg 1,036 1,041 1,072 1,071 1,105 Rhondda Cynon Taf 2,368 2,348 2,326 2,284 2,332 Merthyr Tudful 632 625 648 631 631 Caerffili 1,631 1,577 1,630 1,625 1,631 Blaenau Gwent 599 650 702 683 635 Tor-faen 877 901 813 924 925 Sir Fynwy 696 728 705 675 655 Casnewydd 1,384 1,442 1,474 1,476 1,382 Caerdydd 2,832 2,787 2,882 3,093 3,200 Cymru 27,157 27,774 28,040 28,416 28,533 Ffynhonnell: Datganiadau Cyfarwyddiaeth Ystadegau 3 (1) Yn cynnwys pob athro cymwysedig sydd mewn swydd mewn ysgolion a gynhelir. (2) Yn 1999 yr oedd 732 o athrawon amser llawn ychwanegol yn cael eu cyflogi mewn ysgolion a gynhelir â grant yng Nghymru.

Cyfarpar Oeri Dŵr o osodwyd yn Sir y Fflint

Carl Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl ysgolion yn sir y Fflint sydd wedi gosod cyfarpar oeri dŵr? (WAQ35045)

Carl Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl ysgolion yn sir y Fflint sy’n bwriadu gosod cyfarpar oeri dŵr? (WAQ35046)

Jane Davidson: Mae’r ysgolion canlynol mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint wedi cael cyfarpar oeri dŵr: Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol Uwchradd John Summers, St Richard Gwyn, Ysgol Uwchradd Alun, Ysgol Gynradd Sirol Bryn Gwalia, Ysgol Gynradd Sirol Croes Atti, Ysgol Gynradd Gymunedol Gwynedd, Ysgol Gynradd Gronant, Ysgol Bryn Garth, Ysgol Bryn Pennant, Ysgol , Ysgol Glan Aber, Ysgol Fabanod Shotton, Ysgol Gynradd St Ethelwold, Ysgol Iau Taliesin, Ysgol Babyddol yr Hybarch Edward Morgan, Ysgol Gatholig Santes Gwenffrewi, Ysgol Gynradd Sirol Carmel, Ysgol Fabanod Perth y Terfyn, Bagillt, Ysgol Merllyn ac Ysgol Penrhyn.

Mae hyn yn golygu bod y gwaith o osod cyfarpar wedi ei gwblhau yn sir y Fflint.

Darparu Cyfarpar Oeri Dŵr i Ysgolion

Carl Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu cyfarpar oeri dŵr i ysgolion yng Nghymru? (WAQ35047)

32 Jane Davidson: Gosodwyd cyfarpar oeri dŵr erbyn hyn ym mhob ysgol, o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, lle mae galw amdano, ar wahân i nifer fach iawn o ysgolion sydd wedi gofyn yn benodol am oedi cyn gosod y cyfarpar. Cynhaliwyd tri lansiad rhanbarthol, gyda’r un yn y Gogledd ar 5 Chwefror yn Ysgol Gynradd Wrecsam, Wrecsam.

Mae canllawiau ar ddŵr mewn ysgolion wedi cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â gosod y cyfarpar oeri dŵr. Mae’r rhain yn datgan manteision yfed dŵr yn glir iawn ac yn tynnu sylw at yr ymchwil, sy’n dangos y gwelliant mewn perfformiad meddyliol, yr amddiffyniad iechyd ychwanegol a’r manteision ehangach o ran lles.

Mae gwerthusiad manwl ar y gweill a fydd yn archwilio effeithiau’r fenter hon ar bolisïau ysgolion ac ar agweddau disgyblion tuag at yfed dŵr.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Cael Gwared ar Geir a Adawyd

Ann Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i gyflymu’r broses o gael gwared ar geir sydd wedi’u gadael? (WAQ34530)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Carwyn Jones): Nid oes pwerau gan Lywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd i leihau’r cyfnodau rhybudd i gael gwared â cheir sydd wedi’u gadael. Yn 2002, diwygiodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig reoliadau 1986 i gwtogi ar y cyfnodau rhybudd, a ddaeth i rym yn Lloegr yn unig ym mis Ebrill 2003. Nid oedd modd gwneud y newidiadau hyn yng Nghymru, gan nad oedd y pwerau heddlu o dan Ddeddf Rheoli Traffig y Ffyrdd 1984 wedi cael eu datganoli a thybiwyd y byddai caniatáu i’r heddlu a’r awdurdodau lleol weithredu ar sail cyfnodau gwaredu gwahanol yn achosi dryswch. Bydd y Gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau nesaf yn rhoi’r pwerau heddlu perthnasol o dan Ddeddfau Traffig y Ffyrdd i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac yr ydym yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn ag amseriad hynny.

Cost Gyfartalog Peint o Laeth o Ffermydd Cymru

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog restru cost gyfartalog peint o laeth o ffermydd Cymru fesul blwyddyn ers 1999? (WAQ34581)

Carwyn Jones: Mae’r wybodaeth am gost peint o laeth ar gyfartaledd o ffermydd Cymru yn gallu amrywio yn dibynnu ar yr arolwg a manylion y costau sy’n cael eu cynnwys. Mae’r wybodaeth isod wedi’i seilio ar yr adolygiad prisiau llaeth a gynhyrchir gan Farmers’ Weekly. Mae’r adolygiad prisiau llaeth yn cael ei ystyried yn ddangosydd da o bris llaeth yng Nghymru ar gyfartaledd. Codir y ffigurau o ddata a ddarperir gan gwmnïau mwy, gan nad oes gwybodaeth gyffelyb yn cael ei chasglu oddi wrth yr hufenfeydd llai. Rhoddir y ffigurau ar sail pris y litr, sef y mesur sy’n cael ei ddefnyddio gan y diwydiant.

Blwyddyn 1998-99 1999-2000 2000-01 2001-02 2002-03 Laeth Pris ar 19.64pyl 17.81pyl 17.51pyl 17.32pyl 17.12pyl Gyfartaledd

TB mewn Gwartheg

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y camau y mae’n eu cymryd i fynd i’r afael â thwbercwlosis mewn gwartheg? (WAQ34582)

Carwyn Jones: Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad bapur ymgynghori ym mis Chwefror 2004 ‘Paratoi am Strategaeth ar gyfer Twbercwlosis mewn Gwartheg ym Mhrydain Fawr’. Bydd fy

33 swyddogion yn ystyried yr ymatebion i’r ymarferiad ymgynghori hwn dros y misoedd i ddod a byddant hefyd yn ystyried yr adroddiad a gyhoeddwyd yn sgîl ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad i TB mewn gwartheg. Wedyn, byddant yn rhoi cyngor imi ynghylch pa gamau pellach y dylem eu cymryd yng Nghymru i fynd i’r afael â’r clefyd.

TB mewn Gwartheg (Lladd Moch Daear)

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog yn bwriadu estyn yr arfer o ddifa moch daear er mwyn atal TB rhag lledu mewn gwartheg? (WAQ34583)

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y cysylltiad rhwng moch daear ac ymlediad TB mewn gwartheg? (WAQ34584)

Carwyn Jones: Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth wyddonol a fyddai’n sail i bolisi difa moch daear. Pe bai’r sefyllfa hon yn newid, byddai angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu polisïau ymarferol a chost- effeithiol y gellid eu rhoi ar waith ar lawr gwlad. Nododd adroddiad yr Athro John Krebs, a gyhoeddwyd yn 1997, gysylltiad rhwng gwartheg a moch daear o ran trosglwyddo TB. Er mwyn symud argymhelliad adroddiad Krebs yn ei flaen, sefydlodd y Llywodraeth gynllun gweithredu pum pwynt, oedd yn cynnwys treial difa moch daear ar hap. Cafodd y treial difa moch daear ar hap ei sefydlu i ganfod a oedd difa moch daear yn ddull effeithiol neu gynaliadwy o reoli TB mewn gwartheg. Rhagwelir y dylai’r treial difa moch daear ar hap gael ei gwblhau yn 2006. Byddwn yn edrych yn ofalus hefyd ar ganlyniadau’r astudiaeth difa moch daear yn Iwerddon, sydd i fod i gael eu cyhoeddi’n fuan, i weld beth y gallwn ei ddysgu a’i gymhwyso i’r sefyllfa yng Nghymru.

Mastiau Tetra

Alun Ffred Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar amodau cynllunio yn ymwneud â gosod mastiau Tetra yng Nghymru? (WAQ34726) [W]

Carwyn Jones: Ceir manylion ynghylch polisi cynllunio sy’n ymwneud â’r defnydd cenedlaethol o dir, a fyddai’n cynnwys mastiau TETRA, ym Mhennod 12 Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) a ategir gan Nodyn Cyngor Technegol diwygiedig (Cymru) 19, ‘Telathrebu’ (Awst 2002).

Gall codi mastiau telathrebu, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio system TETRA, gael ei ystyried yn ddatblygiad y mae caniatâd cynllunio yn ofynnol ar ei gyfer. Gall Hawliau Datblygu a Ganiateir gynnwys gosod cyfarpar cyfathrebu electronig, gan gynnwys mastiau telathrebu hyd at uchder o 15 metr, gan weithredydd cod cyfathrebu electronig.

Nawdd Preifat ar yfer Biniau Ailgylchu

Nick Bourne: A oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cael nawdd preifat ar gyfer biniau ailgylchu, ac os oes, beth ydyw? (WAQ34791)

Carwyn Jones: Mae holl awdurdodau lleol Cymru wedi cael grant rheoli gwastraff yn gynaliadwy er 2001-02. Mae darpariaethau penodol y grant hwn yn caniatáu partneriaethau rhwng yr awdurdodau lleol a’r sector preifat, a allai gynnwys cael nawdd ar gyfer biniau ailgylchu gwastraff.

Cerbydau Amaethyddol

Lisa Francis: Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cynnig i ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio ac sy’n defnyddio’u cerbydau amaethyddol ar gyfer contractau sifil (defnydd nad yw at ddiben amaethyddol)? (WAQ34828)

Carwyn Jones: Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig canllawiau penodol yn ymwneud â’u cerbydau amaethyddol i ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio i mewn i gontractau sifil.

34

Y Diwydiant Llaeth

Brynle Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyflwr diwydiant llaeth Cymru ar hyn o bryd? (WAQ34841)

Carwyn Jones: Nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad unrhyw ran mewn trafodaethau ynghylch prisiau llaeth, ond ein strategaeth yw cynorthwyo’r diwydiant i ychwanegu gwerth at laeth yng Nghymru drwy ddatblygu cynhyrchion sy’n cystadlu ar sail ansawdd, nid pris, ac sydd wedi’u brandio’n dda. Mae Grŵp Strategaeth Llaeth y Bartneriaeth Bwyd-Amaeth (a sefydlwyd yn 1999) yn rhoi’r cynllun gweithredu ar gyfer y sector llaeth, a gynhyrchwyd ar y cyd â’r diwydiant, ar waith.

Gollwng Carthion sydd heb eu Trin

Alun Cairns: A wnaiff y Gweinidog restru’r holl safleoedd ar hyd arfordir Cymru lle y caiff carthion eu gollwng, naill ai heb eu trin neu yn sgîl triniaeth sylfaenol yn unig? (WAQ35011)

Carwyn Jones: Mae’r rhestr sydd ynghlwm, a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn manylu ar bob safle lle caiff carthion eu gollwng i forydau a dyfroedd arfordirol. Nid yw’n cynnwys gorlifoedd o garthffosydd cyfunol nad ydynt wedi’u bwriadu i ollwng ond ar ôl glaw trwm pan fod llif o ddŵr ffo, er enghraifft, oddi ar ffyrdd ac arwynebau eraill, yn fwy efallai nag y gall y carthffosydd neu’r gweithfeydd trin carthion ymdopi ag ef.

Gollyngydd Man gollwng Dŵr derbyn Arch Engineering Eiddo yn noc Casnewydd Doc y gogledd Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Associated British Ports Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Severn Sands Ltd Eiddo yn noc Casnewydd Doc y de Specialist Heavy Engineers Ltd Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg Specialist Heavy Engineers Ltd Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg

35 W R Lysacht Institute ORB Works (tanc septig) Corporation Aber afon Wysg Marine Shipping Services (UK) Ltd Eiddo yn noc Casnewydd Afon Wysg

Moorfield Ltd Eiddo yn noc Casnewydd Doc y gogledd Dŵr Cymru Cyf Gollyngfa Black Clawson, Casnewydd Aber afon Wysg Dŵr Cymru Cyf Pont ffordd Cas-gwent (yr hen A48), y Aber afon Gwy pen gogleddol Dŵr Cymru Cyf Lulworth Road, Caerllion Aber afon Wysg Dŵr Cymru Cyf Gollyngfa The Leys, Aberddawan Môr Hafren Associated British Ports Dociau Caerdydd–gollyngfa rhif 14 Doc y Frenhines Alex. Associated British Ports Swyddfa’r docfeistri, dociau Caerdydd Bae Caerdydd Associated British Ports Adeilad y Pierhead, dociau Caerdydd Bae Caerdydd Coastal Container Line Ltd Cornel D-Dd Doc y Frenhines Alexandra, Doc y Fr. Alex. Caerdydd Special Heavy Engineers Ltd Cornel D-Dd Doc y Frenhines Alexandra, Doc y Fr. Alex. Caerdydd Coastal Container Line Ltd Cornel D-Dd Doc y Frenhines Alexandra, Doc y Fr. Alex. Caerdydd Special Heavy Engineers Ltd Cornel D-Dd Doc y Frenhines Alexandra, Doc y Fr. Alex. Caerdydd Y Deiliad Fisher Containers, Ffordd David Davies Dociau’r Barri Brey Utilities Beachley Barracks, Beachley gerllaw Aber afon Gwy Cas-gwent Dŵr Cymru Cyf Gwaith trin carthion Hendy Afon Gwili Dŵr Cymru Cyf Gollyngfa fôr Aberarth Dŵr arfordirol Aberarth Dŵr Cymru Cyf Gollyngfa fôr Llansantffraid Dŵr arfordirol Llansantffraid Cyngor Sir Penfro Pier House, Hobbs Point, Doc Penfro Moryd Aberdaugleddau Elf Oil (UK) Ltd Control RM purfa Elf, Aberdaugleddau Glan Aberdaugleddau Elf Oil (UK) Ltd Docfa 1 purfa Elf, Aberdaugleddau Glan Aberdaugleddau Elf Oil (UK) Ltd Docfa 2 purfa Elf, Aberdaugleddau Glan Aberdaugleddau Elf Oil (UK) Ltd Berth 3 purfa Elf, Aberdaugleddau Glan Aberdaugleddau Associated British Ports Safle clwb cychod bach, doc Port Talbot Dociau Port Talbot Associated British Ports Dociau Port Talbot Dociau Port Talbot Associated British Ports Safle clwb cadetiaid môr, doc Port Talbot Dociau Port Talbot Associated British Ports Dociau Port Talbot Dociau Port Talbot Associated British Ports Safle coed John Nicholas Dociau Port Talbot Associated British Ports Harbwr llanw Puckey House, Port Talbot Aber afon Afan Associated British Ports Sied bloc toiledau, doc y Brenin, Doc y Brenin Abertawe Associated British Ports Dociau Abertawe–Tanc Septig y Domen Doc y Brenin Lo

36 Associated British Ports Bloc mwynderau M&E y gweithdai, Aber afon Tawe Abertawe Stena Line Ports Ltd Gweithdai’r porthladd, harbwr Dyfroedd arfordirol Abergwaun bae Ceredigion Y Cyngor Astudiaethau Maes Canolfan Faes Caer Dale, Dale Dyfroedd yr aber Avon Estates Ltd Pentref Gwyliau Gilfach yr Halen Bae Ceredigion Dŵr Cymru Cyf Gwaith Trin Rhosili Dyfroedd arfordirol–Bae Mewslade Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Cwt cwch Nantporth, Bangor Afon Menai

Dŵr Cymru Cyf Gwaith trin carthion Llanbedr Artro Dŵr Cymru Cyf Gorsaf Bwmpio Gyffin, Morfa Bach, Conwy Conwy Christian Mountain Centre Gwaith trin carthion CMC, Cei Llanbedr, Artro Dŵr Cymru Cyf Gwaith trin carthion Maentwrog Dwyryd Dŵr Cymru Cyf Gwaith trin carthion Aber, gorlif dŵr Afon Menai storm Mr V Worthy Gwesty Carreg Bran, Church Lane, Afon Menai Llanfairpwll Dŵr Cymru Cyf Gollyngfa fôr hir Bae Dŵr Cymru Cyf Gollyngfa fôr hir Abermaw Dyfroedd arfordirol Cyngor Dinas Bangor Pier Garth, Bangor Afon Menai Dŵr Cymru Cyf Gollyngaf fach Glan Conwy Moryd Conwy Dŵr Cymru Cyf Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf , Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Trefor, Caernarfon Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Aber Geirch, Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Nefyn Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Gorsaf bwmpio Turkey Shore, Caergybi, Dyfroedd arfordirol Ynys Môn Môr Iwerddon Dŵr Cymru Cyf Llys y goron a charchar Caernarfon Moryd afon Seiont Dŵr Cymru Cyf Clwb hwylio Caernarfon Moryd Afon Menai Dŵr Cymru Cyf Porthsach, Caergybi Dyfroedd arfordirol harbwr Caergybi Dŵr Cymru Cyf Ynys Wellt, Caergybi Dyfroedd arfordirol–môr Iwerddon Dŵr Cymru Cyf Glan y dŵr, Caergybi Dyfroedd arfordirol–hen Gaergybi Dŵr Cymru Cyf Moelfre Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Amlwch Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Bae Cemais Dyfroedd arfordirol–bae Cemaes Dŵr Cymru Cyf Morawelon, Caergybi Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Llaneilian, Amlwch Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Gwaith trin carthion Harlech Bae Ceredigion

37 Dŵr Cymru Cyf Rhiw, Pwllheli Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf Gwaith trin carthion (terfynol) Dyfroedd arfordirol Dŵr Cymru Cyf , Pwllheli Dyfroedd arfordirol Stena Line Ports Ltd Ynys Halen (ochr ddwyreiniol), Caergybi Dyfroedd arfordirol - bae Caergybi Canolfan Nelson, Llanfairpwll Afon Menai Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Plas Newydd, Llanfairpwll Moryd Afon Menai

Cyngor Sir Swydd Gaer Canolfan Conwy, Llanfairpwll Afon Menai Dŵr Cymru Cyf Gwaith trin dŵr gwastraff Benllech Dyfroedd arfordirol gollyngfa fôr hir gwaith trin carthion Benllech

Meini Prawf ar gyfer Derbyn Gwastraff o Ddeunydd Monolithig

Helen Mary Jones: A all y Gweinidog ddweud pryd bydd y meini prawf ar gyfer derbyn gwastraff o ddeunydd monolithig ar gael? (WAQ35038)

Carwyn Jones: Nid yw’r mater hwn wedi ei ddatganoli ar hyn o bryd, ond deallaf fod cynigion i bennu meini prawf ar gyfer derbyn gwastraff o ddeunydd monolithig yn cael eu paratoi gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar hyn o bryd ac y byddant yn destun ymgynghori pan fyddant ar gael.

Clefyd y Tafod Glas

Glyn Davies: Pa gamau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu’r ddiadell Gymreig rhag clefyd y tafod glas? (WAQ35039)

Carwyn Jones: Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw’r mater hwn ar hyn o bryd, er bod Llywodraeth y Cynulliad yn y broses o negodi trosglwyddo’r pwerau hyn dros iechyd anifeiliaid. Serch hynny, mae cyfyngiadau ar fewnforio rhywogaethau sy’n dueddol o gael y clefyd o wledydd y mae’n effeithio arnynt yn Ewrop yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Costau Llawn)

Nick Bourne: A fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu yn llawn y costau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 gan yr awdurdodau lleol i’r awdurdodau lleol hynny? (WAQ35052)

Carwyn Jones: Mewn cydnabyddiaeth o’r cyfrifoldebau ychwanegol sydd gan yr awdurdodau lleol i weithredu Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, mae adnoddau ychwanegol gwerth £2.4 miliwn y flwyddyn wedi cael eu hychwanegu at setliad refeniw llywodraeth leol er 2001-02. Yr wyf yn monitro’r defnydd a wneir o’r adnoddau hyn a pha mor ddigonol ydynt, ar y cyd â llywodraeth leol.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Costau Gweithredu’r Rhwymedigaethau)

Nick Bourne: Beth yw’r costau a amcangyfrifwyd ar gyfer pob un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â gweithredu rhwymedigaethau’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000? (WAQ35053)

Carwyn Jones: Nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad wybodaeth fanwl am y mater hwn. Fodd bynnag, yr ydym wedi darparu adnoddau ychwanegol gwerth £2.4 miliwn y flwyddyn o 2001-02 i awdurdodau priffyrdd lleol drwy setliad refeniw llywodraeth leol mewn cydnabyddiaeth o gyfrifoldebau’r awdurdodau

38 o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Caiff y swm hwn ei ddosrannu rhwng yr awdurdodau ar sail fformiwla y cytunwyd arni gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Trafodaethau â’r Awdurdodau Lleol)

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag awdurdodau lleol o ran bodloni rhwymedigaethau’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000? (WAQ35054)

Carwyn Jones: Yr wyf wedi cwrdd yn ddiweddar â’r grŵp llywio cyfleoedd gwledig, fforwm mynediad cenedlaethol Cymru a’r fforymau mynediad lleol yng ngogledd Cymru i drafod y mater hwn, ac mae llywodraeth leol wedi ei chynrychioli ar bob un o’r grwpiau hyn.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Sylwadau)

Nick Bourne: Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael mewn perthynas â bodloni rhwymedigaethau’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ac a wnaiff gyhoeddi’r sylwadau hynny? (WAQ35060)

Carwyn Jones: Nid wyf wedi derbyn unrhyw sylwadau—wrth ddweud hynny yr wyf yn golygu llythyrau yn mynegi pryder—oddi wrth awdurdodau lleol na chyrff statudol allweddol eraill sy’n ymwneud â bodloni rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Fodd bynnag, yr wyf wedi derbyn gohebiaeth eang ei chwmpas oddi wrth fforymau mynediad lleol, unigolion a Chymdeithas y Cerddwyr ynghylch gweithredu darpariaethau’r Ddeddf yn gyffredinol. Pe gallech egluro pa agwedd o’r ddeddfwriaeth hon, sy’n eang ei chwmpas, y mae gennych ddiddordeb penodol ynddi, byddaf yn ceisio trefnu i’r ohebiaeth berthnasol gael ei chyhoeddi.

Clefyd Johne Ymhlith Gwartheg

Lynne Neagle: Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i leihau nifer yr achosion o glefyd Johne ymhlith gwartheg yng Nghymru? (WAQ35061)

Carwyn Jones: Yn sgîl ymgynghoriadau â’r diwydiant a gynhaliwyd ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, mae canllawiau i reoli clefyd Johne mewn buchesi llaeth wedi cael eu paratoi ac maent i fod i gael eu cyhoeddi y mis nesaf. Mae’r canllawiau’n annog ffermwyr i roi nifer o fesurau bioddiogelwch ar waith, ochr yn ochr â datblygu cynlluniau iechyd a lles ar gyfer eu buchesi.

Dolffiniaid ym Mae Ceredigion

Nick Bourne: A oes unrhyw ymchwil wedi’i gwneud i’r nifer o ddolffiniaid ym mae Ceredigion? (WAQ35067)

Carwyn Jones: Mae’n anodd gwneud ymchwil i ganfod y nifer o ddolffiniaid gan fod hon yn rhywogaeth sy’n symud o gwmpas. Mae astudiaethau yn amcangyfrif poblogaeth o 213 o ddolffiniaid trwynbwl o fewn ardal sydd yn ymgeisio am statws ardal arbennig cadwraeth bae Ceredigion, a gallent fod un ai’n ddolffiniaid preswyl neu’n rhan o boblogaeth sy’n cwmpasu ardal ehangach. Bydd prosiectau sy’n parhau ym mae Ceredigion, gan cynnwys adnabod drwy luniau, arolygon o gychod ac o’r tir a monitro acwstig, yn fodd i gaboli’r amcangyfrifon. Mae prosiect Ewropeaidd hefyd yn dadansoddi delweddau ffotograffig o ddolffiniaid ar draws Ewrop a fydd yn rhoi syniad o ba mo bell y mae’r anifeiliaid hyn yn crwydro.

Amddiffyn Dolffiniaid ym Mae Ceredigion

Nick Bourne: Pa fesurau sydd wedi’u sefydlu i amddiffyn dolffiniaid ym mae Ceredigion? (WAQ35068)

39 Carwyn Jones: Mae bae Ceredigion yn ardal sydd yn ymgeisio am statws ardal arbennig cadwraeth o dan gyfarwyddeb cynefinoedd Ewrop. Mae nodweddion arbennig y safle morol hwn, sy’n cynnwys dolffiniaid a morfilod eraill, yn cael eu rheoli a’u diogelu drwy grŵp awdurdodau perthnasol yr ardal sydd yn ymgeisio am statws ardal arbennig cadwraeth o dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion, a chyda chymorth Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae gweithgareddau dynol—tarfu arnynt drwy sŵn ac aflonyddwch, gwrthdrawiadau a’u bod yn mynd yn sownd—wedi cyfrannu at lai o ddolffiniaid trwynbwl yn nyfroedd y DU yn gyffredinol. Mae’r cyngor, felly, yn monitro’r defnydd a wneir o godau ymddygiad ar gyfer defnyddwyr cychod. Mae pysgotwyr lleol yn osgoi gosod rhwydi mewn ardaloedd lle y gwelir dolffiniaid, mewn ymateb i ymchwil a gyflwynwyd i gymdeithas y pysgotwyr lleol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru hefyd yn datblygu prosiectau partneriaeth eraill yn y bae i helpu i amddiffyn y boblogaeth forfilod.

Trwyddedu Ceffylau

Leighton Andrews: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar oblygiadau deddfwriaeth yr UE ar drwyddedu ceffylau ar gyfer dyfodol merlod mynydd Cymru? (WAQ35072)

Carwyn Jones: Mae’n ofynnol yn ôl penderfyniad 2000/68 y Comisiwn Ewropeaidd i bob ceffyl gael pasport. Bydd yn drosedd, felly, gadw unrhyw geffyl yng Nghymru heb basport. Mae pob merlen fynydd hanner gwyllt go-iawn yng Nghymru wedi cael ei chofrestru ar hyn o bryd ac mae pasport neu ddogfennu cofrestru wedi cael eu darparu ar eu cyfer. Gellir uwchraddio’r dogfennau hyn i basport llawn drwy Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid

Cyfrifon Adnoddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2002-03 (Rhwymedigaethau o dan Gontract)

Alun Cairns: A wnaiff y Gweinidog amlinellu union natur y rhwymedigaethau posibl o dan gontract, gwerth £15 miliwn, a nodwyd yng nghyfrifon adnoddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2002-03? (WAQ34541)

Y Gweinidog Cyllid (Sue Essex): Mae’r £15 miliwn yn cynnwys y canlynol: • £1 miliwn–atebolrwydd posibl am gapio’r siafft mwyngloddio yn Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru pe bai’n cau; • £11 miliwn–atebolrwydd posibl am ad-dalu grant i gronfa dreftadaeth y loteri pe bai Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn cau; • £3 miliwn–atebolrwydd posibl am ddirwyn Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd i ben.

Agoriad Swyddogol Adeilad Newydd y Cynulliad

Nick Bourne: Pa gynlluniau sydd ar waith i nodi agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad, a beth yw’r costau disgwyliedig? (WAQ34589)

Sue Essex: Mater i Wasanaeth Seneddol y Cynulliad fydd hyn a bydd, felly, yn dod o fewn cylch gwaith Pwyllgor y Tŷ.

Cost Dybiedig Adeilad Newydd y Cynulliad

Nick Bourne: Beth yw’r ffigurau diweddaraf ar gyfer cost dybiedig adeilad newydd y Cynulliad, gan gynnwys TAW, y gosodiadau a’r ffitiadau? (WAQ34590)

Sue Essex: Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb i OAQ34312.

40 Adeilad Newydd y Cynulliad (Amserlen y Cytunwyd arni gyda’r Contractwyr)

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynt y gwaith o gwblhau adeilad newydd y Cynulliad yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni â’r contractwyr? (WAQ34591)

Sue Essex: Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda yn unol â’r rhaglen ac, ar hyn o bryd, mae’n ymddangos y dylai fod yn barod erbyn y dyddiad cwblhau y cytunwyd arno. Mae cwblhad cychwynnol y gwaith adeiladu i fod i ddigwydd erbyn mis Mai 2005, a mis Awst 2005 yw’r dyddiad cwblhau terfynol ar ôl i’r holl adnoddau gael eu gosod yn yr adeilad.

Cynllun Lliniaru Llifogydd yn Stryd Mwrog yn Rhuthun

Brynle Williams: A yw’r Gweinidog neu ei swyddogion wedi cael trafodaethau gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch cynllun lliniaru llifogydd yn Stryd Mwrog yn Rhuthun? (WAQ34747)

Sue Essex: Nid wyf fi na’m swyddogion wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch materion yn ymwneud â chynllun lliniaru llifogydd Stryd Mwrog. Materion i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ddelio â nhw yn y lle cyntaf yw’r rhain.

Gwella Atebolrwydd Awdurdodau Lleol

Owen John Thomas: Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd yn ddiweddar i wella atebolrwydd awdurdodau lleol? (WAQ34748)

Sue Essex: Gydag etholiadau ar 10 Mehefin, mae’r awdurdodau lleol yn llwyr atebol i’r etholwyr. Yr wyf wedi datgan y byddaf yn cyhoeddi cytundebau polisi, y mae pob awdurdod yn eu negodi gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Byddaf hefyd yn ystyried argymhellion yr adolygiad sydd ar y gweill gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar hyn o bryd i weithrediad y strwythurau rheoli gwleidyddol newydd o fewn llywodraeth leol.

Etholiadau Llywodraeth Leol

William Graham: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r fenter a roddwyd ar waith i sicrhau bod cymaint ag y bo modd yn cymryd rhan yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mehefin 2004? (WAQ34749)

Sue Essex: Penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfuno’r etholiadau lleol ac Ewropeaidd, sy’n golygu nad oes disgwyl i bleidleiswyr droi allan ddwywaith mewn pum wythnos, yn rhannol yn y gobaith y bydd hynny’n annog pobl i fynd i bleidleisio yn etholiadau mis Mehefin 2004. Mae’r Prif Weinidog wedi cefnogi’r ymgyrch ‘Get the Votes Out’ a lansiwyd gan y Comisiwn Etholiadol a’r Sefydliad Dinasyddiaeth. Yn ogystal, trefnodd swyddogion seminar, mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol, ar gyfer awdurdodau lleol ac eraill i rannu’r arferion gorau o ran trefniadau etholiadol ac i hyrwyddo etholiad y gall pawb gymryd rhan ynddo. Yr ydym hefyd yn cefnogi ymgyrch barhaus Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i godi proffil y gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol ac ymwybyddiaeth pobl ohonynt. Mae’r holl gynlluniau hyn wedi’u bwriadu i ategu ymgyrch y Comisiwn Etholiadol i hyrwyddo etholiadau.

Corff i Gynrychioli’r Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru

Ann Jones: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch sefydlu un corff i gynrychioli cynghorau tref a chymuned yng Nghymru? (WAQ34750)

Sue Essex: Yr wyf wedi cwrdd ddwywaith â chynrychiolwyr gweithgor Un Llais i sefydlu un corff i gynrychioli cynghorau tref a chymuned, ac yr oeddwn yn falch o siarad yn ei gyfarfod cyffredinol cyntaf ar 24 Ebrill 2004. Yr wyf hefyd wedi cael sawl cyfarfod gydag Aelodau Cynulliad sydd â diddordeb yn y mater.

41

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darpariaeth Gofal Cartref

Rhodri Glyn Thomas: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bwy yn y Cynulliad sydd wedi cyfarwyddo awdurdodau lleol Cymru i godi isafswm o £5 yr awr a £100 yr wythnos am ddarpariaeth gofal cartref? (WAQ34192)

Rhodri Glyn Thomas: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfarwyddebau’r Cynulliad i awdurdodau lleol Cymru ynghylch cost gofal cartref? (WAQ34193)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Jane Hutt): Nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i ddweud wrth gynghorau faint y dylent ei godi am eu gwasanaethau gofal cartref. Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â’r amrywiadau mawr rhwng awdurdodau lleol a’i gilydd o ran eu harferion codi tâl, yr wyf wedi cyhoeddi canllawiau statudol, a oedd i gael eu gweithredu erbyn 1 Ebrill 2004, sy’n sefydlu’r egwyddorion y dylai awdurdodau lleol eu dilyn wrth ddyfeisio eu systemau codi tâl.

Grwpiau Cydweithredol Meddygon Teulu

Kirsty Williams: A wnaiff y Gweinidog ganiatáu i grwpiau cydweithredol meddygon teulu megis Shropdoc ymdrin yn uniongyrchol â chleifion yn ôl blaenoriaeth? (WAQ34197)

Jane Hutt: Y bwrdd iechyd lleol priodol sy’n gyfrifol am benderfynu a yw darparwyr gwasanaeth yn briodol i flaenoriaethu cleifion. Fel rhan o’r gofynion ar fyrddau iechyd lleol i ddarparu gwasanaethau y tu allan i oriau arferol, bydd gofyn iddynt fonitro ansawdd yr holl wasanaethau sy’n cael eu darparu yn rheolaidd. Bydd y byrddau iechyd lleol yn disgwyl i unrhyw ddarparwr gwasanaeth weithredu i fonitro safonau’n rheolaidd gan ddefnyddio systemau sy’n caniatáu ar gyfer penderfyniadau clinigol diogel.

Galwadau y Tu Allan i Oriau Arferol

Kirsty Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddefnyddio Galw Iechyd Cymru i ymdrin â galwadau y tu allan i oriau arferol yn sgîl cyflwyno’r contract newydd i feddygon teulu? (WAQ34198)

Jane Hutt: Fel rhan o’r broses a ddefnyddir gan y byrddau iechyd lleol i benderfynu ar y darparwyr mwyaf priodol y tu allan i oriau arferol, mae Galw Iechyd Cymru wedi nodi y byddai mewn sefyllfa i gyflenwi gwasanaethau i nifer o fyrddau iechyd lleol. Mae’r byrddau iechyd lleol wrthi’n asesu darparwyr posibl ar hyn o bryd a byddant yn cyhoeddi eu penderfyniadau yn fuan. Byddwn yn rhagweld y bydd Galw Iechyd Cymru yn cyfrannu tuag at ddarparu gwasanaethau ymdrin â galwadau a blaenoriaethu nifer o fyrddau iechyd lleol.

Canolfan Gofal Preswyl Rhoserchan

Lisa Francis: Pam y mae’r Gweinidog wedi gwrthod ymweld â chanolfan gofal preswyl Rhoserchan i bobl â phroblemau’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol? (WAQ34199)

Lisa Francis: A yw’r Gweinidog yn bwriadu ymweld â Rhoserchan yn ystod y tri mis nesaf? (WAQ34216)

Jane Hutt: Cefais wahoddiad ym mis Awst 2003 i ymweld â chartref gofal Rhoserchan i drafod materion yn ymwneud â chofrestriad y cartref. Materion gweithredol i Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yw’r rhain. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dirprwyo cyfrifoldeb gweithredol llawn am gamau a phenderfyniadau rheoleiddio i Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru ac, felly, byddai wedi bod yn amhriodol

42 imi gwrdd â chynrychiolwyr y cartref. Yr wyf wedi cael gwahoddiad pellach yn ddiweddar i gwrdd â chyfarwyddwyr Rhoserchan ac yr wyf yn ystyried y cais hwn.

Cynllun Gofal a Thrwsio

Val Lloyd: A wnaiff y Gweinidog fanylu ar sut y bydd yr adnoddau ariannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i’r cynllun gofal a thrwsio o fantais i fudiadau gofal a thrwsio yn ardal Abertawe? (WAQ34207) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio.

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio (Edwina Hart): Bydd y £234,318 a ddyrannwyd i’r cynllun gofal a thrwsio yn Abertawe ar gyfer 2004-05 yn caniatáu i’r corff barhau i chwarae rhan allweddol ym maes gofal cymdeithasol drwy ganiatáu i bobl hŷn a’r rhai sydd ag anableddau aros yn eu cartrefi eu hunain cyn hired ag sy’n ymarferol.

Rhestrau Aros ar gyfer Triniaeth Cleifion Mewnol

Jonathan Morgan: Faint o bobl sy’n aros mwy na naw mis am driniaeth cleifion mewnol yng Nghymru? (WAQ34214)

Jane Hutt: Ddiwedd mis Mawrth 2004, yr oedd 15,787 o gleifion wedi bod yn aros dros naw mis am driniaeth fel cleifion mewnol neu achosion dydd. Gellir rhannu’r ffigur hwn i 11,486 yn aros am driniaeth fel cleifion mewnol a 4,301 yn aros am driniaeth fel achosion dydd.

Rhestrau Aros ar gyfer Triniaeth Cleifion Allanol

Jonathan Morgan: Faint o bobl sy’n aros mwy na naw mis am driniaeth cleifion allanol yng Nghymru? (WAQ34215)

Jane Hutt: Ddiwedd mis Mawrth 2004, yr oedd 39,283 o bobl wedi bod yn aros dros naw mis am apwyntiad cyntaf fel cleifion allanol yng Nghymru.

Cartrefi Nyrsio sydd wedi Cau

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog restru enwau a niferoedd yr holl gartrefi nyrsio sydd wedi cau yng Nghymru ers mis Mai 1999? (WAQ34542)

Jane Hutt: Mae newidiadau i’r diffiniad cyfreithiol o gartrefi gofal yn Neddf Safonau Gofal 2000, datblygiadau gwasanaeth megis datgofrestru sydd wedi digwydd o ganlyniad i ddatblygiadau tai â chymorth a newidiadau yn y ffordd y caiff cartrefi bach eu cyfrif, yn golygu nad yw gwybodaeth o’r math hwn yn ddibynadwy. Pan gaiff cartref ei werthu, mae’n cau yng ngolwg y gyfraith, ond efallai y bydd yn parhau i ddarparu’r un gwasanaeth o dan berchenogaeth newydd. Gan gadw’r ffactorau arwyddocaol hyn mewn cof, darperir y ffigurau canlynol er gwybodaeth ichi:

Nid oes ffigurau am gartrefi nyrsio ar gael am 1999 oherwydd problemau yn ymwneud ag ansawdd y data.

• Ar 31 Mawrth 2000, datganodd yr awdurdodau iechyd fod 385 o gartrefi nyrsio cofrestredig yng Nghymru–defnyddir y ffigurau hyn fel amcangyfrif ar gyfer mis Mawrth 1999. • Ar 31 Mawrth 2004, yr oedd 317 o gartrefi gofal i oedolion wedi cael eu cofrestru gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru i ddarparu gofal nyrsio yng Nghymru. Nodiadau: nid yw’r ffigurau sy’n cyfeirio at 1 Ebrill 1999 yn cynnwys cartrefi bach gyda llai na phedwar gwely. Nid yw enwau’r cartrefi a gaeodd cyn 1 Ebrill 2002, pan ddaeth ASGC yn rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn weithredol, ar gael.

43 Caeodd y 10 cartref gofal i oedolion isod a oedd wedi eu cofrestru i ddarparu gofal nyrsio, h.y. rhoesant y gorau i ddarparu gofal, rhwng 1 Ebrill 2002 a 31 Mawrth 2004: • Bromley Drive, Caerdydd • cartref nyrsio a phreswyl Plas Menai, Llanfairfechan • cartref nyrsio Plas-y-Dyffryn, ger Rhuthun • Groes Llwyd, Abergele • Sister Nightingale’s, Caerdydd • cartref nyrsio Rydal House, Llandudno • cartref preswyl Penoyre, Aberhonddu • St Anne’s, Abertawe • Granville House, Abertawe • Valley View, Wrecsam Dros yr un cyfnod, rhoddodd tri chartref gofal arall y gorau i ddarparu gofal nyrsio er eu bod yn dal wedi eu cofrestru i ddarparu gofal personol, a datgofrestrodd naw cartref a chael eu hailgofrestru wedyn am eu bod wedi newid dwylo.

Cyfanswm y Gwelyau Ysbyty yng Nghymru

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cyfanswm y gwelyau ysbyty yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 1999? (WAQ34543)

Jane Hutt: Mae’r tabl canlynol yn dangos nifer y gwelyau bob blwyddyn:

Y gwelyau sydd ar gael bob dydd ar gyfartaledd Cyfanswm Aciwt a geriatrig Mamolaeth Iechyd meddwl (1) 1999-2000 14,723 11,170 627 2,927 2000-01 14,564 11,120 602 2,841 2001-02 14,434 11,079 604 2,752 2002-03 14,265 11,028 580 2,656

Ffynhonnell: Ystadegau defnydd o welyau ysbyty, QSI (1) Yn cynnwys anableddau dysgu.

Damweiniau ar y Ffordd (Meddygon Teulu)

Nick Bourne: Pa ddarpariaeth sydd ar waith i sicrhau bod meddygon teulu yn cyrraedd damweiniau ar y ffordd o fewn cyfnod rhesymol mewn ardaloedd anghysbell a gwledig? (WAQ34544)

Jane Hutt: Y gwasanaethau brys sy’n ymdrin â’r mwyafrif o ddamweiniau ar y ffordd. Anaml y mae meddygon teulu gwledig yn ymwneud â nhw ac eithriad yw iddynt fynd i wasanaethu ar safle damwain yn hytrach na’r rheol. Mae’n rhaid i feddyg teulu ddarparu gofal meddygol brys oherwydd damwain neu argyfwng yn ardal ei bractis, o fewn oriau craidd, os gwneir cais am hynny. Nid oes unrhyw amserlen benodol wedi’i phennu yn eu contract i ddweud pa mor gyflym y mae’n rhaid iddynt gyrraedd safle damwain, gan y bydd meddyg teulu yn ymateb cyn gyflymed â phosibl gan gymryd ei holl ymrwymiadau clinigol eraill i ystyriaeth.

Lleihau Amserau Aros Mewn Ysbytai

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi cyflawni’i nod o ostwng amserau aros mewn ysbytai islaw’r lefel ym mis Mai 1999? (WAQ34545)

Jane Hutt: Dengys y ffigurau diweddaraf fod nifer y cleifion sy’n aros dros 18 mis am driniaeth fel cleifion mewnol neu achosion dydd wedi disgyn islaw lefel mis Mai 1999. Mae nifer y cleifion

44 mewnol/achosion dydd a chleifion allanol sy’n aros am driniaeth wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Mae’r wybodaeth berthnasol i’w gweld yn y tabl sydd ynghlwm.

Cleifion mewnol / achosion dydd Cleifion allanol Mai 1999 Mawrth 2004 Mai 1999 Mawrth 2004 Cyfanswm sy’n aros 66,947 74,684 145,177 219,559 Yn aros dros chwe mis 23,927 26,316 25,676 68,845 Yn aros dros 12 mis 7,200 8,457 6,383 21,626 Yn aros dros 18 mis 2,525 1,401 1,014 6,204

Presgripsiynau’r GIG Am Ddim

Nick Bourne: Faint o bobl sydd eisoes yn cael presgripsiynau’r GIG am ddim yng Nghymru? (WAQ34546)

Jane Hutt: Mae’n anodd darparu manylion am y nifer o bobl sy’n cael presgripsiynau am ddim yng Nghymru, ond gallaf gadarnhau bod presgripsiynau sy’n cael eu heithrio rhag talu i gyfrif am ryw 88 y cant o’r holl eitemau a roddir ar bresgripsiwn—93 y cant os cynhwysir tystysgrifau rhag-dalu.

Amcangyfrifwn fod tua 50 y cant o’r boblogaeth wedi’i heithrio o’r taliadau. Mae eithriadau presgripsiwn yn cynnwys i rai dan 25 oed, i bobl sy’n hŷn na 60, eithriadau meddygol, a’r rhai ar incwm isel. Yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Hydref 2003, cyhoeddais gynigion ar gyfer dileu taliadau presgripsiwn yn raddol. Bydd holl bobl Cymru yn gallu manteisio ar bresgripsiynau am ddim erbyn 2007. Bydd presgripsiynau am ddim yn cael eu cyflwyno’n raddol, gyda’r cam cyntaf yn dod i rym ar 1 Hydref 2004, pan welir gostyngiad o £1 yn y pris. Bydd hynny’n golygu mai pris presgripsiwn yng Nghymru fydd £5, o’i gymharu â £6.30 yn Lloegr. Bydd pris tystysgrif flynyddol hefyd yn gostwng, i £71.83, o’i gymharu â £90.40 yn Lloegr.

Bydd y diwygiadau hyn yn mynd law yn llaw â mesurau eraill, fel mwy o rôl i fferyllwyr er mwyn manteisio i’r eithaf ar eu sgiliau a’u harbenigedd. Yr ydym eisoes wedi ymgynghori â’r proffesiwn meddygol a’r proffesiwn fferyllol ar y ffordd ymlaen, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Arian a Wariwyd ar Weinyddu’r GIG

Nick Bourne: Faint o arian a wariwyd ar weinyddu’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34547)

Jane Hutt: Mae’r wybodaeth i’w gweld yn y tabl isod. £000 1999-2000 188 2000-01 200 2001-02 229 2002-03 245 Ffynhonnell: Cyfrifon blynyddol ymddiriedolaethau’r GIG a’r awdurdodau iechyd 1999-2000 i 2002-03. Nodyn: Mae gweinyddiaeth wedi’i ddiffinio fel y swm sy’n cael ei wario ar gyflogau staff gweinyddol a chlerigol, uwch reolwyr ac aelodau byrddau.

Arian a Wariwyd ar Ofalu am Gleifion yn y GIG

Nick Bourne: Faint o arian a wariwyd ar ofalu am gleifion yn y GIG yng Nghymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34548)

Jane Hutt: Mae’r wybodaeth i’w gweld yn y tabl isod. £biliwn

45 1999-2000 2.030 2000-01 2.243 2001-02 2.471 2002-03 2.877 Ffynhonnell: Cyfrifon blynyddol ymddiriedolaethau’r GIG a’r awdurdodau iechyd 1999-2000 i 2002-03. Nodyn: Mae gofalu am gleifion wedi’i ddiffinio fel gwariant ymddiriedolaethau’r GIG ar wasanaethau trin cleifion, h.y. heb gynnwys gwasanaethau cymorth megis cynnal a chadw adeiladau a chostau hyfforddi, ynghyd â gwariant yr awdurdodau iechyd ar wasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac uwchradd.

Nifer y Meddygon a Gyflogwyd yn y GIG yng Nghymru

Nick Bourne: Faint o feddygon a gyflogwyd yn y GIG yng Nghymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34549)

Jane Hutt: Mae’r tabl canlynol yn dangos faint o feddygon oedd yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru (1).

Nifer Cyfwerth ag amser llawn (2) 1999 4,202 3,570.4 2000 4,341 3,681.9 2001 4,312 3,695.8 2002 4,561 3,951.8 Ffynhonnell: Cyfrifiad blynyddol staff meddygol a deintyddol. (1) Pob meddyg (cyfrif pennau) sy’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y GIG mewn gwasanaethau meddygol ysbyty a chymuned/iechyd cyhoeddus (heb gynnwys staff locwm). Nid yw’n cynnwys ymarferwyr meddygol cyffredinol (nad ydynt yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG). (2) Cyfwerth ag amser llawn.

Nifer yr Ymgynghorwyr a Gyflogwyd Mewn Ysbytai gan y GIG

Nick Bourne: Faint o ymgynghorwyr a gyflogwyd mewn ysbytai gan y GIG yng Nghymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34550)

Jane Hutt: Mae’r tabl canlynol yn dangos faint o ymgynghorwyr oedd yn cael eu cyflogi mewn ysbytai gan y GIG yng Nghymru (1).

Cyfanswm Meddygol Deintyddol Nifer CALl (2) Nifer CALl (2) Nifer CALl (2) 1999 1,378 1,220.7 1,326 1,182.4 52 38.3 2000 1,441 1,250.5 1,386 1,211.7 55 38.8 2001 1,471 1,312.1 1,422 1,273.2 49 38.9 2002 1,526 1,376.9 1,474 1,335.8 52 41.1 Ffynhonnell: Cyfrifiad blynyddol staff meddygol a deintyddol. (1) Heb gynnwys staff locwm. (2) Cyfwerth ag amser llawn.

Nifer y Nyrsys a Gyflogwyd yn y GIG

Nick Bourne: Faint o nyrsys a gyflogwyd yn y GIG yng Nghymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34551)

Jane Hutt: Mae’r tabl canlynol yn dangos faint o nyrsys oedd yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru (1).

46 Yr holl staff yn y grŵp nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr Nyrsys a bydwragedd iechyd cymwysedig Nifer CALl (2) Nifer CALl (2) 1999 32,708 23,972.7 22,626 17,397.0 2000 35,169 24,313.6 24,127 17,671.9 2001 35,521 24,750.5 24,439 18,088.1 2002 37,378 25,506.3 25,821 18,766.1 Ffynhonnell: Cyfrifiad blynyddol staff anfeddygol. (1) Heb gynnwys nyrsys sy’n cael eu cyflogi gan ymarferwyr meddygol cyffredinol. (2) Cyfwerth ag amser llawn.

Nifer o Bobl sy’n Preswylio mewn Ysbytai Anabledd Hirdymor

Nick Bourne: Faint o bobl sy’n preswylio ar hyn o bryd mewn ysbytai anabledd hirdymor yng Nghymru? (WAQ34552)

Jane Hutt: Mae’r ffigurau diweddaraf yn cyfeirio at 31 Mawrth 2003. Ar y dyddiad hwnnw, yr oedd 234 o bobl yn preswylio mewn ysbytai ac unedau i bobl ag anableddau dysgu. Dylai’r ffigurau ar gyfer 31 Mawrth 2004 fod ar gael yn fuan. Yn sgîl cau Ysbyty Hensol yn ddiweddar a’r rhaglenni ailsefydlu yr ydym yn parhau i’w rhoi ar waith, yr wyf yn disgwyl gostyngiad sylweddol pellach pan fydd ffigurau 31 Mawrth 2004 ar gael.

Meddygon dan Hyfforddiant

Nick Bourne: Beth oedd canran y cynnydd neu’r gostyngiad yn nifer y meddygon a oedd yn hyfforddi ar ddiwedd 2003-04? (WAQ34553)

Jane Hutt: Mae nifer y myfyrwyr gradd meddygol yng Nghymru wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn er 1999. Yn 1999-2000, yr oedd 985 o fyfyrwyr gradd meddygol. Erbyn 2002-03, yr oedd y nifer wedi cynyddu i 1,220. Ar hyn o bryd mae 1,320 o fyfyrwyr gradd meddygol yn y flwyddyn academaidd hon.

Fel canran, mae hyn yn golygu bod nifer y myfyrwyr gradd meddygol yng Nghymru yn 2003-04 wedi cynyddu 34 y cant o’i gymharu â llinell sylfaen 1999-2000. Mae’r niferoedd o’u cymharu â 2002-03 yn dangos cynnydd o 8 y cant.

Nifer y Nyrsys dan Hyfforddiant

Nick Bourne: Beth oedd canran y cynnydd neu’r gostyngiad yn nifer y nyrsys a oedd yn hyfforddi ar ddiwedd 2003-04? (WAQ34554)

Jane Hutt: Mae nifer y nyrsys sy’n hyfforddi wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn er 1999. Yn 1999- 2000, yr oedd 2,609 o nyrsys dan hyfforddiant. Erbyn 2002-03, yr oedd nifer y nyrsys dan hyfforddiant wedi cynyddu i 3,413. Wrth inni nesau at ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol, 2003-04, mae’r nifer sy’n hyfforddi wedi cynyddu ymhellach i 3,669. Ar ffurf canran, mae nifer y nyrsys dan hyfforddiant yn 2003-04 yn dangos cynnydd o 29 y cant o’i gymharu â’r nifer cyfatebol yn 1999-2000 a chynnydd o 7 y cant o’i gymharu â’r nifer yn 2002-03.

Lefelau Staffio (Adran y Gweinidog)

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol restru’r lefelau staffio yn ei hadran bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34555)

Jane Hutt: Yn wyneb y newidiadau sylweddol ym mhortffolios y Gweinidogion a’r strwythurau staffio, nid yw’n bosibl cynhyrchu data manwl am lefelau staffio. Mater i’r Ysgrifennydd Parhaol yw hwn ac yr wyf wedi gofyn felly iddo ysgrifennu atoch gyda data dangosol bras.

47

Trosiant Staff (Adran y Gweinidog)

Nick Bourne: Beth yw canran trosiant staff yn adran y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34556)

Jane Hutt: Yn wyneb y newidiadau sylweddol ym mhortffolios y Gweinidogion a’r strwythurau staffio, nid yw’n bosibl cynhyrchu data manwl am y trosiant. Mater i’r Ysgrifennydd Parhaol yw hwn ac yr wyf wedi gofyn felly iddo ysgrifennu atoch gyda data dangosol bras.

Amser Aros am Driniaeth Gardiaidd fel Claf Allanol

Nick Bourne: Am faint y mae cleifion allanol yn aros ar gyfartaledd am driniaeth gardiaidd yng Nghymru, a sut y mae hynny’n cymharu â Lloegr? (WAQ34557)

Jane Hutt: Nid yw pa mor hir y mae’n rhaid aros ar gyfartaledd am apwyntiad fel claf allanol cardiaidd yn wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n ganolog. Fodd bynnag, ar ddiwedd mis Mawrth 2004, yr oedd tri chlaf yng Nghymru wedi bod yn aros dros chwe mis am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Nid oes gennym ddata cymaradwy am Loegr.

Amser Aros am Driniaeth Orthopedig fel Claf Allanol

Nick Bourne: Am faint y mae cleifion allanol yn aros ar gyfartaledd am driniaeth orthopedig yng Nghymru, a sut y mae hynny’n cymharu â Lloegr? (WAQ34558)

Jane Hutt: Nid yw pa mor hir y mae’n rhaid aros ar gyfartaledd am apwyntiad fel claf allanol orthopedig yn wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n ganolog. Fodd bynnag, ar ddiwedd mis Mawrth 2004, yr oedd 2,885 o bobl wedi bod yn aros dros 18 mis am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Nid oes gennym ddata cymaradwy am Loegr.

Amser Aros am Driniaeth Cataractau fel Claf Allanol

Nick Bourne: Am faint y mae cleifion allanol yn aros ar gyfartaledd am driniaeth cataractau yng Nghymru, a sut y mae hynny’n cymharu â Lloegr? (WAQ34559)

Jane Hutt: Nid yw pa mor hir y mae’n rhaid aros am driniaeth cataractau yn wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n ganolog. Fodd bynnag, ar ddiwedd mis Mawrth 2004, yr oedd 17 person wedi bod yn aros dros 18 mis am apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn arbenigedd offthalmoleg. Nid oes gennym ddata cymaradwy am Loegr.

Swyddi Gwag i Feddygon Teulu

Nick Bourne: Faint o swyddi gwag i feddygon teulu a fu yng Nghymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34560)

Jane Hutt: Cyn 2002, yr unig ddata sydd ar gael yw’r ‘General Practitioner Recruitment, Retention and Vacancy Survey for England and Wales’ gan yr Adran Iechyd. Nid cynhyrchu ystadegau oedd ei nod ond, yn hytrach, edrych ar faterion recriwtio. Mae data’r pwyllgor swyddi meddygol gwag yn dangos bod 58.5 o swyddi meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yn wag ym mis Hydref 2002 a bod 86.75 o swyddi’n wag ym mis Medi 2003.

48 Nifer o Gleifion a gafodd Driniaeth o dan y Cynllun Ail Gynnig

Nick Bourne: Faint o gleifion o Gymru a gafodd driniaeth o dan y cynllun ail gynnig ers ei lansio? (WAQ34561)

Jane Hutt: Dechreuodd y cynllun ail gynnig ar 1 Ebrill 2004, ac nid oes ffigurau ar gael hyd yn hyn. Fodd bynnag, o dan y fenter cyn-ail-gynnig a fu’n rhedeg rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2004, cynigiwyd y cyfle i dros 3,000 o gleifion gael eu triniaeth mewn ysbyty arall. O’r rhain, derbyniodd 1,050 o gleifion a chawsant eu trin un ai’n lleol neu mewn ysbyty arall yng Nghymru neu Loegr. Bydd 150 o gleifion eraill, a gyfeiriwyd i’r cynllun, yn cael eu gweld ym mis Ebrill.

Penodi ‘Supremo Iechyd’

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch penodi ‘supremo iechyd’ i fynd i’r afael â blocio gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru? (WAQ34562)

Jane Hutt: Nid oes penodiad o’r fath wedi cael ei wneud ac ni fwriedir gwneud hynny yng Nghymru.

Prinder Deintyddion y GIG

Nick Bourne: Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i fynd i’r afael â phrinder deintyddion y GIG? (WAQ34563)

Jane Hutt: Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnig cymorth ariannol i ddeintyddion sy’n barod i ymrwymo i’r GIG dros gyfnod ac sy’n barod i sefydlu practisiau newydd, neu i ehangu practisiau sy’n bodoli’n barod, drwy fenter ddeintyddol Cymru. Mae’r fenter wedi llwyddo i ddenu deintyddion newydd i’r rhannau hynny o Gymru lle mae eu hangen fwyaf. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio hefyd gyda’r byrddau iechyd lleol i sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud o’r cynlluniau sydd wedi cael eu sefydlu er mwyn denu deintyddion i’r ardaloedd lle mae prinder.

Yn y tymor hwy, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sicrhau darpariaeth yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2003 i roi pwerau i’r Cynulliad i lunio rheoliadau yn ymwneud â gwasanaethau deintyddol sylfaenol. Bydd y newidiadau hyn yn hwyluso’r ffordd i ddiwygio gwasanaethau deintyddol y GIG ac yr ydym yn ystyried cynigion i gyflwyno contract deintyddiaeth newydd er mwyn creu amgylchedd mwy deniadol i ymarferwyr ac i sicrhau gwell mynediad at wasanaethau. Gwneir datganiad yn fuan i egluro sut y byddir yn gweithredu yng Nghymru.

Amserau Aros mewn Adrannau Damweiniau ac Argyfwng

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog restru nifer yr achlysuron y bu’n rhaid i gleifion aros am bedair awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac argyfwng yn ysbytai Cymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34564)

Jane Hutt: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar y sail a geisir.

Cyfnod Hiraf yn Aros ar Droli mewn Ysbyty

Nick Bourne: Beth yw’r cyfnod hiraf y bu’n rhaid i glaf aros ar droli mewn ysbyty yng Nghymru ers 1999? (WAQ34565)

Jane Hutt: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar y sail a geisir.

49 Deintyddion a Gyflogwyd gan y GIG

Nick Bourne: Faint o ddeintyddion a gyflogwyd gan y GIG yng Nghymru bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34566)

Jane Hutt: Mae ymarferwyr deintyddol cyffredinol, sef deintyddion teuluol traddodiadol y stryd fawr sy’n darparu triniaeth ddeintyddol o dan y GIG, yn ymarferwyr hunangyflogedig annibynnol sy’n rhydd i ddewis a ydynt am neilltuo cyfran o’u hamser gwaith o dan gontract i ddarparu triniaeth GIG ar ran y byrddau iechyd lleol. Maent yn rhydd hefyd i benderfynu faint o gleifion, a pha gleifion, y maent am eu cael ar eu rhestr GIG. O ganlyniad, gallant ddarparu gofal GIG yn unig, gwaith y tu allan i’r GIG yn gyfangwbl neu, fel sy’n gyffredin, gallant ddarparu cymysgedd o ofal deintyddol GIG a phreifat.

Mae’r gwasanaeth deintyddol cymunedol yn wasanaeth cyflogedig a ddarperir gan ymddiriedolaethau’r GIG. Mae’n gofalu am oedolion a phlant ag anghenion arbennig, mae’n darparu gwasanaeth fel rhwyd ddiogelwch i’r rhai sy’n methu cael gafael ar wasanaethau deintyddol o dan y GIG fel arall, mae’n sgrinio plant ysgol, yn cynnal arolygon epidemiolegol ac yn darparu gwasanaethau i hyrwyddo iechyd y genau.

Mae nifer y deintyddion sy’n cael eu cyflogi gan ymddiriedolaethau GIG o fewn y gwasanaeth deintyddol cymunedol er 1999 fel a ganlyn:

Staff deintyddol Staff deintyddol cymunedol / Yr holl staff deintyddol ysbyty iechyd cyhoeddus Nifer CALl Nifer CALl Nifer CALl 1999 195 124.6 106 87.3 301 211.9 2000 208 130.5 102 82.6 310 213.1 2001 203 127.2 106 84.4 309 211.6 2002 193 126.9 103 83.7 296 210.6

Contract Newydd ar gyfer Meddygon Teulu

Nick Bourne: Pa ganran o feddygon teulu sydd wedi llofnodi’r contract newydd? (WAQ34567)

Jane Hutt: Mae hyd at 495 o bractisiau wedi llofnodi contractau safonol am wasanaethau meddygol cyffredinol gyda’u byrddau iechyd lleol. Nid oes unrhyw bractis wedi llofnodi contract diofyn. Mae 13 o bractisiau eraill yn cael eu rheoli gan y bwrdd iechyd lleol ar hyn o bryd.

Nifer y Gweision Sifil a Benodwyd i Adran y Gweinidog

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog roi manylion am nifer y gweision sifil a benodwyd yn adran y Gweinidog bob blwyddyn ers 1999? (WAQ34568)

Jane Hutt: Oherwydd y newidiadau sylweddol ym mhortffolios y Gweinidogion a’r strwythurau staffio, nid yw’n bosibl cynhyrchu data manwl am benodiadau. Mater i’r Ysgrifennydd Parhaol yw hwn ac yr wyf wedi gofyn felly iddo ysgrifennu atoch gyda data dangosol bras.

Hepatitis B (Brechu Cyffredinol a Nifer y Dioddefwyr)

Jonathan Morgan: Beth yw polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar frechu dioddefwyr hepatitis B yn gyffredinol ledled Cymru, a sut y mae hyn yn cymharu ag a) Lloegr a b) ar draws y Deyrnas Unedig? (WAQ34595)

Jonathan Morgan: Faint o bobl ledled Cymru sy’n dioddef o Hepatitis B, a sut y mae amlder yr afiechyd wedi amrywio yn ystod y 10 mlynedd diwethaf? (WAQ34596)

50

Jane Hutt: Mae pob un o’r pedair gweinyddiaeth yn y DU yn derbyn cyngor ynghylch materion brechu gan y cyd bwyllgor annibynnol ar frechu ac imiwneiddio. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn rhoi polisïau brechu ar waith mewn modd cyson fel bod holl boblogaeth y DU yn cael ei hamddiffyn yn effeithiol. Gallaf gadarnhau, felly, bod ein polisi yn gyson â’r polisi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Hepatitis B yn cael ei drosglwyddo o rieni i’w plant ac yn rhywiol. Mae’r cyd bwyllgor annibynnol ar frechu ac imiwneiddio ar hyn o bryd yn argymell imiwneiddio’r unigolion hynny sydd â risg uwch o gael y clefyd oherwydd eu ffordd o fyw, eu swydd neu gysylltiad agos â rhywun sydd â’r clefyd neu sy’n ei gario. Mae’r rhai sy’n dioddef o hepatitis B, neu sy’n ei gario, wedi dal y feirws yn naturiol ac nid argymhellir eu brechu oherwydd ni fyddai hynny’n rhoi unrhyw amddiffyniad iddynt.

Nid yw’r cyd bwyllgor annibynnol ar frechu ac imiwneiddio ar hyn o bryd yn argymell brechu cyffredinol rhag hepatitis B. Mae wedi comisiynu gweithgor i adolygu nifer yr achosion o’r clefyd, pa mor effeithiol yw’r rhaglen frechu ddetholus bresennol, ac i ystyried beth mwy y gellir ei wneud i amddiffyn pobl. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn arolygu mynychder y clefyd yng Nghymru ac mae wedi darparu’r data canlynol am nifer yr achosion o hepatitis B yng Nghymru a gadarnhawyd gan labordy rhwng 1990 a 2003:

BLWYDDYN ACHOSION (1) 2003 (2) 22 2002 55 2001 44 2000 24 1999 38 1998 37 1997 31 1996 45 1995 28 1994 30 1993 24 1992 19 1991 17 1990 19

(1) Diffiniad o achos - HbsAg positif (rhai sy’n dioddef o’r firws neu’n ei gario) ac Anti-HBc IgM positif (rhai sydd wedi dioddef ohono cyn hyn) gyda neu heb hanes diweddar o ddioddef o’r clefyd melyn ar wahân neu o symptomau eraill sy’n gydnaws â heintiad aciwt. (2) Data dros dro yw’r data am 2003.

Pwyllgor Fferyllol Cymru

Jonathan Morgan: A wnaiff y Gweinidog restru dyddiadau cyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Fferyllol Cymru yn y tair blynedd diwethaf? (WAQ34597)

Jane Hutt: Corff cyhoeddus ymgynghorol a noddir gan y Cynulliad yw Pwyllgor Fferyllol Cymru, sy’n cael ei gydnabod o dan ddarpariaethau Adran 19(1) o Ddeddf y GIG 1977, fel y’i diwygiwyd. Ei gylch gwaith yw rhoi cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch y ddarpariaeth gwasanaethau fferyllol yng Nghymru, ac ystyried a chynnig sylwadau ar neu gynghori ynghylch unrhyw fater y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei gyfeirio ato. Dros y tair blynedd diwethaf, mae wedi cwrdd yn chwarterol ar y dyddiadau canlynol:

2001 15 Chwefror 2001

51 3 Mai 2001 6 Medi 2001 29 Tachwedd 2001

2002 13 Chwefror 2002 8 Mai 2002 12 Medi 2002 27 Tachwedd 2002

2003 5 Chwefror 2003 7 Mai 2003 24 Medi 2003 26 Tachwedd 2003

Pwyllgor Fferyllol Cymru (Eitemau a Drafodwyd)

Jonathan Morgan: A wnaiff y Gweinidog nodi pa eitemau a drafodwyd gan Bwyllgor Fferyllol Cymru yn y tair blynedd diwethaf? (WAQ34598)

Jane Hutt: Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru wedi trafod amrywiaeth eang o faterion dros y tair blynedd diwethaf. Fe’u rhestrir mewn trefn gronolegol isod:

2001 Galw Iechyd Cymru Arddangos taflenni hybu iechyd mewn fferyllfeydd cymunedol–canllawiau arferion da Grŵp gorchwyl a gorffen ar ragnodi Gwastraff clinigol Penwythnos addysgol Adolygu’r modd y rhagnodir, y cyflenwir ac y gweinyddir cyffuriau (CROWN) Rhagnodi gan nyrsys–cam 1 Estyniad rhagnodi gan nyrsys –cam 2 Rhagnodi annibynnol o’i gymharu â rhagnodi atodol Cyfarwyddiadau grwpiau cleifion Cyfarwyddiadau ynghylch cleifion penodol Strategaeth ar gyfer y GIG yng Nghymru Adolygiad polisi o’r pwyllgor cynghori statudol Strategaeth rheoli meddyginiaeth Ymgyrch yn y cyfryngau ar ddydd gwyl Sain Folant ynghylch atal cenhedlu brys Gweithredu cynllun y GIG Rhyddhau rhag y tâl presgripsiwn Y diweddaraf am y pwyllgorau fferyllol dosbarth Adroddiad pwyllgor Cymru ar ddatblygiad proffesiynol fferylliaeth Cymdeithas y technegwyr fferyllol Adroddiad digwyddiadau clinigol yn ymdrin â gweinyddu cyffuriau Adroddiadau am boen a gofal lliniarol Rôl Cymdeithas y Technegwyr Fferyllol Cyfarfod llawn am glefydau trosglwyddadwy Canllawiau Caldicott Adolygiad Rolph o Bwyllgor Fferyllol Cymru ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’—adroddiad ‘Structural Change in the NHS in Wales’ ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’—adroddiad ‘Dyfodol Gofal Sylfaenol’ Adolygu’r cyfansoddiad Gwasanaeth y tu allan i oriau

52 Rhagnodi buprenorphine Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru Arolygwyr fferyllol o fewn Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru Blaenraglen waith Pwyllgor Fferyllol Cymru Cyd fforwm proffesiynol Adroddiad cadeirydd pwyllgor Cymru ar ddatblygiad proffesiynol fferylliaeth Newidiadau strwythurol yn y GIG.

2002 Grŵp gorchwyl a gorffen ar ragnodi Rhagnodi buprenorphine Strategaeth ar gyfer fferylliaeth Gweithredu cynllun y GIG ‘Getting Ahead of the Curve’—strategaeth i wrthsefyll clefydau heintus Brechiad MMR Y ffliw Siartiau meddyginiaethau Cymru gyfan Pilsen atal cenhedlu hormonaidd frys Cynlluniau cyfnewid nodwyddau Cod ymarfer i bwyllgorau cynghori gwyddonol ac egwyddorion Nolan Trefniadau cynllunio brys ‘A Spoonful of Sugar’—argymhellion ar reoli meddyginiaethau mewn ysbytai Cyd fforwm proffesiynol Y diweddaraf am y pwyllgorau fferyllol dosbarth Rhagnodi electronig Cyfrinachedd gwybodaeth am gleifion Cynigion gogyfer â rhagnodi atodol gan nyrsys a fferyllwyr Cynllunio’r gweithlu Heintiau a geir yn yr ysbyty Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru Ffurflenni rhagnodi Cylchlythyr iechyd Cymru (02) 82 ‘Palliative Care and Out-of-hours Access to Essential Drugs’ Ystyriaethau yn ymwneud ag ychwanegu subutex at ragnodi rhannu’r gofal Grŵp strategaeth meddyginiaethau Cymru gyfan ‘Moddion i Lwyddo: Strategaeth ar gyfer Fferylliaeth’ Ethol swyddogion i’r pwyllgor ‘Lles yng Nghymru’—dogfen ymgynghori Cynllun cyhoeddi ar gyfer Pwyllgor Fferylliaeth Cymru Awtomeiddio fferylliaeth mewn ysbytai Cynhyrchu a throsglwyddo presgripsiynau yn electronig Rhagnodi atodol Strwythurau cynghori proffesiynol Gwasanaethau rhanbarthol Adolygiad meddyginiaeth Geneteg Cyd fforwm proffesiynol ‘Cychwyn Iach’–Cynigion i Ddiwygio’r Cynllun Bwyd Lles Fforwm diwydiant y GIG—cais am enwebiad Cynigion ymgynghori cyhoeddus i’r gwneud yn gyfreithiol cyflenwi eitemau penodol o gyfarpar cyffuriau i ddefnyddwyr cyffuriau Rhaglen cyfnewid nodwyddau a thalu TAW Grŵp strategaeth meddyginiaethau Cymru gyfan Rhagnodi electronig Nodweddion sylfaenol gofal Cynllunio’r gweithlu

53 ‘Moddion i Lwyddo: Strategaeth ar gyfer Fferylliaeth’ Cylchlythyr iechyd Cymru (02) 86—’Palliative Care and Out-of-hours Access to Essential Drugs’ Taflenni gwybodaeth i gleifion Cyd fforwm proffesiynol Fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’—dogfen ymgynghori am hysbysu gofal iechyd Cynllun cyhoeddi Cynulliad Cenedlaethol Cymru—ymgynghoriad Dyfodol y timau gweithredu ar gyffuriau ac alcohol Ymgynghoriad ynghylch dyfodol gofal iechyd arbenigol i blant Cymru Llythyr ymgynghori MLX280—cymhwyso canllawiau’r UE ar leihau’r risg o TSE i gynnyrch meddyginiaethol sydd heb ei drwyddedu.

2003 Heintiau a geir yn yr ysbyty Cylchlythyr Iechyd Cymru 2002 86—’Palliative care and Out-of-hours Access to Essential Drugs’ ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’ Cynhyrchu a throsglwyddo presgripsiynau yn electronig Rhaglen cyfnewid nodwyddau a thalu TAW Peirianwaith cynghori proffesiynol Adroddiad y Swyddfa Masnachu Teg—ymchwiliad i fferylliaeth adwerthol ‘Moddion i lwyddo’—y camau nesaf Ymgynghoriad iechyd cyhoeddus—cynigion i’w gwneud yn gyfreithiol cyflenwi eitemau penodol o gyfarpar cyffuriau i ddefnyddwyr cyffuriau ‘Ombudsmen’s Service in Wales—Time for a Change?’—dogfen ymgynghori ‘Role and Structures of Prescribing Committees in Wales—a way forward’—dogfen ymgynghori, Sedd wag ar grŵp llywio Galw Iechyd Cymru Cyfrinachedd o fewn gofal sylfaenol Cynigion yn ymwneud â chadw neu ddiddymu Adran 118 o Ddeddf Meddyginiaethau 1986 Awtomeiddio fferylliaeth mewn ysbytai Cysylltiadau Celtaidd Ad-drefnu’r GIG Y diweddaraf am y pwyllgorau fferyllol dosbarth Adolygu’r taliadau presgripsiwn Peirianwaith cynghori proffesiynol ‘Moddion i Lwyddo: Strategaeth ar gyfer fferylliaeth’ Agenda ar gyfer newid Hysbysu gofal iechyd Adroddiad y Comisiwn Archwilio ar ragnodi o fewn gofal sylfaenol Fforwm diwydiant y GIG Grŵp strategaeth meddyginiaethau Cymru gyfan Cyflwyno rhagnodi atodol Is-grŵp o’r panel cynghori ar adolygu sylweddau Cyd fforwm proffesiynol Yr adran iechyd a gofal cymdeithasol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol a fferylliaeth Adroddiad Duthie Symposiwm ar y newid mewn swyddogaethau Strwythurau cynghori proffesiynol Contract gwasanaethau meddygol cyffredinol Ymchwiliad Shipman Cyngor y proffesiynau iechyd ‘Cymru: Gwlad Well’ Adolygu mynediad at ddata cerdyn melyn Llythyr ymgynghori arm18–cais am newid dosbarth cynnyrch o pom i p

54 Galw Iechyd Cymru Gwasanaeth camddefnyddio cyffuriau Adolygu gofal sylfaenol a nyrsio yng Nghymru Mwg ail law.

Fferyllwyr Cymunedol (Pwyllgor Fferyllol Cymru)

Jonathan Morgan: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes unrhyw fferyllwyr cymunedol ar Bwyllgor Fferyllol Cymru? (WAQ34599)

Jane Hutt: Yn sgîl ad-drefnu’r GIG, mae aelodaeth Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cael ei adolygu. Mae darpariaeth gogyfer â phedwar aelod etholedig o bob un o’r tri phwyllgor fferyllol rhanbarthol. Mae’r pwyllgorau rhanbarthol wrthi’n cael eu sefydlu a byddant yn cynnwys fferyllwyr cymunedol.

Fferyllwyr Cymunedol (Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan)

Jonathan Morgan: A all y Gweinidog gadarnhau a oes unrhyw fferyllwyr cymunedol ar Grŵp strategaeth feddyginiaethau Cymru gyfan? (WAQ34600)

Jane Hutt: Mae grŵp strategaeth meddyginiaethau Cymru gyfan yn cwrdd ar hyd a lled Cymru yn chwarterol. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr sy’n fferyllwyr, ond nid oes yr un fferyllydd cymunedol arno ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae sedd wag i fferyllydd, a bydd hysbyseb yn gwahodd ceisiadau o bob sector fferyllol yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

Comisiynydd Plant Lloegr

Jenny Randerson: Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i blant Cymru gan Gomisiynydd Plant Lloegr ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli, ar gael yn ddwyieithog? (WAQ34601)

Jane Hutt: Byddwn yn disgwyl i ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 fod yn gymwys i Gomisiynydd Plant Lloegr pan fydd yn delio’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc yng Nghymru.

Dioddefwyr MS yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

Sandy Mewies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i helpu’r rhai sy’n dioddef o MS yng ngogledd-ddwyrain Cymru? (WAQ34732)

Jane Hutt: Cyfrifoldeb y byrddau iechyd lleol yw’r gwasanaethau iechyd sy’n cael eu darparu, yn cynnwys gwasanaethau niwrolegol i gynorthwyo’r rhai sy’n dioddef o MS. Rhaid iddynt gynnal asesiadau o’r anghenion iechyd yn lleol a, chan weithio gydag ymddiriedolaethau’r GIG, y sector gwirfoddol ac eraill, gynllunio a blaenoriaethu eu gwasanaeth iechyd drwy eu strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles i ddiwallu’r angen hwnnw o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Mae Canolfan Walton—ymddiriedolaeth niwrolegol arbenigol yn Lerpwl—yn darparu triniaeth a chymorth i gleifion sy’n dioddef o MS yng ngogledd Cymru. Mae byrddau iechyd lleol gogledd Cymru wedi comisiynu’r gwasanaethau hyn fel y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu triniaeth a chymorth i gleifion yng ngogledd Cymru sydd â chyflyrau niwrolegol, yn cynnwys MS.

Mae cynllun rhannu risg MS hefyd yn cael ei weinyddu yng Nghanolfan Walton ar gyfer cleifion MS o ogledd Cymru sy’n cwrdd â’r meini prawf asesu clinigol trylwyr a ddyfeisiwyd gan Gymdeithas Niwrolegwyr Prydain. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi darparu adnoddau ychwanegol i’r byrddau iechyd lleol i helpu i ddarparu ar gyfer costau’r cynllun, sy’n caniatáu i gyffuriau sy’n lleddfu’r clefyd i gael eu rhagnodi ar y GIG i gleifion sydd ag MS ysbeidiol sy’n bodloni meini prawf Cymdeithas Niwrolegwyr Prydain. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn monitro hynt y cynllun yn fanwl.

55

Strategaeth a Grŵp Gorchwyl y Cynulliad ar Dlodi Plant

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar pryd y bydd adroddiad terfynol y grŵp gorchwyl tlodi plant yn cael ei gyhoeddi? (WAQ34735)

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y broses ar gyfer datblygu strategaeth y Cynulliad ar dlodi plant yn sgîl cyhoeddi adroddiad terfynol y grŵp gorchwyl tlodi plant? (WAQ34736)

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar pryd y mae’n disgwyl i strategaeth y Cynulliad ar dlodi plant fod yn ei lle? (WAQ34737)

Jane Hutt: Bydd adroddiad y grŵp gorchwyl tlodi plant yn cael ei drafod mewn Cyfarfod Llawn a’i gyhoeddi at ddibenion ymgynghori ar 9 Mehefin 2004. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyhoeddi ei strategaeth ar dlodi plant yn yr hydref, ar ôl ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad a’r ymatebion i’r ddogfen ymgynghori.

Plant sy’n Byw mewn Tlodi

Lynne Neagle: Beth yw’r ffigurau ar gyfer cyfanswm y plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru, fel cyfanswm, ac fesul awdurdod lleol am bob blwyddyn ers 1997? (WAQ34738)

Jane Hutt: Rhoddir y wybodaeth sydd ar gael am Gymru yn y tabl. Mae’r prif ystadegau swyddogol am dlodi incwm ym Mhrydain Fawr yn cael eu cyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gan ddynodi aelwydydd sydd islaw’r incwm cyfartalog. Mae’r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn yn deillio’n bennaf o’r arolwg adnoddau teulu, nad yw’n ddigon mawr i roi amcangyfrifon o dlodi incwm ar sail ddaearyddol lai na Chymru. Mae’r wybodaeth a gyhoeddir ar ffurf canrannau yn hytrach na niferoedd o blant.

Dylid nodi nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi cymariaethau cyfres amser islaw lefel Prydain Fawr oherwydd amrywiaethau yn y samplu. Dylid felly drin â gofal y cymariaethau yn y tabl rhwng blynyddoedd a’i gilydd. Mae’r amcangyfrifon o dlodi incwm sy’n creu penawdau yn tueddu i ganolbwyntio ar y rhai sy’n byw ar aelwydydd sydd islaw 60 y cant o’r incwm canolrif. Dim ond er 2000- 01 mae’r ffigurau hyn ar gael yn hwylus am Gymru. Mae amcangyfrifon cynharach yn defnyddio 50 y cant o’r incwm canolrif ar gael er 1998-9 ac maent wedi’u cynnwys yn y tabl. Fel y dengys y ffigurau am 2000-01, mae’r amcangyfrifon yn debyg iawn.

Mae mynegai tlodi plant wedi ei gynnwys gyda mynegai amlamddifadedd Cymru. Mae hwn yn rhoi’r gyfran o blant mewn teuluoedd sy’n dibynnu ar fudd-daliadau seiliedig ar incwm mewn adrannau etholiadol gan ddefnyddio data 1998. Fodd bynnag, nid oes data am y blynyddoedd mwy diweddar ar gael yn hwylus ac ni fyddai’n darparu cyfres amser gyson oherwydd newidiadau yn y system drethu a budd-daliadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Canran y plant mewn teuluoedd yng Nghymru sydd heb gyrraedd trothwy incwm cyfredol PF Heb Gan ystyried ystyried costau tai costau tai Yn is na 50 y cant o incwm canolig PF (gan hepgor pobl hunangyflogedig) 1998-99 28 35 1999-2000 25 36 2000-01 26 33 Yn is na 50 y cant o incwm canolig PF (gan hepgor pobl hunangyflogedig) 2000-01 26 33

56 2001-02 25 31 2002-03 25 30 Ffynhonnell: Teuluoedd ag incwm yn is na’r incwm cyfartalog

Nodyn: Cyfrifir incwm heb ystyried treth incwm, yswiriant gwladol a’r dreth gyngor, ond ystyrir budd- daliadau nawdd cymdeithasol. Mae costau tai yn cynnwys: rhent, taliadau llog morgais, ardrethi dŵr, rhent tir a chostau gwasanaethau a phremiymau yswiriant adeileddol.

Safonau Gofal sy’n Berthnasol i Gartrefi Gofal ar gyfer Oedolion yng Nghymru

Lisa Francis: A all y Gweinidog roi sylwadau am unrhyw wahaniaeth yn y safonau sy’n berthnasol i gartrefi gofal ar gyfer oedolion yng Nghymru o’u cymharu â’r safonau gofal sy’n ofynnol yn y cyfryw gartrefi yn Lloegr? (WAQ34774)

Lisa Francis: A all y Gweinidog wneud datganiad am hyblygrwydd y safonau gofal sy’n ofynnol mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion yng Nghymru o’u cymharu â’r cyfryw gartrefi yn Lloegr? (WAQ34773)

Jane Hutt: Cyflwynwyd y safonau gofynnol cenedlaethol i gartrefi gofal yng Nghymru ym mis Ebrill 2002 ar ôl ymgynghori helaeth a oedd yn cynnwys trafodaethau gyda darparwyr. Mae manylion y safonau gofynnol yn eu gwneud yn wahanol i’r safonau mewn rhannau eraill o’r DU, yn rhannol er mwyn adlewyrchu nodweddion gwahanol y stoc cartrefi gofal. Maent yn cynrychioli dull o weithredu drwy gonsensws, gan adlewyrchu anghenion a dyheadau’r rhai sy’n ymwneud â’r sector mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yng Nghymru.

Defnyddir y safonau gofynnol cenedlaethol gan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru, sydd â chyfrifoldeb gweithredol i reoleiddio’r sector gofal yng Nghymru, i benderfynu pa un a yw cartrefi gofal yn bodloni’r gofynion rheoleiddio. Mae modd bod yn hyblyg wrth gymhwyso’r safonau gofynnol cenedlaethol. Mae prif weithredwr ASGC wedi cyhoeddi canllawiau i arolygwyr ASGC yn dynodi trefn sy’n amddiffyn preswylwyr ac ansawdd y gofal y maent yn ei dderbyn, ond sydd hefyd yn cynnig ffordd synhwyrol a hyblyg o gymhwyso’r safonau corfforol mewn cartrefi gofal sy’n bodoli’n barod. Mae’r safonau gofynnol cenedlaethol a dull gweithredu ASGC yn adlewyrchu anghenion a nodweddion arbennig y sector yng Nghymru.

Gofal mewn Ysbytai ar gyfer Cleifion â Salwch Critigol

Helen Mary Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y blaenoriaethir gofal mewn ysbytai i gleifion a chanddynt salwch critigol? (WAQ34786)

Jane Hutt: Mater i ymddiriedolaethau’r GIG yw asesu sut mae cleifion a chanddynt salwch critigol yn cael eu blaenoriaethu gogyfer â gofal mewn ysbytai.

Cymorth i Ganfod Deintydd GIG

Helen Mary Jones: Pa gymorth y mae’r Gweinidog wedi’i gynnig i gleifion y mae eu deintyddion wedi rhoi’r gorau i ddarparu triniaeth drwy’r GIG er mwyn iddynt allu dod o hyd i ddeintydd GIG newydd? (WAQ34787)

Jane Hutt: Mae Galw Iechyd Cymru yn cynnal gwasanaeth llinell gymorth ddeintyddol a gwefan am Ddyfed Powys a Gwynedd sy’n rhoi gwybodaeth am y ddarpariaeth ddeintyddol sydd ar gael gan y GIG. Mae Galw Iechyd Cymru yn gweithio’n agos gyda byrddau iechyd lleol i fonitro gweithgarwch er mwyn darparu data cywir.

Mae’r gwasanaeth deintyddol cymunedol yn wasanaeth cyflogedig a ddarperir gan ymddiriedolaethau’r GIG, sy’n gofalu am oedolion a phlant ag anghenion arbennig ac yn darparu gwasanaeth fel rhwyd ddiogelwch i’r rheini sy’n methu cael gafael ar wasanaethau deintyddol o dan y GIG fel arall. Mae hefyd

57 yn sgrinio plant ysgol, yn cynnal arolygon epidemiolegol ac yn darparu gwasanaethau i hyrwyddo iechyd y genau.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu cynnig cymorth ariannol i ddeintyddion sy’n barod i ymrwymo i’r GIG dros gyfnod ac sy’n barod i sefydlu practisiau newydd, neu i ehangu practisiau sy’n bodoli’n barod, drwy fenter ddeintyddol Cymru. Llwyddodd y fenter i ddenu deintyddion newydd i’r rhannau hynny o Gymru lle mae eu hangen fwyaf. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd lleol i sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud o’r cynlluniau sydd wedi cael eu sefydlu er mwyn denu deintyddion i’r ardaloedd lle mae prinder.

Practisiau Deintyddol yn Rhanbarthau Canolbarth a Gorllewin Cymru

Helen Mary Jones: Faint o bractisiau deintyddol yn rhanbarthau canolbarth a gorllewin Cymru sydd wedi rhoi’r gorau i dderbyn cleifion y GIG yn ystod y 12 mis diwethaf? (WAQ34788)

Jane Hutt: Mater i’r practis deintyddol unigol dan sylw yw penderfynu rhoi’r gorau i dderbyn cleifion y GIG. O ganlyniad, mae nifer y deintyddion GIG yn amrywio drwy gydol y flwyddyn wrth i gofrestri agor a chau. Nid yw’r data hyn ar gael yn ganolog felly. Fodd bynnag, cesglir data am nifer contractau deintyddol y GIG. Yr oedd nifer y contractau yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2003 yn 1,280 o’i gymharu â 1,260 ym mis Mawrth 2003. O ran ardal hen awdurdod iechyd Dyfed Powys, y ffigurau cymaradwy yw 180 a 178. Nid oes data hanesyddol ar sail y byrddau iechyd lleol ar gael eto.

Practisau Deintyddol yn Rhanbarthau Canolbarth a Gorllewin Cymru (Derbyn Cleifion y GIG)

Helen Mary Jones: Faint o bractisau deintyddol yn rhanbarthau canolbarth a gorllewin Cymru sy’n derbyn cleifion y GIG ar hyn o bryd, ac a wnaiff y Gweinidog restru ymhle y maent? (WAQ34789)

Jane Hutt: Mater i’r practis deintyddol unigol dan sylw yw penderfynu cofrestru cleifion i gael triniaeth o dan y GIG. O ganlyniad, mae pa ddeintyddion sy’n derbyn cleifion yn amrywio drwy gydol y flwyddyn wrth i gofrestri agor a chau. Er nad yw’r data hyn ar gael yn ganolog, mae Galw Iechyd Cymru, sy’n darparu gwasanaeth cyfeirio deintyddol ar sail Cymru gyfan, yn gallu darparu gwybodaeth i’r cyhoedd yn feunyddiol am ba bractisiau sy’n derbyn cleifion GIG ar y pryd.

Cost Ysmygu i’r GIG yng Nghymru

Nick Bourne: Faint y mae pobl sy’n ysmygu yn ei chostio i’r GIG yng Nghymru, ac a wnaed unrhyw amcangyfrif? (WAQ34790)

Jane Hutt: Fe’ch cyfeiriaf at fy ateb i WAQ21898 ar 20 Ionawr 2003.

Atgyfeiriadau Brys ar Gyfer Canser y Fron

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau o ran canran yr atgyfeiriadau brys ar gyfer canser y fron sydd wedi cyrraedd y targed 10 diwrnod ym mhob un o ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru ers 2001? (WAQ34827)

Jane Hutt: Nid yw’r wybodaeth yr ydych yn ei cheisio yn cael ei chyhoeddi’n genedlaethol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn benderfynol y dylai cleifion sydd â chanser y fron gael triniaeth brydlon, o ansawdd uchel, drwy roi safonau canser y fron sydd wedi’u cyhoeddi ar waith yn gynyddol. Yr ydym wedi sefydlu tri rhwydwaith canser i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio, trefnu a chyflenwi gwasanaethau a, thrwy broses y fframwaith gwasanaeth ac ariannol blynyddol, mae ymddiriedolaethau ar draws Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i wella eu perfformiad yn erbyn y safon ‘10 diwrnod’.

58 Yr ydym wrthi’n adolygu’r safonau a fydd yn awr yn canolbwyntio ar ba mor hir y mae cleifion canser yn gorfod aros o’r adeg y cânt eu cyfeirio gan yr ysbyty hyd at ddechau’r driniaeth ddiffiniol. Bydd angen i’r ymddiriedolaethau adrodd am eu perfformiad yn erbyn y safon hon o fis Hydref eleni a bydd y swyddfeydd rhanbarthol yn monitro eu perfformiad yn drylwyr.

Symud Swyddi Gweinyddol yn y Gwasanaeth Iechyd

Alun Ffred Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bwriad i symud swyddi gweinyddol yn y Gwasanaeth Iechyd o Gaernarfon i’r Wyddgrug? (WAQ34842)

Jane Hutt: Bydd y cynnig arfaethedig i gau canolfan gwasanaethau busnes GIG Caernarfon yn destun cyfnod ymgynghori o dri mis, y bwriedir iddo ddechrau ar 27 Mai 2004, ar ôl i Fwrdd Iechyd Lleol Powys ystyried y mater gan mai hwy sy’n rhedeg y ganolfan gwasanaethau busnes ar ran yr holl fyrddau iechyd lleol.

Bydd y ddogfen ymgynghori yn cael ei dosbarthu ymysg ystod eang o gyrff perthnasol ac i gyrff rhanddeiliaid, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ganlyniad y broses 90 diwrnod ar ôl i Fwrdd Iechyd Lleol Powys ystyried a gwerthuso ymatebion mewn cysylltiad â’r ymgynghori yn ei gyfarfod bwrdd ar 15 Medi 2004.

Ariannu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch ariannu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru? (WAQ34843)

Jane Hutt: Mae dros draean cyllideb y Cynulliad yn cael ei ddyrannu i iechyd. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae £4.3 biliwn wedi cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru, ac o’r swm hwnnw dyrannwyd £3.4 biliwn i’r 22 bwrdd iechyd lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru drwy gyfrwng llythyr dyrannu refeniw (WHC(2003)124) a gyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2003. Cedwir arian yn ganolog ar gyfer pethau megis moderneiddio cyflogau (y contract ymgynghorwyr, yr agenda ar gyfer newid), hysbysu gofal iechyd, rhoi adroddiad Townsend ar waith, gofal mewn cartrefi nyrsio a chyllid i gwtogi ar amseroedd aros a bydd hwn yn cael ei ddyrannu yn ystod y flwyddyn i fyrddau iechyd lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru, fel bo’n briodol.

Ymwybyddiaeth o Cymorth

Lorraine Barrett: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog, neu ei swyddogion, wedi’u cael â grwpiau cymunedol yn Ne Caerdydd a Phenarth ynghylch Cymorth. (WAQ35004)

Lorraine Barrett: Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o Cymorth ymhlith grwpiau cymunedol yn Ne Caerdydd a Phenarth? (WAQ35005)

Jane Hutt: Caiff Cymorth ei weinyddu gan y partneriaethau fframwaith plant a phobl ifanc yn ardal pob awdurdod lleol. Nhw sy’n penderfynu sut i ddosbarthu’r arian, i ddiwallu’r anghenion a chyflawni’r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi’n lleol. Mae canllawiau cynllunio Cymorth yn annog y partneriaethau i fod yn arloesol ac i arfer dulliau allgymorth er mwyn cynnwys plant, pobl ifanc, rhieni, grwpiau cymdogaeth, a grwpiau sy’n cael eu hallgáu fel arfer mewn penderfyniadau ynglŷn â pha wasanaethau sydd i gael eu darparu gan Cymorth. Mae manylion y cynllun i’w gweld ar wefan Llywodraeth y Cynulliad. Nid wyf fi na’m swyddogion wedi cael cyswllt uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol yn Ne Caerdydd a Phenarth.

59 Asbestosis, Mesothelioma a Chlefyd Pliwraidd

Alun Cairns: A wnaiff y Gweinidog restru’r ardaloedd hynny o Gymru lle y mae nifer yr achosion o asbestosis, mesothelioma a chlefyd pliwraidd yn fwy cyffredin nag arfer? (WAQ35006)

Alun Cairns: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch yr ardaloedd hynny o Gymru lle y mae nifer o achosion o asbestosis, mesothelioma a chlefyd pliwraidd? (WAQ35007)

Alun Cairns: Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i ddarparu mwy o gyllid i’r byrddau iechyd lleol yn yr ardaloedd hynny lle y mae nifer yr achosion o asbestosis, mesothelioma a chlefyd pliwraidd yn fwy cyffredin nag arfer? (WAQ35008)

Alun Cairns: Pa sylwadau ffurfiol a wnaed i’r Gweinidog gan grwpiau neu unigolion sy’n pryderu ynghylch ardaloedd lle y mae nifer anghyffredin o achosion o asbestosis, mesothelioma a chlefyd pliwraidd? (WAQ35009)

Alun Cairns: Pa gamau penodol y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i helpu i adnabod symptomau cynnar asbestosis, mesothelioma a chlefyd pliwraidd? (WAQ35010)

Jane Hutt: Asbestosis, mesothelioma a chlefyd pliwraidd yw’r tri chlefyd sy’n cael eu cysylltu’n gyffredinol â chysylltiad ag asbestos. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n rheoli’r risg sydd ynghlwm wrth asbestos ac nid yw’n fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cadw cofrestri mesothelioma ac asbestosis am Brydain Fawr gyfan, y mae modd eu gweld at http://www.hse.gov.uk.

Cyfrifoldeb pob un o’r byrddau iechyd lleol yw asesu angen iechyd lleol a gweithio gyda darparwyr gwasanaethau gofal iechyd ac eraill i gynllunio a blaenoriaethu gwasanaethau i ateb yr angen hwnnw o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Byddai hyn yn cynnwys clefydau fel y rhai a grybwyllwyd gennych.

Cyfarfûm ag Asbestos Awareness Wales ar 23 Ebrill. Gan mai cyfrifoldeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw llawer o’r materion a godwyd yn y cyfarfod, yr wyf yn bwriadu hwyluso cyfarfod lle bydd y ddau gorff yn bresennol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu polisi i Gymru ar glefydau anadlu. Pwrpas y polisi yw sicrhau gwasanaethau a chymorth iechyd a gofal cymdeithasol integredig, teg, cyfiawn ac o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion pobl sy’n dioddef o glefydau anadlu ar draws Cymru. Cafodd grŵp cynllunio gweithredu ei sefydlu i helpu i gyfrannu tuag at y gwaith cynllunio ac i symud y polisi a’r cynllun gweithredu ymlaen. Partneriaeth amlasiantaethol, amlbroffesiwn yw hon rhwng Llywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol, gwasanaethau cymdeithasol, cynrychiolwyr gofal iechyd a’r sector gwirfoddol a chleifion, i helpu i bennu cynnwys y polisi.

Feirws Syncytigol Anadlol

Lorraine Barrett: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y feirws syncytigol anadlol? (WAQ35013)

Jane Hutt: Ym misoedd y gaeaf, mae feirws syncytigol anadlol yn feirws cyffredin sy’n achosi broncitis aciwt mewn plant bach. Fel arfer mae’n heintio plant o dan ddwy oed, yn arbennig blant iau na chwe mis oed. Fodd bynnag, anaml y mae’r clefyd yn peryglu bywyd ac mae’r rhan fwyaf o blant yn gwella’n llwyr heb unrhyw broblemau parhaol. Fel arfer caiff feirws syncytigol anadlol ei drosglwyddo o un person i’r llall drwy gysylltiad uniongyrchol. Er na fydd oedolyn neu blentyn hŷn ond yn cael symptomau annwyd cyffredin efallai, gall plant iau a babanod ddatblygu gorludded difrifol ac efallai y bydd yn rhaid eu derbyn i’r ysbyty.

Comisiwn Iechyd Cymru sy’n gyfrifol am roi cyngor a chyfarwyddyd ar ymdrin ag achosion o’r feirws syncytigol anadlol yng Nghymru.

60 Rhestrau Aros i Gleifion Orthopedig y GIG yng Ngogledd Cymru

Brynle Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhestrau aros i gleifion orthopedig y GIG yng ngogledd Cymru? (WAQ35014)

Jane Hutt: Ddiwedd mis Mawrth 2004, nid oedd unrhyw un o ogledd Cymru wedi bod yn aros dros 18 mis am lawdriniaeth orthopedig. Ar ben hynny, nid oes unrhyw un yn aros dros 12 mis am driniaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Dinbych. Ddiwedd mis Mawrth 2004, nid oedd unrhyw un sy’n byw yng ngogledd Cymru wedi bod yn aros dros 18 mis am apwyntiad cyntaf fel claf allanol a dim ond 203 fu’n aros dros 12 mis.

Cyfleusterau Deintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru

Brynle Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfleusterau deintyddol y GIG yng ngogledd Cymru? (WAQ35015)

Jane Hutt: Yr wyf yn ymwybodol o’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu mewn rhai rhannau o Gymru o ran cyrchu at wasanaethau deintyddol ar y GIG. Cymerwyd camau i ymdrin â hynny drwy fenter ddeintyddol Cymru sy’n rhoi cymhellion ariannol i ddeintyddion sy’n barod i ddarparu triniaeth ddeintyddol ar y GIG. Mae’r dull a fabwysiadwyd wedi’i seilio ar wneud darpariaeth GIG yn opsiwn deniadol i ddeintyddion gan nad oes gan y Cynulliad bwerau i gyfarwyddo deintyddion i weithredu mewn ardal neilltuol. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i weithio gyda’r byrddau iechyd lleol yn y Gogledd i sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud o’r cynlluniau yr ydym wedi eu sefydlu i ddenu deintyddion i ardaloedd lle mae prinder.

Fodd bynnag, yr wyf yn cydnabod nad yw’r cynllun yn ddigon ar ei ben ei hun ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sicrhau darpariaeth yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2003 i roi pwerau i’r Cynulliad i lunio rheoliadau mewn perthynas â gwasanaethau deintyddol sylfaenol. Bydd y newidiadau hyn yn hwyluso’r ffordd i ddiwygio gwasanaethau deintyddol y GIG ac yr ydym yn ystyried cynigion i gyflwyno contract deintyddiaeth newydd er mwyn creu amgylchedd mwy deniadol i ymarferwyr a’i gwneud yn haws cyrchu at wasanaethau. Byddaf mewn sefyllfa cyn bo hir i ddweud pa drywydd y byddwn yn ei gymryd yng Nghymru

Gwasanaeth Thorasig yn Abertawe

Peter Black: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddyfodol y gwasanaeth thorasig yn Abertawe? (WAQ35017)

Jane Hutt: Cyfrifoldeb Comisiwn Iechyd Cymru yw comisiynu llawdriniaeth thorasig, ac mae’r Comisiwn wrthi’n cynnal adolygiad o’r gwasanaethau ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwnnw yn cynnwys arfarniad opsiynau mewn perthynas â’r ailgyflunio yn y dyfodol y gwasanaethau yn ne Cymru, sy’n cael eu darparu gan Ysbyty Treforys ac Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cynhelir yr arfarniad opsiynau ym mis Gorffennaf 2004. Bydd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol blaenllaw o bob rhan o’r gwasanaeth iechyd, Comisiwn Iechyd Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ogystal â dau gynghorydd allanol amlwg. Ni wneir unrhyw benderfyniadau am ddyfodol tymor hwy y gwasanaeth thorasig yn ne Cymru tan ar ôl yr adolygiad hwnnw.

Gwasanaethau Iechyd y Rheng Flaen

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddisgrifio’i pholisïau i wella gwasanaethau iechyd y rheng flaen? (WAQ35018)

Jane Hutt: Mae’r polisïau er mwyn gwella gwasanaethau wedi cael eu nodi yn ‘Gwella Iechyd yng Nghymru’, fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol wedi hynny a dogfennau polisi a chanllawiau

61 cyhoeddedig eraill. Mae’r rhain yn gefn i waith parhaus cyrff y GIG i wella’r gwasanaethau rheng flaen yn lleol ac yn rhanbarthol.

Cynyddu Nifer y Meddygon a’r Nyrsys yng Nghymru

Ann Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar lwyddiant Llywodraeth y Cynulliad i gynyddu nifer y meddygon a’r nyrsys yng Nghymru? (WAQ35020)

Jane Hutt: Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi er mwyn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Strategaeth recriwtio a chadw Cymru gyfan sy’n sefydlu’r amcanion recriwtio a chadw ar gyfer GIG Cymru. Mae’r strategaeth yn pennu’r fframwaith er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu gwerthfawrogi, eu datblygu a’u gwobrwyo ac mae’n darparu ffocws er mwyn rhoi sylw i’r materion hyn. Mae’r ymddiriedolaethau wedi bod yn rhoi eu cynlluniau recriwtio a chadw eu hunain ar waith hefyd ar lefel leol.

Dengys y ffigurau diweddaraf fod nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG wedi codi i 81,400 yn 2002 o’i gymharu â chyfanswm o 68,620 yn 1997. Mae hyn yn gynnydd o 5.8 y cant mewn un flwyddyn a chynnydd o 18.7 y cant er 1997. Cynyddodd nifer y nyrsys cymwysedig sy’n gweithio yn y GIG i 25,821 yn 2002, cynnydd o 1,382 mewn blwyddyn a 4,061 er 1997, sydd dipyn uwch na’r twf sy’n ofynnol er mwyn cwrdd â’r targed staffio o 6,000 o nyrsys ychwanegol erbyn 2010.

Mae nifer yr ymgynghorwyr wedi cynyddu o 1,267 yn 1997 i 1,526 yn 2002. Mae hyn yn gynnydd o 259 neu 20.4 y cant. Mae nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol (cyfrif pennau) hefyd wedi cynyddu o 8,058 yn 1997 i 9,888 yn 2002. Mae hynny’n gynnydd o 1,830 neu 22.7 y cant, er 1997. Ar hyn o bryd hefyd mae 849 o gofrestryddion arbenigol wrthi’n cael eu hyfforddi.

Mae nifer y swyddi nyrsio gwag wedi gostwng hefyd yr un pryd ag y bu cynnydd yn nifer y swyddi. Gostyngodd nifer y swyddi gwag i nyrsys cymwysedig yn y GIG i 3.2 y cant ym mis Mawrth 2003 o 4.1 y cant ym mis Mawrth 2002, gostyngiad o 827 i 665 cyfwerth ag amser llawn. Mae canlyniadau’r buddsoddi ychwanegol a llwyddiant y strategaethau recriwtio a chadw yn y GIG i’w gweld wrth i nifer y staff sy’n gweithio yn y GIG gynyddu ac i nifer y swyddi gweigion ostwng.

Niferoedd Cynyddol o Enedigaethau Cesaraidd

William Graham: A wnaiff y Gweinidog gydnabod y gofid sy’n cael ei fynegi am y nifer cynyddol o enedigaethau cesaraidd yng Nghymru? (WAQ35021)

Jane Hutt: Yr wyf yn ymwybodol y bu cynnydd yn nifer y genedigaethau cesaraidd yn holl wledydd y Gorllewin, ac mae patrwm cyffelyb yng Nghymru. Gall hyn ddeillio o nifer o ffactorau megis diogelwch i rai babanod nad ydynt wedi cyrraedd eu tymor llawn, babanod sy’n gorwedd o chwith, lle bo’r fam yn cario mwy nag un plentyn, y gallu i roi’r driniaeth tra bo’r fam yn effro a’r tad yn bresennol, a dewis y fam.

Cynhyrchwyd canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol ar enedigaethau cesaraidd gyda’r nod o atal ymyrryd dianghenraid wrth esgor. Mae holl unedau mamolaeth Cymru wedi datblygu polisïau sy’n hyrwyddo genedigaethau naturiol. Mae unedau mamolaeth Cymru’n defnyddio llwybr clinigol Cymru gyfan ar enedigaethau arferol—fframwaith seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymdrin â gofalu am fenywod wrth iddynt esgor yn naturiol, a’i nod yw lleihau pob ymyrryd dianghenraid.

Apwyntiadau Cleifion a Ganslwyd neu a Ad-drefnwyd

William Graham: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar nifer yr apwyntiadau â chleifion sy’n cael eu canslo a’u hail-drefnu gan ysbytai yng Nghymru? (WAQ35022)

62 Jane Hutt: Dim ond mewn perthynas â chleifion sy’n aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol y caiff ystadegau eu casglu. Yn ogystal, cesglir gwybodaeth am gleifion nad ydynt yn cadw eu hapwyntiad, ond ni chesglir gwybodaeth yn ganolog am apwyntiadau sy’n cael eu canslo gan yr ysbytai. Fodd bynnag, mae gan yr ysbytai systemau, yn cynnwys y system bwcio’n rhannol, i sicrhau bod nifer yr apwyntiadau cleifion a gollir yn cael ei gadw cyn ised â phosibl.

Ymwybyddiaeth o Hawl i Wasanaethau’r GIG

Laura Anne Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae’r Cynulliad yn sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod pa rai o wasanaethau’r GIG y mae ganddynt hawl iddynt? (WAQ35023)

Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu’r ‘Health and Social Care Guide for Wales’. Mae’r llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n rhoi cysylltiadau ffôn defnyddiol a chysylltiadau rhyngrwyd. Mae ar gael o feddygfeydd, deintyddfeydd, fferyllfeydd, llyfrgelloedd a Chanolfannau Cyngor ar Bopeth lleol. Mae wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o ieithoedd lleiafrifol a gellir ei archebu ar dâp sain ac mewn braille.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Cymru—HOWIS, www.wales.nhs.uk yn cynnig pwynt mynediad ar-lein at wasanaethau. Mae’n siop-un-stop lle ceir mynediad hwylus, a hynny ar unwaith, at wybodaeth iechyd a chysylltiadau at rannau perthnasol o wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Prosiectau Cychwyn Cadarn

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch faint o arian sy’n cael ei wario ar brosiectau Cychwyn Cadarn yng Nghymru fesul ardal awdurdod lleol? (WAQ35062)

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch nifer y plant sy’n elwa ar brosiectau Cychwyn Cadarn yng Nghymru fesul ardal awdurdod lleol? (WAQ35063)

Jane Hutt: O fis Ebrill 2003 mae’r grant Cychwyn Cadarn wedi cael ei gyfuno â’r gronfa bartneriaeth plant a phobl ifanc a’r strategaeth gofal plant i lunio Cymorth—y gronfa gymorth i blant a phobl ifanc. Nod Cymorth yw darparu rhwydwaith o gymorth sydd wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc, hyd at 25 oed, o deuluoedd difreintiedig.

Mae cyfanswm cyllid Cymorth ar gyfer 2004-05 yn £42.4 miliwn. Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol fuddsoddi hyn a hyn o fewn pob grŵp oedran. Mae’r buddsoddiad gofynnol ar wasanaethau i blant hyd at 10 oed yn 2004-05, ar ffurf canran, yn 48 y cant o leiaf.

Dyma’r dyraniadau Cymorth i bob awdurdod lleol yn 2004-05: Partneriaeth £ Ynys Môn 931,746 Blaenau Gwent 1,163,962 Pen-y-bont ar Ogwr 1,884,672 Caerffili 2,741,712 Caerdydd 5,324,097 Sir Gaerfyrddin 1,955,375 Ceredigion 773,254 Conwy 1,345,165 Sir Ddinbych 1,249,355 Sir y Fflint 1,786,956 Gwynedd 1,375,435

63 Merthyr Tudful 1,201,565 Sir Fynwy 914,510 Castell-nedd Port Talbot 2,123,561 Casnewydd 2,586,067 Sir Benfro 1,428,905 Powys 1,278,906 Rhondda Cynon Taf 3,365,120 Abertawe 3,674,781 Bro Morgannwg 1,847,410 Tor-faen 1,653,069 Wrecsam 1,809,377 Cymru 42,415,000

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio

Cynlluniau Peirianwyr Adeiladu

Mark Isherwood: A wnaiff y Gweinidog roi manylion y cynlluniau peirianwyr adeiladu cymeradwy ar gyfer adnewyddu (gorchudd brics ayyb) y stoc dai paneli concrit yng Nghymru? (WAQ34202)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio (Edwina Hart): Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw gynlluniau o’r fath yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw’r dulliau trwsio a gymeradwywyd gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ar gyfer cartrefi concrit cyfnerth sy’n cael ei gastio ymlaen llaw, a ddynodwyd o dan y ddeddfwriaeth gynharach i ymdrin â diffygion tai, yn berthnasol mwyach gan fod y ddeddfwriaeth honno wedi dod i ben.

Ceiswyr Lloches a Mewnfudo

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau â’i chydweithwyr yn San Steffan ynghylch polisi’r Llywodraeth ar geiswyr lloches a mewnfudo? (WAQ34284)

Edwina Hart: Yr wyf yn cael trafodaethau rheolaidd gyda’m cydweithwyr yn San Steffan am amryw o faterion. Yr wyf wedi ymateb yn ddiweddar i ymgynghoriad y Swyddfa Gartref ynghylch y Mesur Llochesu a Mewnfudo (Trin Hawlwyr, ac ati.).

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag Alcohol

Nick Bourne: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda heddluoedd Cymru ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol y tu allan i dafarndai a chlybiau nos? (WAQ34656)

Edwina Hart: Yr wyf yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r pedwar prif gwnstabl a’r awdurdodau heddlu dros Gymru a gwn fod ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol y tu allan i dafarndai a chlybiau nos yn fater sy’n peri pryder. Mae cyfarwyddwr Cymru dros ostwng lefel troseddu yn rhan o weithgor sy’n ystyried datblygu strategaeth i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Mae’r heddlu a’r partneriaethau diogelwch cymunedol ar draws Cymru hefyd wedi sefydlu nifer o gynlluniau i ymdrin â’r broblem ac mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 wedi rhoi arfau ychwanegol iddynt.

64 Swyddfeydd Post

Nick Bourne: Faint o swyddfeydd post sydd wedi cau yng Nghymru ers mis Mai 1999? (WAQ34657)

Edwina Hart: Cyn blwyddyn ariannol 2002-03, deallaf fod y Post Brenhinol yn cofnodi swyddfeydd post oedd yn cau yn ôl blwyddyn ariannol yn unig. Ers hynny mae’r swyddfeydd sy’n cau wedi cael eu cofnodi yn ôl chwarteri’r flwyddyn ariannol ond nid yw’r datganiadau terfynol am y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2004 wedi cael eu llunio eto. Fe’m hysbysir bod cyfanswm o 195 o ganghennau wedi cau yng Nghymru rhwng 1 Ebrill a 31 Rhagfyr 2003.

Tai Cyngor

Nick Bourne: Faint o gyllid preifat a ddefnyddiwyd i foderneiddio tai cyngor yng Nghymru? (WAQ34658)

Edwina Hart: Ariannir y rhan fwyaf o’r dyledion ar dai cyngor drwy fenthyciadau a godir oddi wrth y Bwrdd Benthyciadau Gweithfeydd Cyhoeddus. Nid oes ffigurau ar gael i ganfod lefel y dyledion ar dai cyngor sy’n cael eu hariannu drwy fenthyciadau a godwyd o ffynonellau eraill. Ni fu unrhyw gynlluniau cyllid preifat mewn perthynas â thai cyngor yng Nghymru gan nad oes arian ychwanegol ar gael i’w roi tuag at yr opsiwn hwn heb ailddosbarthu o’r cyllidebau sy’n bodoli’n barod.

Ymgyrch Tarian

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hynt Ymgyrch Tarian o ran mynd i’r afael â gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yng Nghymru? (WAQ34659)

Edwina Hart: Mae Ymgyrch Tarian wedi cael cryn lwyddiant eisoes, ac mae wedi dod o hyd i gyflenwadau sylweddol o gyffuriau dosbarth A ac wedi cipio asedau gwerth £1.7 miliwn. Mae’r tasglu’n gweithio ochr yn ochr â nifer o asiantaethau eraill ar amrywiaeth eang o gynlluniau penodol a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar y farchnad cyffuriau anghyfreithlon yng Nghymru.

Hebrwng Carcharorion

Nick Bourne: A yw’r Gweinidog wedi cael trafodaethau gyda chydweithwyr yn Whitehall ynghylch defnyddio cwmnïau preifat i hebrwng carcharorion yng Nghymru? (WAQ34660)

Edwina Hart: Nid yw’r polisi o ran carchardai yn rhywbeth yr wyf yn ei drafod yn rheolaidd gyda Whitehall, gan nad yw’n fater sydd wedi’i ddatganoli. Wedi dweud hynny, mae ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu cymunedau mwy diogel yn golygu bod llawer o faterion y mae angen gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai EM arnynt yng Nghymru ac yr wyf yn cwrdd â’r gwasanaeth carchardai a’r gwasanaeth prawf ar sail chwarterol.

Dibyniaeth ar Gyffuriau yng Nghymru Wledig

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y camau sydd ar y gweill i fynd i’r afael â’r rhai sy’n mynd yn gaeth i gyffuriau yng Nghymru wledig? (WAQ34661)

Edwina Hart: Ers imi ymateb ddiwethaf ichi ym mis Mawrth (gweler OAQ32461), yr wyf wedi cymeradwyo cynlluniau gweithredu lleol ar gamddefnyddio sylweddau pob un o’r 22 partneriaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru, a dechreuwyd rhoi’r cynlluniau ar waith ar 1 Ebrill eleni. Cafodd y fformiwla gyllido newydd ei chyflwyno hefyd yr un pryd.

65 Graffiti

Nick Bourne: Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i ddelio â phroblem graffiti? (WAQ34662)

Edwina Hart: Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn cynnwys darpariaethau i alluogi’r awdurdodau lleol i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am greu graffiti, dyletswydd newydd ar berchenogion dodrefn stryd i gadw eu heiddo yn lân rhag graffiti, a’r hawl i awdurdodau lleol adennill costau clirio graffiti oddi wrth berchenogion eiddo preifat. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn drosedd gwerthu paent aerosol i unrhyw un dan 16 oed.

Mae holl adrannau perthnasol awdurdodau lleol Cymru wedi cael eu hysbysu o ddyddiadau cychwyn gwahanol gymalau’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ddiweddar. Mae sawl partneriaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru eisoes yn gweithredu yn erbyn graffiti er mwyn annog balchder dinesig a lleihau ofnau pobl ynghylch troseddu.

Problem Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Nick Bourne: Sut mae polisïau’r Gweinidog yn mynd i’r afael â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol? (WAQ34663)

Edwina Hart: Mae cronfa cymunedau diogelach newydd y Cynulliad yn cefnogi prosiectau gan bartneriaethau diogelwch cymunedol sy’n mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws Cymru. Mae’r gronfa’n canolbwyntio’n bennaf ar droseddu a chreu niwsans gan bobl ifanc, yn enwedig os oes cysylltiad rhwng hynny a chyffuriau. Bydd y pum cynllun peilot ‘alley-gating’ y mae’r Cynulliad wedi’u cefnogi hefyd yn help i leihau niwsans.

Troseddu gan Ieuenctid

Nick Bourne: Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i ostwng achosion o droseddu gan ieuenctid? (WAQ34664)

Edwina Hart: Mae’r Cynulliad wedi dyrannu £11 miliwn o dan y gronfa cymunedau diogelach i’r 22 partneriaeth diogelwch cymunedol am y tair blynedd rhwng 2003-04 a 2005-06. Mae ffocws cryf o fewn y cynllun hwn ar leihau troseddu gan ieuenctid. Yn ogystal, caiff y strategaeth i Gymru gyfan ar droseddu gan bobl ifanc ei chyhoeddi’n fuan.

Pobl Ifanc yn Sefyllian ar Gorneli Strydoedd

Nick Bourne: Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i ddelio â’r broblem a achosir gan bobl ifanc yn sefyllian ar gorneli strydoedd? (WAQ34665)

Edwina Hart: Mae arian y Cynulliad yn cefnogi amryw o brosiectau sy’n ceisio denu pobl ifanc a’u dargyfeirio oddi wrth drwbl, yn cynnwys y Gronfa Cyfleoedd Newydd sy’n darparu cyllid ar gyfer cynlluniau difyrru yn ystod gwyliau’r ysgol yng Nghymru. Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi pwerau newydd i’r heddlu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn cynnwys y pŵer i wasgaru grwpiau mewn ardaloedd dynodedig os ydynt yn achosi pryder.

Tai Newydd a Godwyd (Gan Bob Awdurdod Lleol)

Glyn Davies: Faint o dai newydd a godwyd yng Nghymru ym mhob blwyddyn ers i’r Cynulliad Cenedlaethol gael ei ffurfio ac ym mhle y maent wedi cael eu hadeiladu (e.e. ardal awdurdod lleol)? (WAQ34739)

66 Edwina Hart: Dengys y tabl isod y wybodaeth a roddwyd i’r Cynulliad am nifer y tai newydd a godwyd bob blwyddyn ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r wybodaeth yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf 1999 a mis Mawrth 2003, a dyma’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael.

Tai a Adeiladwyd yn ôl Ardaloedd yr Awdurdodau Lleol Tai a Gwblhawyd (pob Daliadaeth): Gorffennaf 1999—Mawrth 2003 (a). Gorff 1999— Ebrill 2000— Ebrill 2001— Ebrill 2002— Cyfanswm Maw 2000 (b) Maw 2001 Maw 2002 Maw 2003 Ynys Môn 102 69 118 136 425 Gwynedd 65 110 110 152 437 Conwy 143 250 172 240 805 Sir Ddinbych 133 144 175 270 722 Sir y Fflint 450 286 225 171 1,132 Wrecsam 587 378 241 379 1,585 Powys 377 402 454 347 1,580 Ceredigion 160 262 222 177 821 Sir Benfro 238 331 283 258 1,110 Sir Gaerfyrddin 166 203 193 337 899 Abertawe 469 638 778 650 2,535 Castell-nedd Port Talbot 339 571 542 345 1,797 Pen-y-bont ar Ogwr 342 618 714 507 2,181 Bro Morgannwg 339 512 551 549 1,951 Caerdydd 957 786 1,210 1,485 4,438 Rhondda Cynon Taf 312 620 545 724 2,201 Merthyr Tudful 105 115 54 62 336 Caerffili 636 643 575 266 2,120 Blaenau Gwent 41 80 42 103 266 Tor-faen 152 102 117 134 505 Sir Fynwy 462 518 365 315 1,660 Casnewydd 340 695 587 701 2,323 Cymru 6,915 8,333 8,273 8,308 31,829 Ffynhonnell: Llywodraeth Cynulliad Cymru, datganiadau ystadegol WHO2. Nodiadau: (a) yn cynnwys tai a gwblhawyd gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r sector preifat. (b) mae’r cyfnod hwn un chwarter yn llai na blwyddyn lawn, gan i’r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu ar 1 Gorffennaf 1999.

Tai Cymdeithasol a Godwyd

Glyn Davies: Faint o dai cymdeithasol a godwyd yng Nghymru ers i’r Cynulliad Cenedlaethol gael ei ffurfio a phwy sydd wedi eu darparu, fesul categori (e.e. y cyngor, cymdeithas dai)? (WAQ34740)

Edwina Hart: Dengys y tabl isod y wybodaeth a roddwyd gan yr awdurdodau lleol am nifer y tai cymdeithasol newydd sydd wedi cael eu codi ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r tabl yn dangos cyfanswm cronnol y tai y dywedwyd iddynt gael eu hadeiladu rhwng mis Gorffennaf 1999 a mis Mawrth 2003.

Tai a Adeiladwyd yn ôl Ardaloedd yr Awdurdodau Lleol Tai a Gwblhawyd gan Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig: Gorffennaf

67 1999—Mawrth 2003 Awdurdod LleolLandlord Cyfanswm Cymdeithasol Cofrestredig Ynys Môn 0 0 0 Gwynedd 0 0 0 Conwy 30 15 45 Sir Ddinbych 0 158 158 Sir y Fflint 0 173 173 Wrecsam 0 0 0 Powys 0 59 59 Ceredigion 0 6 6 Sir Benfro 0 210 210 Sir Gaerfyrddin 0 50 50 Abertawe 0 453 453 Castell-nedd Port Talbot 24 384 408 Pen-y-bont ar Ogwr 0 111 111 Bro Morgannwg 0 98 98 Caerdydd 34 245 279 Rhondda Cynon Taf 0 136 136 Merthyr Tudful 0 97 97 Caerffili 33 218 251 Blaenau Gwent 0 27 27 Tor-faen 0 99 99 Sir Fynwy 0 178 178 Casnewydd 0 345 345 Cymru 121 3,062 3,183 Ffynhonnell: Llywodraeth Cynulliad Cymru: datganiadau ystadegol WHO2

Asesiad o’r Stoc Tai

Rhodri Glyn Thomas: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fwriadau Llywodraeth Cymru i gyflawni asesiad o’r stoc tai yng Nghymru? (WAQ34792) [W]

Edwina Hart: Mae’r arolwg o aelwydydd ac anheddau yng Nghymru, ‘Byw yng Nghymru’, yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd. Bydd yr arolwg yn darparu asesiad cadarn o natur a chyflwr y stoc dai yng Nghymru.

Cyllid Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Cyfryngol Gwirfoddol

Michael German: Faint o gyllid cymorth ar gyfer gwasanaethau cyfryngol gwirfoddol a ddaeth i law Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer 2004-05. (WAQ34846)

Edwina Hart: Mae £656,096 o gyllid craidd wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru o’r cynllun grant cymorth ar gyfer gwasanaethau cyfryngol gwirfoddol ar gyfer 2004-05.

Arian Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Cyfryngol Gwirfoddol

Michael German: Ac eithrio Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, pa sefydliadau eraill a gafodd arian grant cymorth ar gyfer gwasanaethau cyfryngol gwirfoddol ar gyfer 2004-05, a faint o arian a roddwyd i bob un ohonynt? (WAQ34847)

Edwina Hart: Mae’r sefydliadau sydd wedi cael cymorth o dan y cynllun grant tuag at wasanaethau cyfryngol gwirfoddol yn 2004-05 fel a ganlyn:

68

Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol £63,848 Celfyddydau Gwirfoddol Cymru £41,274 Rhwydwaith y Sector Gwirfoddol Du £61,146 Busnes yn y Gymuned £38,243 Cerdd Cymunedol Cymru £29,561 Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (Sefydliad) £28,136

Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Cyfryngol Gwirfoddol

Michael German: Beth yw rôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru o ran dosbarthu’r grant cymorth ar gyfer gwasanaethau cyfryngol gwirfoddol? (WAQ34848)

Edwina Hart: Nid oes ganddo rôl.

Rhaglen Addysg Cyffuriau, ‘Get Sorted’

Leighton Andrews: A all y Gweinidog gadarnhau a yw’r rhaglen arfaethedig ar gyfer addysg cyffuriau, ‘Get Sorted’, y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ei chefnogi, yn cydymffurfio â strategaeth addysg cyffuriau Cymru gyfan? (WAQ35012)

Edwina Hart: Nid oes strategaeth addysg cyffuriau i Gymru gyfan y byddai’n rhaid i ‘Get Sorted’ gydymffurfio â hi. Mae arian i roi’r strategaeth ar gamddefnyddio sylweddau ar waith yn cael ei gyfeirio at bartneriaethau diogelwch cymunedol lleol, sy’n gyfrifol am lunio cynlluniau gweithredu lleol a’u gweithredu. Mater i’r partneriaethau hyn yw penderfynu pa raglenni addysg sy’n diwallu anghenion eu hardal orau ac yn ategu’r rhaglen ysgolion i Gymru gyfan y mae’r Cynulliad yn ei chefnogi.

Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog ddweud a yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn berthnasol i Gymru ac, os nad ydyw, a oes ganddi gynlluniau i fabwysiadu’r ddeddfwriaeth? (WAQ35042)

Edwina Hart: Mae Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn berthnasol i Gymru. Mae rhai o’r darpariaethau eisoes wedi cael eu cyflwyno, a disgwylir y gweddill cyn diwedd y flwyddyn. Cafodd y darpariaethau a ddaeth i rym ar 30 a 31 Mawrth 2004 eu trafod yn y Cyfarfod Llawn.

Grantiau Adnewyddu

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r polisi mewn perthynas ag awdurdodau lleol sy’n dyfarnu grantiau adnewyddu er mwyn gwella eiddo yn eu hardaloedd? (WAQ35048)

Edwina Hart: Yn dilyn newidiadau, a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2003, i’r trefniadau o ran gwaith adnewyddu yn y sector preifat, bydd manylion am sut mae’r awdurdodau lleol yn darparu cymorth i wella tai yn y sector preifat yn eu hardaloedd yn cael eu cynnwys yn y polisi ar adnewyddu tai y bydd pob awdurdod yn ei gyhoeddi.

Grantiau Adnewyddu Eiddo Preifat

Nick Bourne: A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwahardd defnyddio derbyniadau cyfalaf sy’n deillio o werthu tai cyhoeddus yn eu hardaloedd ar gyfer grantiau adnewyddu eiddo preifat? (WAQ35049)

Edwina Hart: Cyflwynwyd darpariaeth i glustnodi’r cyfrif refeniw tai gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Defnyddiwyd y pwerau a ddarparwyd i’r Cynulliad yn Neddf Llywodraeth Leol 2003 i

69 ehangu’r egwyddor clustnodi i gynnwys y defnydd a wneir o dderbyniadau cyfalaf y cyfrif refeniw tai er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael eu cadw o fewn y cyfrif refeniw tai ac nad ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion cronfa’r cyngor.

Gwerthu Tai Cyhoeddus er mwyn Gwella’r Stoc Tai Preifat

Nick Bourne: Pryd y penderfynwyd ar y polisi o gyfyngu ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf sy’n deillio o werthu tai cyhoeddus er mwyn gwella’r stoc tai preifat? (WAQ35050)

Edwina Hart: Daeth y trefniadau diwygiedig sy’n deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, sy’n ymwneud â’r cyfrif refeniw tai, i rym ar 1 Ebrill 2004.

Derbyniadau Cyfalaf ar gyfer Gwella’r Stoc Tai

Nick Bourne: Pa ymgynghori a gynhaliwyd cyn llunio’r polisi ar wahardd defnyddio derbyniadau cyfalaf ar gyfer gwella’r stoc tai yn ardaloedd awdurdodau lleol? (WAQ35051)

Edwina Hart: Yr oedd hyn wedi’i gynnwys yn y ddogfen ymgynghori ‘Rhyddid a Chyfrifoldeb mewn Llywodraeth Leol’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2002, a’r papur ymgynghori manwl dilynol, ‘The Future of Local Authority Housing Finance in Wales’, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2003.

Cwestiynau i Bwyllgor y Tŷ

Agoriad Swyddogol Adeilad Newydd y Cynulliad

Nick Bourne: Pa gynlluniau sydd ar y gweill i nodi achlysur agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad, a beth yw’r costau disgwyliedig? (WAQ35309)

Y Dirprwy Lywydd (John Marek): Cyfrifoldeb y Weithrediaeth yw’r adeilad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau nad yw Pwyllgor y Tŷ wedi trafod unrhyw drefniadau ar gyfer yr agoriad eto.

70